Fy Stafell i: Aled Samuel
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd Aled Samuel yn adnabyddus am ymweld â chartrefi amrywiol, a thrafod pensaernïaeth a chynlluniau tai, ar gyfer cyfresi Dan Do a Pedair Wal i S4C.
Ond pa stafell sy'n bwysig iddo yn ei gartref ei hun? Mae wedi caniatáu camera Cymru Fyw i mewn i'w dŷ yn Llandeilo.
Mae'n ein harwain o gwmpas ei ystafell arbennig yn y to, lle mae'n sgriptio cyfresi fel Am Dro sydd ar S4C ar hyn o bryd, yn ysgrifennu colofn i gylchgrawn Golwg ac yn synfyfyrio. Mae hefyd yn ofod lle gall gael ei bethau allan o'i gwmpas heb boeni ei wraig, yr actores Rhian Morgan.


Dyma fy lle i yn y tŷ, ar y pumed llawr, yn y to.
Dyma'r stafell gynta' i ni wneud cyn symud i mewn, a dyna pryd grewyd fy nyth.

Yn anffodus, mae ymhell iawn o'r bwyd a'r coffi - mae'n rhaid mynd lawr pump llawr i'r gegin, mae hynny o fantais, neu fydden i â mhen yn y jar bisgedi rhan fwya' o'r amser.

Ma' digon o bethe lan fan hyn i gadw fy niddordeb i, y llyfre, cyfrifiadur, y gitârs a miwsig.
Ond mae hefyd yn storfa ar gyfer addurniadau Nadolig, gwely sbâr a stwff y teulu.

Oedd y ddesg 'ma gen i pan adawais i'r coleg.
Gradd celf sydd gen i, a ges i'r ddesg o siop yn Charles Street yng Nghaerdydd. Desg pensaer yw hi, ac mi oedd angen rhywbeth arna' i wneud gwaith celf. Fe fues i'n gweithio fel dylunydd i'r Urdd yn Aberystwyth am gyfnod.
Mae'n ddigon uchel, allai sefyll wrthi - sy'n help pan ti'n cyrraedd oedran lle mae codi lan yn bach o broblem!

Dyma Alwyn a Moira.
Mae'r gitâr acwstig yn ail law, fe brynes i hon yng Nghaerfaddon yn 1985, mae'n hyfryd. Yn ddiweddar iawn, fe wnes i ddigwydd tynnu'r foam oedd yn dal y gitâr yn y casyn, ac wedi sgrifennu arno mae'r geiriau Elvis Castello.
Fi ddim yn gwbod os mai fe oedd bia'r gitâr ar un adeg, ond mae e gen i ers 35 o flynyddoedd a 'wi wrth fy modd ag e.
Mae'r gitâr drydan yn gymharol newydd, mae tôn bendigedig arni a dyna pam 'wi'n dwli arni. Fe brynes i hi ar ôl i fy nhad farw gyda'r arian wnaeth e adael i fi ac felly dwi wedi ei enwi ar ei ôl e.
Alwyn yw'r gitâr drydan, a Moira yw'r llall. Doedd gen i ddim enw i'r un acwstig, felly dwi 'di galw hi yn Moira, ar ôl fy mam a fuodd farw tua 20 mlynedd yn ôl.

Mae gen i gasgliad mawr o gerddoriaeth. O'n i'n gyflwynydd rhaglenni cerddoriaeth ar Radio Cymru a Radio Wales yn y BBC yn y 1980au. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth a dwi wedi casglu lot fawr o records dros y blynyddoedd.
Erbyn diwedd y 1990au oedd gen i tua dwy neu dair mil o recordiau, ond dwi 'di gwerthu tua 1,500 ohonyn nhw. Ond mae 'na dipyn o gasgliad gen i o hyd.
Dwi wedi trio cyfleu y pleser o dynnu'r vinyl allan, ei darllen hi a gwrando ar y gerddoriaeth yn hamddenol i fy mhlant, ond dy'n nhw ddim yn deall hynny - maen nhw'n fwy tebygol o fynd at Spotify a lawrlwytho eu ffefrynnau.

Byddai'n mwynhau darllen. Fel arfer y llyfrau ffeithiol dwi'n darllen pan dwi adre, gan fwya', a nofelau pan dwi ar fy ngwylie.
Dwi hefyd yn mwynhau darllen llawlyfrau wrth gynllunio gwyliau a dwi'n dueddol o ddarllen llyfrau am bensaernīaeth ac ail-ddefnyddio. 'Wi'n lico'r syniad o ail-ddefnyddio rhywbeth sy'n bodoli'n barod ar gyfer rhywbeth arall.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn unrhywbeth sy'n defnyddio dychymyg.

Dwi ffili taflu dim byd bant, 'wi'n eistedd lawr ac yn meddwl mae popeth ar y silff 'ma yn fy atgoffa i o rywbeth. Mae'r llunie 'ma yn dod nôl ag atgofion - alla i enwi popeth sy' yma.
Manylion ein mis Mêl yn y Seychelles, llun o fy ffrind Andrew sy' bellach wedi marw... mae lot o resymau pam fod y pethau 'ma yma.

Mae lluniau o ffrindiau, teulu a'r partis dwi 'di bod iddyn nhw yn bwysig iawn i fi. Wedi meddwl, mae 'na lot o hen luniau ohona' i fy hunan gen i yma hefyd!

Dwi'n berson sentimental, dwi'n hoffi eistedd fan hyn a synfyfyrio am bethe ac edrych ar sgide' cynta' fy meibion i, y llunie… y pethe sydd gen ti, dyna dy gyfansoddiad di - dyna pwy wyt ti.
Mae'r stafell yma yn ymestyniad o fy nghymeriad i.

Ro'n i'n arfer rhedeg llawer, ac er nad ydw i'n rhedeg gymaint y dyddie hyn dwi'n dal i fynd i'r gampfa bob dydd. Mae'n bwysig, yn enwedig pan dy fod ti'n gweithio o adre', i fynd allan o'r tŷ bob dydd.

Llun o nhad a'm mam, gyda fy mrawd a chwaer, cyn i fy chwaer ifancaf gael ei geni.

Fe wnes i raddio mewn Celf, ac os af i Lundain neu i rywle, af i â llyfr sketch gyda fi, ac os oes hanner awr rhydd, wnai sgetsho.

Gan mod i'n ymweld â chymaint o dai wrth gyflwyno rhaglenni fel Dan Do, dwi'n ymladd yn erbyn y demtasiwn i wneud newidiadau adre', neu mi fydde'r tŷ 'ma yn newid bob pythefnos.
'Wi'n credu bod beth sy'n iawn mewn tai rhai pobl, ddim o reidrwydd yn iawn yn eich tŷ eich hunan. Mae lot o beth sy'n gweithio mewn tai i wneud â'r hyder sydd gan bobl i wneud beth maen nhw eisiau.

Mae'n dda i gael y stafell yma, achos mae fy ngwraig i'n meddwl mai clutter yw pethau fel hyn. Ni'n dadlau o hyd, dwi mo'yn rhoi fy mhethe mas a'u dangos nhw, ac mae Rhian am roi pethau heibio!
Dwi'n cael llonydd fan hyn.
Hefyd o ddiddordeb: