Y Sioe Fawr: 'Llwyddiant' i'r rheolau ceffylau newydd

  • Cyhoeddwyd
ceffyl a menyw

Mae prif filfeddyg y Sioe Fawr wedi dweud nad oes yr un ceffyl wedi cyrraedd y sioe heb eu brechu yn erbyn y ffliw.

Lai na phythefnos cyn cychwyn canfed sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru daeth y cyhoeddiad y byddai disgwyl i bob ceffyl a oedd yn dymuno unai cystadlu neu cael eu harddangos fod wedi cael eu brechu rhag ffliw ceffylau.

Daw hyn ar ôl i ddwsinau o achosion o'r haint gael eu cadarnhau yn y gogledd, ac fe arweiniodd hynny at sawl sioe amaethyddol arall unai'n gosod rheol brechu neu'n canslo cystadleuthau'n gyfan gwbl.

Ddydd Llun fe gadarnhaodd trefnwyr y Sioe Fawr bod 15% yn llai o geffylau'n cystadlu eleni oherwydd y rheol newydd.

Gwarantu a gwirio pob ceffyl

"Mae 'di creu gwaith ychwanegol, ond ni wnaeth y penderfyniad, felly gallwn ni ddim achwyn am hynny," meddai Dafydd Alun Jones, Prif Filfeddyg y Gymdeithas.

"Mae e wedi creu lot o waith bo ni wedi newid y rheolau bod rhaid i geffylau gael eu brechu achos 'da ni'n gorfod gwarantu a gwirio pob ceffyl sy'n dod i mewn, edrych ar eu pasport nhw, checio bo nhw di gwneud beth 'da ni wedi dweud wrthyn nhw i'w wneud."

"Ond hyd yn hyn does dim un ceffyl wedi dod i'r sioe sydd heb gael eu brechu.

"Bydd rhaid i ni weld at y flwyddyn nesaf a fyddwn ni'n gwneud yr un fath eto," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Alun Jones hefyd yn ymddangos ar gyfres teledu 'Y Fets' ar S4C ar hyn o bryd

Dyma ydy blwyddyn gyntaf Dafydd Alun Jones fel Prif Filfeddyg y sioe, er ei fod wedi bod yn rhan o'r tîm milfeddygon adeg y sioe ers sawl blwyddyn.

Y llynedd fe roddodd Huw Geraint Jones o Filfeddygfa Deufor ym Mhwllheli y gorau i'r gwaith hwnnw ar ôl gwasanaethu'r sioe am dros y 25 mlynedd.

"Mae hi wedi bod yn sioe brysur, mewn gwirionedd," meddai Dafydd, sydd o ddydd i ddydd yn un o filfeddygon meddygfa Ystwyth yn Aberystwyth.

"Fy mhrif ddyletswyddau i fel Prif Filfeddyg ydy arwain y tîm - mae 'na chwech ohonon ni yma - ac mae'r penderfyniadau yn y diwedd yn dod drwydda i, ond dwi'n cymryd cyngor ganddyn nhw."

"Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n fwy profiadol na fi!"

Ddydd Mawrth fe gyrhaeddodd y tymheredd 29C yn Llanelwedd, ac roedd anifeiliaid yn ciwio er mwyn cael eu taenellu gyda dŵr y tu allan i'r siediau da byw.

"Mae gwres yn broblem, s'dim dwywaith, mae anifeiliaid yn dioddef yn y gwres, fel mae pobl," meddai Dafydd Alun.

"Mae'r Sioe wedi gwario dros y blynyddoedd i drio lleihau problemau - er enghraifft mae 'na ffans yn y siediau - ond hyn a hyn mae'r rheiny'n gallu gwneud pan mae hi'n llethol o boeth.

"Felly 'da ni'n gwneud ein gorau fel milfeddygon a'r ffermwyr i gyd sydd yma yn trio neud ein gorau i wneud yn siŵr nad ydy'r anifeiliaid yn gorboethi."