Ateb y Galw: Ifan Jones Evans
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Ifan Jones Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi i Lisa Angharad ei enwebu yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cynta' yw fi a mrawd yn mynd ar goll yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar ôl i ni grwydro i ffwrdd yn dawel bach tra bod mam a dad ddim yn gweld.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Teri Hatcher - y Bond girl yn 'Tomorrow Never Dies'! Pishyn a hanner bryd 'ny!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Y digwyddiad sy'n codi y mwya' o gywilydd arna i yw pan nes i gwmpo wrth fynd dros ben giât a torri fy mraich.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Wrth wylio'r ffilm 'Marley and Me'.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n un gwael am adael blewiach bach yn sinc y 'stafell 'molchi ar ôl siafio.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Barcelona. Lle byrlymus, a diddorol. Digonedd o bethe i'w wneud a bwyd da!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson orau erioed oedd pan 'nath fy nyweddi a rhai o'i ffrindiau hi drefnu parti syrpreis i fi, a dau o fy ffrindiau agos yn 30 rai wythnosau nôl. Noson a hanner yng nghanol cwmni da.
Oes gen ti datŵ?
Nagoes, dwi'n ormod o fabi i gal un!
Beth yw eich hoff lyfr?
Fy hoff lyfr yw hunangofiant Sir Alex Ferguson. Diddorol dros ben, yn enwedig y straeon am bethe oedd yn digwydd tu ôl i'r llenni fel petai.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Pâr o wellies ar y fferm. Fydde dim lot o siâp ffermio hebddyn nhw!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Fifty Shades of Grey' - ar ôl clywed am 'antics' y llyfr gan y missus, o'n i'n gobitho am dipyn o sioe, ond siomedig iawn odd hi ar y cyfan yn bersonol. Ond nes i fwynhau y gerddoriaeth yn y ffilm!
Dy hoff albwm?
Ar hyn o bryd, fy hoff albwm ydi 'x' gan Ed Sheeran. Ond dwi'n newid fy meddwl yn gyson.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs yn bendant. Er dwi'n hoff iawn o bwdin da hefyd! A ma' ambell i gwrs cynta' yn rhagori yn aml... dwi methu dewis, dwi'n joio bob un!
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Dibynnu beth sy' 'da chi i weud wrth y person arall! Ond ma' tecst yn rhwydd iawn.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Barack Obama. Dwi'm yn meddwl fod pobol yn gwerthfawrogi faint o straen sydd ar y dyn bob dydd. Dyw e ddim yn berchen ar 'i fywyd, achos mae'n cael ei reoli gan ddyletswyddau'r galw bob dydd. Felly fyddai'n ddiddorol gweld beth yw patrwm ei ddiwrnod a profi y fath bŵer!
Pwy sydd yn ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Trystan Ellis Morris.