Storm Ciara: Eira'n gwneud y clirio yn anodd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gymunedau ar hyd Cymru yn cyfri'r gost a chlirio'r difrod yn sgil effaith dinistriol storm Ciara dros y penwythnos.
Nos Sul, roedd yn rhaid i nifer o bobl dreulio'r noson mewn llety argyfwng ar ôl cael eu symud o faes carafanau yn Llanelwy, ac mae cannoedd o bobl yn parhau heb drydan.
Fe achosodd y storm broblemau difrifol ar y ffyrdd, i drenau ac i deithiau nifer fawr o gefnogwyr rygbi Cymru wrth geisio dychwelyd o Ddulyn ar ôl y gêm yn erbyn Iwerddon.
Bellach mae chwech rhybudd llifogydd yn parhau mewn grym, ac mae dwy ysgol yn Sir Conwy - Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ac Ysgol y Creuddyn yn Llandrillo yn Rhos - ar gau ddydd Llun.
Yn ogystal mae Ysgol Bro Idris yn Nolgellau wedi cyhoeddi eu bod yn cau am weddill dydd Llun gan fod eira'n disgyn yn yr ardal.
Ffyrdd ar gau
Mae'r eira sy'n disgyn wedi golygu fod yr A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala wedi cau am gyfnod.
Daeth cyngor gan Heddlu'r Gogledd a Chyngor Gwynedd o osgoi gyrru ar hyd Bwlch y Gorddinan ar yr A470 gan fod eira trwm yno, ac mae'r sefyllfa'n fregus ar nifer o ffyrdd eraill yn ardal de Gwynedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisoes mae nifer o ysgolion yng Ngwynedd wedi gorfod cau oherwydd yr eira. Gallwch weld rhestr lawn o'r ysgolion sydd ar gau ar wefan Cyngor Gwynedd, dolen allanol.
Mae cyfyngiadau cyflymder yn parhau ar Bont Britannia rhwng Môn a Gwynedd o achos cryfder y gwynt, ac mae disgwyl i'r gwyntoedd cryfion barhau drwy gydol y dydd a dros nos.
Mae storm Ciara wedi effeithio ar nifer o ffyrdd ar draws Cymru gyda sawl un yn parhau ar gau. Yn Llanrwst bu'r A470 ar gau ger Pont Waterloo a ger troad Tyn-y-Groes.
Yn Abergele roedd ffordd yr A547 ar gau ac ym Machynlleth bu'r A487 ar gau hefyd.
Ger Merthyr Tudful roedd Heol Cyfarthfa wedi'i rhwystro gan goeden sydd wedi disgyn ger Castell Cyfarthfa ac yn Llangadog bu'r A4069 ar gau wedi i'r afon orlifo.
Yn Llanrwst fe gafodd nifer o fusnesau eu heffeithio, ac mae sawl un yn lleol wedi gofyn pam fod y dref wedi dioddef effaith llifogydd unwaith eto.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd y cynghorydd lleol Aaron Wynne: "Beth sydd wedi digwydd o be' 'da ni'n wybod hyd yma ydy bod yr afon Conwy wedi dal ond bod y nentydd bach sydd wedi llifo drwy'r dref - dyna sydd wedi creu trafferth y tro yma, ac mae 'na nifer fawr o fusnesau a tai ar hyd y nentydd bach wedi cael eu heffeithio.
"Yn amlwg 'da ni'n byw mewn lle sydd yn cael lot o lifogydd a lot o law ond mae 'na wastad rhywbeth mae modd ei wneud. Mae un tŷ yn ormod - mae hyn yn ddegau o dai sydd wedi cael eu heffeithio."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gynllunio yn well - mae hynny yn amlwg. Ddaru'r cynllun atal llifogydd gael ei roi yn ei le yn 2010, ac mae'r nentydd bach wedi dal ers hynny.
"Yn amlwg dydy o ddim wedi gweithio y tro yma ac mae'n rhaid i ni weld beth sydd wedi digwydd."
Dywedodd Huw Prys Jones, maer Llanrwst, fod y llifogydd diweddaraf yn gofyn am rybudd ar gyfer y math mwyaf difrifol o berygl, ac mae angen atebion gan yr awdurdodau am pam fod hyn wedi digwydd.
"Mae 'na ddŵr wedi cronni yn rhai o'r afonydd bach yma - mae wedi llifo i lawr yn sydyn ac mi fydd pobl y dref yma angen atebion a hynny ar frys i weld beth sydd wedi digwydd."
