Sgwrs tair awr wnaeth achosi i Aled Samuel roi'r gorau i ysmygu
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu bob blwyddyn, ac mae yna nifer o ddulliau gwahanol y dyddiau yma allai fod o gymorth.
Mae gwefan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, Helpa fi i stopio, dolen allanol, yn cynnig cyngor i bobl ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu.
Y cyflwynydd Aled Samuel sy'n sôn am ei brofiad anghonfensiynol, 30 mlynedd yn ôl, a'i berswadiodd i roi'r gorau iddi, unwaith ac am byth.
1988
O'n i wedi dechre smocio'n yr ysgol, tua 16, 17 oed - felly o'n i wedi bod wrthi ers rhyw 15 mlynedd erbyn hynny.
O'n i'n smocio 30 y dydd, a mwy ar y penwythnose. Pan dwi'n meddwl amdano fe nawr, mae e mor stiwpid!
Ro'dd fy nghariad i ar y pryd wedi clywed am Allen Carr, oedd wedi sgrifennu llyfr o'r enw Easy Way to Stop Smoking, ac roedd pobl yn dweud ei fod e'n llwyddiannus iawn.
O'n i'n sgrifennu yn Llundain gyda Mark Evans (y cyfarwyddwr) ar y pryd, a ffoniodd fy nghariad i a dweud ei bod hi wedi ein bwcio ni'n dau ar gwrs roedd Allen Carr yn eu cynnal yn ei dŷ. "O, diolch yn fawr!" medde ni, ddim yn frwdfrydig o gwbl!
Aethon ni yno yn ddau ddyn blin...
Doedden ni ddim wir eisiau rhoi'r gorau iddi - roedden ni efallai yn licio'r syniad o wneud, ond heb yr ymroddiad oedd ei angen i gwblhau'r dasg.
Smocion ni'r holl ffordd ar y trên, wrth gerdded lan y stryd i'w dŷ e, ac wedyn aros ger y drws ffrynt cyn mynd i mewn yn benderfynol o gael un sigarét ola'!
Aethon ni i barlwr mawr, gydag wyth cadair gyfforddus ar ein cyfer ni i gyd mewn hanner cylch o flaen y lle tân, â'r dyn 'ma yn sefyll yn y canol.
Wrth ei ymyl, roedd pentwr o focsys o sigaréts o bob math, a'r peth cynta' ddywedodd wrthon ni oedd "helpwch eich hunain i sigaréts, faint fynnoch chi, achos dwi'n gwybod os na fyddwch chi'n smocio, fyddwch chi ddim yn gwrando ar air dwi'n ei ddweud".
Fuon ni yno am dair awr gyda fe'n siarad, a ni'n smocio. Roedd e wedi bod trwy'r profiad ei hunain - roedd e'n arfer smocio rhyw 70 y dydd - ac wedi gweld y gwirionedd.
Gwnaeth i ni sylweddoli beth yn union yw smocio ar lefel sylfaenol - ti'n rhoi planhigyn mewn papur, ei roi ar dân, ac anadlu'r mwg i mewn i dy ysgyfaint. Os ti'n edrych arno fel'na, mae mor afiach ac mor beryglus. Pam fyddet ti eisiau cario 'mlaen?!
Tua ugain munud cyn diwedd y sesiwn, ddywedodd e ei fod e ishe i ni smocio ein sigarét olaf ond un. Ychydig wedyn, ein sigarét olaf.
A dyma ni'n gadael y tŷ, yn gwbl argyhoeddedig na fyddwn ni byth yn smocio eto.
Roedd y trawsnewidiad yn anhygoel
Unwaith ti'n ei weld e am beth yw e - pa mor ddychrynllyd yw e - mae'n hawdd wedyn.
O'dd e wedi dweud ambell i beth o'dd yn swnio'n hollol stiwpid ar y pryd - "y tro nesa' welwch chi rywun sy'n smocio, fyddwch chi'n sylweddoli pwy mor sâl maen nhw'n edrych". "C'mon!" feddylies i.
Ond gerddon ni i dafarn ar ôl gadael y sesiwn, ac roedd dau neu dri boi yno'n yfed a smocio - 'na i fyth anghofio'r darlun ohonyn nhw gyda ffag yn eu ceg, bron wedi llosgi i'r pen, a golwg wirioneddol sâl arnyn nhw. Roedd beth ddywedodd e mor wir.
O'n i wedi trio ambell i dro cyn hynny
'Nes i roi lan am flwyddyn gyfan unwaith, a 'sen i 'di lladd rhywun am ffag bob dydd... ac i ddathlu, nes i ddechre smocio eto!
Ond gwnaeth Allen Carr i ni sylweddoli pa mor hawdd oedden ni wedi cael ein twyllo gan sigaréts, y nicotin... Ddywedodd e fod cael sigarét yn rhoi hyder ac edge i ti... ond wedyn mewn rhyw ugain munud ti angen edge arall, ac un arall. O smocio, rwyt ti'n creu'r angen, wedyn mae'r angen yn dy reoli di.
Ond pan ti'n edrych arno go iawn, ti'n ei gasáu e, ac mae'r 'angen' yn diflannu.
Dwi ddim wedi cael sigarét, nac wedi bod eisiau un mewn 30 mlynedd
Es i at chiropodist yn ddiweddar, ac mae gen i farc tywyll ar sawdl fy nhroed, sydd, mae'n debyg, yn arwydd mod i wedi smocio un tro.
Mae nghorff i dal i ddangos ôl y sigaréts 30 mlynedd ers rhoi'r gorau iddi - ac yn anffodus fedra i dal ddim cael gwared o hwnna!