Boris Johnson yn addo Bargen Twf y Gororau wrth ymweld a'r gogedd

  • Cyhoeddwyd
Boris
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Boris Johnson i'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ar ddechrau ei ymweliad â Chymru ddydd Llun

Ar ymweliad â gogledd Cymru ddydd Llun i lansio maniffesto Cymreig y Ceidwadwyr mae Boris Johnson wedi dweud y byddan nhw'n buddsoddi yn sylweddol "unwaith bydd Brexit wedi ei gwblhau."

Fe wnaeth ei araith o flaen cynulleidfa o 150 o bobl ar gae rasio Bangor Is-coed yn Wrecsam, gan addo hefyd i gyflwyno Bargen Twf y Gororau a fydd yn "gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw ar ffin Cymru-Lloegr".

Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd Mr Johnson ei bod hi'n "ffantastic" dychwelyd i etholaeth De Clwyd, am ei fod wedi sefyll yno yn etholiad 1997.

Dywedodd hefyd y byddai ei blaid yn cefnogi ffermwyr Cymru a'r diwydiant dur.

Daw ei ymweliad ddiwrnod wedi iddo gyhoeddi maniffesto y Ceidwadwyr ar gyfer y DU yn Telford, sir Amwythig ddydd Sul.

Wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr dywedodd Mr Johnson y byddai addewid y blaid i gael mwy o nyrsys yn golygu y byddai "50,000 yn fwy o nyrsys."

Yn dilyn cwestiwn am amaeth dywedodd Mr Johnson y byddai'r fargen Brexit sydd wedi cael ei tharo yn "gwarchod y diwydiant ffermio", ac y byddai'n caniatáu i'w blaid ddod o hyd i farchnadoedd eraill.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai modd ymddiried ynddo, dywedodd "wrth gwrs", gan ychwanegu bod ymddiriedaeth yn fater gwirioneddol oherwydd methiant gwleidyddion ar draws Tŷ'r Cyffredin, a bod y Senedd "wedi torri".

'Gwella ffyrdd naill ochr y ffin'

Yn ôl 'dogfen gostau' y Ceidwadwyr, a oedd wedi ei chyhoeddi ochr yn ochr â'r maniffesto ddydd Sul, fe fyddai eu cynlluniau'n golygu £551m yn ychwanegol i Gymru dros y pedair blynedd nesaf i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn cyllideb o £14.4bn gan y Trysorlys.

Fe fyddai cynlluniau'r Ceidwadwyr hefyd yn golygu bod cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau isadeiledd yn cynyddu £1.25bn erbyn 2023/24.

Roedd maniffesto Prydeinig y Ceidwadwyr yn cynnwys adran benodol ar Gymru - adran a oedd yn addo "buddsoddiadau sylweddol" mewn isadeiledd a diwydiant petai'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol.

Ffynhonnell y llun, DANIEL LEAL-OLIVAS
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Boris Johnson maniffesto Prydeinig y blaid Geidwadol yn Telford brynhawn Sul

Roedd e'n cynnwys rhai cyhoeddiadau blaenorol (gorsaf reilffordd Gorllewin Cymru y tu allan i Abertawe) ac yn addo y byddai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn adeiladu ffordd osgoi'r M4.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid o £55m dros gyfnod o 15 mlynedd i Fargen Twf Canolbarth Cymru - a ddaeth wedi Bargen Ddinesig Caerdydd (£500m), Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dolen allanol (£115m) a Bargen Twf y Gogledd, dolen allanol (£120m).

'Y ddraig yn rhuo'n uwch'

Mewn datganiad cyn lansio y maniffesto Cymreig dywedodd Boris Johnson: "Gyda mwyafrif Ceidwadol, mi wnawn ni wella cysylltedd ac isadeiledd ar draws y wlad.

"Mae Bargen gyffrous Twf y Gororau yn rhan o'r weledigaeth yna ac mi fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl naill ochr y ffin."

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud mai eu dymuniad yw cydweithio â Llywodraeth Cymru a chynghorau naill ochr y ffin er mwyn sicrhau bargen a fyddai'n canolbwyntio ar well isadeiledd ffyrdd.

"Mae gan Lafur record wael yng Nghymru", meddai Mr Johnson yn ei ddatganiad, "ac nid ydynt wedi gwireddu eu haddewidion ym meysydd gofal iechyd a thrafnidiaeth. Fe fydd y Blaid Geidwadol yn unioni hynny."

"Ond er mwyn bwrw ymlaen â materion cartref a sicrhau ein cynlluniau cyffrous ar gyfer Cymru rhaid cwblhau Brexit, gwaredu rhaniadau y blynyddoedd diwethaf a chael y llywodraeth i weithio i chi unwaith eto.

"Yna fe fydd y ddraig goch Gymreig yn rhuo yn uwch nag erioed o'r blaen."