Mae arweinydd Cyngor Sir Conwy, y Ceidwadwr Sam Rowlands wedi addo ymchwilio i sut fod rhannau o Lanrwst wedi bod dan ddŵr er bod amddiffynfeydd ger yr afon wedi aros yn eu lle.
Roedd y Cynghorydd Wynne wedi cyhuddo'r cyngor o fethu â chlirio ffosydd sydd wedi'u dylunio i ddargyfeirio dŵr llifogydd.
"Beth yw'r pwynt o gael cynllun atal llifogydd pan mae wedi'i rwystro?" gofynnodd.
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands y bydd y cyngor yn cynnal "ymchwiliad llawn cyn gynted â phosib".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor bod y ffosydd wedi cael eu clirio ddydd Gwener, ond eu bod wedi cael eu rhwystro dros y penwythnos gan weddillion oedd wedi'u cario gan y llifogydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Dywedodd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru wrth y Post Cyntaf fod y darlun yn un cymhleth wrth esbonio pa gyrff sydd yn gyfrifol am glirio nentydd ac afonydd er mwyn ceisio atal llifogydd.
"Mae'n dibynnu beth ydi diffiniad yr afon," meddai. "Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am beth sydd yn cael ei ddiffinio fel prif afonydd, a'r cynghorau lleol sydd yn gyfrifol am yr afonydd llai.
"Dydy o ddim wastad yn dilyn fod yr afonydd bach yn rhai llai a'r prif afonydd yn rhai mawr ond felly mae hi'n gyffredinol."
Ychwanegodd mai'r cam nesaf i Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai asesu'r hyn ddigwyddodd er mwyn gweithredu i'r dyfodol.
"Heddiw mi fydda ni'n symud ymlaen rŵan i edrych yn union le gafodd ei effeithio, pa eiddo sydd wedi cael eu llifogi," meddai.
"Mi fydd rhai gwybodaeth ganddo ni, mae 'na wybodaeth gan y cynghorau, mae 'na wybodaeth gan y gwasanaethau brys - gwasanaeth tân a heddlu ac eraill.
"Dros y dyddiau nesaf mi fydda ni'n tynnu'r wybodaeth yna at ei gilydd - edrych ar y data o'r afonydd, data glawiad hefyd yn edrych sut gwnaeth y storm effeithio ar yr ardal yma - sut wnaeth ein hafonydd ni ymateb.
"Dwi ddim yn meddwl fod hi'n addas i ni ddweud ar hyn o bryd pwy sy'n gyfrifol am y dŵr a pa afon sydd wedi achosi'r llifogydd - mae'r afonydd i gyd yn rhedeg i mewn i'w gilydd a 'da ni angen ei ystyried o fel dalgylch cyfan ac edrych ar y sefyllfa yn nalgylch Conwy ac ardaloedd eraill gafodd eu heffeithio ar y cyd gyda phartneriaid lleol."
Amddiffynfeydd pwrpasol?
Felly oedd y gwaith atal o lifogydd sydd wedi ei gwblhau yn Llanrwst yn ddigonol, o gofio am y llifogydd diweddaraf?
Dywedodd Sian Williams mewn ymateb: "Mae dalgylch Conwy yn dreinio ardal anferthol o ogledd Cymru ac wedyn wrth fod cymaint o ddŵr yn disgyn ar Eryri ac yn dod i lawr drwy ardal mor gul ac sydd 'na yn nyffryn Conwy mae o'n creu rhyw fath o rwystr yn fan'na a dyna un o achosion y llifogydd a dyna pam mae o yn cael ei effeithio yn y ffordd y mae o.
"Yn yr achos yma - yn dilyn llifogydd blaenorol - mi wnaethon ni adolygiad o'r amddiffynfeydd a'r system yn nyffryn Conwy. Canolbwynt yr astudiaeth yna oedd edrych ar yr amddiffynfeydd ar yr afon Conwy ei hun.
"Mae'n ddyddiau cynnar ond mae'n edrych ar hyn o bryd nad oedd eiddo wedi cael ei llifogi o afon Conwy, felly mae'n bwysig ein bod ni'n deall yn union beth sydd wedi achosi'r llifogydd. O ble mae'r dŵr wedi dŵad ac adolygu yn dilyn hynny eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020