Ateb y Galw: Aled Samuel

  • Cyhoeddwyd
Aled Samuel

Tro'r cyflwynydd Aled Samuel yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Cleif Harpwood wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' yw tollti tun o baent dros ben y ferch oedd yn byw dau ddrws lan yng Nghwmafan. Ond ers hynny, dwi wedi deall mai HI dolltodd y paent dros fy mhen I! On'd yw atgofion yn dwyllodrus?!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Heblaw am ferch o'r enw Rhian Denby o'r ysgol, Dusty Springfield, definitely... gyda rhyw dwtsh bach o Helen Shapiro.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Deffro'n borcyn y tu allan i ddrws fy 'stafell gwesty a gorfod cripian i lawr i'r dderbynfa i ôl yr allwedd, gan wybod fod yna far llawn pobl drws nesa' iddo. Yn ffodus, roedden nhw i gyd rownd y gornel! Dim meddwdod oedd hyn - cerdded yn fy nghwsg o'n i. Dwi ddim wedi gwneud ers blynydde, ond dwi bob amser yn gwisgo pyjamas nawr, rhag ofn!

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Aled a Mr Bean lawer yn gyffredin...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan glywais i Lleuwen Steffan yn canu yn Pontio dros yr haf. Mae 'na rywbeth rhyfeddol amdani.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Faint o amser sy' 'da chi?! Cannoedd! Y prif un yw rhoi off gorfod gwneud penderfyniadau - 'na i jest aros ac aros...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Am gwestiwn anodd - mae gen i lot ohonyn nhw. Mae lle dwi'n byw yn amlwg yn arbennig, a dwi'n mynd am dro i Gastell Dinefwr yn aml efo Rhian, y wraig. Dwi'n trio dychwelyd i Gwmafan yn eithaf rheolaidd, ac ro'n ni'n mynd i Geinewydd ar wyliau eithaf dipyn. O a mae Trefaldwyn yn hyfryd... Llawer gormod i'w henwi!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n cofio un noson arbennig dreulion ni fel teulu ar draeth yn San Sebastián, yn gwylio tân gwyllt anhygoel. Roedd hwnnw'n eitha' sbesial. A 'na i fyth anghofio Nerys Jones, cyfaill Rhian, yn canu Let the Bright Seraphim yn ystod ein gwasanaeth priodas ni, a thrympedwr yn ymuno mewn i gyfeilio o'r balconi. Bythgofiadwy!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hen, tew, blin.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm Gymraeg yw Aderyn Papur, sef hen hen ffilm gyda Richard Love. Mae gen i lot o hoff rai Saesneg, ond mae'n siŵr mai Heat of the Night gyda Sidney Poitier a Rod Steiger sy'n ennill.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi'n meddwl 'sa hi'n braf cael diod gyda Jim, fy Nhad-cu, gan mod i ddim wedi bod digon hen i gael peint 'da fe pan oedd e'n fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diolch i Rhian ei bod hi ac Aled wedi priodi...!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae pawb yn gwybod y rhan fwyaf o bethau amdana' i, gan mod i mor llafar! Ond mae'n siŵr fod llawer o bobl ddim yn gwybod mai Rhian ofynnodd i mi ei phriodi hi. Mae hi'n dweud y basen ni dal yn ddi-briod tasai hi'n aros amdana i (gweler y cwestiwn uchod am fy arferion drwg...)!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi'n meddwl 'swn i'n gwneud yn union yr un fath â phob diwrnod arall. Dwi'n teimlo weithiau fod yna ormod o bwysau i'r dyddiau 'pwysig' 'ma, fel Nadolig a Nos Calan, fod yn 'fawr'. Waeth i chi jest mwynhau be' chi'n ei 'neud.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dwi wrth fy modd â Cymru, Lloegr a Llanrwst gan Y Cyrff - mae'n wefreiddiol ac yn llawn egni, a dwi'n dwli arno fe! O ran sengl Saesneg, dwi wastad wedi hoffi You're all I need to get by gan Marvin Gaye a Tammi Terrell - mae'n gân grefftus iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n siŵr fod Aled wedi gwirioni ar fersiwn CoRwst o Cymru, Lloegr a Llanrwst yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf fyddai pysgod o ryw fath, a dwi'n meddwl mai pysgod fyddai'r prif gwrs hefyd - dwi wrth fy modd gyda phenfras (a 'swn i'n bwyta 'sgod a sglod a phys unrhyw adeg o'r dydd!). Ac o ran pwdin... mae fy ngwraig bob amser yn dweud fy mod i'n aros i'r gweinydd fynd drwy'r rhestr hirfaith o bwdinau, cyn gofyn "Do you have any ice cream?". Dwi wrth fy modd â hufen iâ, ac yn ffodus mae 'na gwmni hufen iâ hyfryd a blasus iawn yma yn Llandeilo.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun iau, teneuach a llai grumpy...!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhys ap William