Storm Ciara: Trafferthion ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn achosi trafferthion mewn sawl ardal wrth i storm Ciara daro Cymru.
Mae'r tywydd wedi achosi llifogydd yn ardal Llanrwst, ble gafodd dynes ei hachub o'i campervan, ac mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio yn Llanelwy yn sgil pryder ynghylch lefel Afon Elwy.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu canolfan argyfwng ar gyfer trigolion sy'n cael eu heffeithio gan y sefyllfa yn Llanelwy.
Mae rhybudd oren am wynt mewn grym ar draws Cymru tan 21:00 nos Sul, a bydd yn newid i rybudd melyn wedi hynny tan 23:59.
Roedd yna rybudd melyn am law trwm hefyd mewn rhannau helaeth o'r wlad ond daeth hwnnw i ben am 18:00.
Dywedodd Bob Nellist, rheolwr gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, eu bod yn helpu "nifer o drigolion" yn ardal Llanrwst wedi i lifogydd effeithio ar ffyrdd a nifer o dai yno.
Roedd y criw a achubodd y ddynes o'i campervan, meddai, "yn dweud bod y dwr at eu canol".
Ychwanegodd eu bod wedi derbyn "nifer fawr o alwadau ar draws gogledd Cymru".
Mae Ysgol Dyffyn Conwy, Llanrwst wedi cadarnau ar eu cyfrif Twitter y bydd ar gau i ddisgyblion ddydd Llun "yn dilyn storm Ciara a llifogydd trwm ar y safle".
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi gwagio parc carafanau Spring Gardens a thai yn Llys y Felin, yn Llanelwy wrth i lefel Afon Elwy godi.
Ychwanegodd y llu ar bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sefydlu canolfan argyfwng yn y ganolfan hamdden leol a bod yr holl asiantaethau yn cadw golwg ar y sefyllfa.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd difrifol yn rhannau o'r ddinas, ond mae'r rhybudd llifogydd, dolen allanol bellach wedi cael ei israddio.
Amodau peryglus
Cafodd sawl rhybudd arall eu cyhoeddi, dolen allanol yn ystod y dydd - rhai mewn mannau ar hyd arfordir y canolbarth a de orllewin Cymru, ble roedd disgwyl gwyntoedd rhwng 70 a 80 mya.
Ond cafodd yr hyrddiad mwyaf trwy Brydain - 93 mya - ei gofnodi yn Aberdaron, yng Ngwynedd, ddydd Sul.
Dros nos cafodd hyrddiad o 86 mya ei gofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri.
Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod "amodau yn beryglus eithriadol" a bod angen i'r cyhoedd "gadw'n glir o'r arfordir ac o lannau afonydd".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r tywydd wedi amharu ar gyflenwadau trydan mewn mannau.
Erbyn dechrau'r prynhawn roedd 4,542 gwsmeriaid Western Power Distribution heb drydan - yn yr ardaloedd rhwng Sanclêr yn Sir Gâr a Thyndyrn yn Sir Fynwy, a rhwng Porthcawl yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys.
Roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i 2,856 erbyn diwedd y prynhawn.
Roedd 57 eiddo ar draws y gogledd heb drydan am 11:15 yn ôl gwefan Scottish Power.
Cafodd nifer o wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru ddydd Sul eu canslo neu eu haddasu, a'r cyngor i deithwyr yw i chwilio am y manylion diweddaraf, dolen allanol cyn dechrau ar eu siwrne.
Mae rheolwyr yn rhybuddio y bydd ambell reilffordd yn dal ar gau ben bore Llun tra bo gwaith yn mynd rhagddo i asesu ac atgyweirio unrhyw ddifrod yn sgil llifogydd.
Bydd yna wasanaeth bws ar lein Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ac ar Lein Cambria rhwng Aberystwyth a'r Amwythig a rhwng Machynlleth a Phwllheli.
Bu'n rhaid canslo rhai gwasanaethau fferi Stena Line, dolen allanol ac Irish Ferries, dolen allanol, oedd â goblygiadau i gefnogwyr rygbi sy'n teithio'n ôl o Ddulyn wedi gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Cafodd rhai hediadau o faes awyr Dulyn i Gaerdydd, dolen allanol brynhawn Sul eu canslo.
Trafferthion i yrwyr
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n annog y cyhoedd i deithio "gyda gofal a dim ond os oes gwir angen".
Roedd Pont Britannia rhwng Ynys Môn a Gwynedd ar gau i bob cerbyd, ond mae bellach wedi ailagor i geir. Bu'n rhaid cau Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd i gerbydau uchel.
Roedd yna hefyd gyfyngiadau ar yr M48 Pont Hafren, a bu'n rhaid cau Pont Llansawel yng Nghastell nedd Port Talbot, gyda threfniadau i ddargyfeirio cerbydau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r tywydd hefyd wedi arwain ar orfod cau nifer o ffyrdd eraill, gan gynnwys yr A470 i'r ddau gyfeiriad yn Llanrwst a Phont Dyfi ger Machynlleth.
Roedd yr A5 ar gau ger Llyn Ogwen, Bethesda am rai oriau oherwydd tirlithriad ond mae bellach wedi ailagor, a bydd Pont Sir Y Fflint yn ailagor am 20:00, yn ôl Cyngor Sir Y Fflint.
Dywedodd cwmni bysiau Lloyd bod dim dewis ond canso'i wasanaethau yn y canolbarth a Gwynedd gan effeithio ar deithiau rhwng Tywyn a Machynlleth, Aberystwyth a Bangor, a rhwng Wrecsam a'r Bermo.
Bydd Ysgol y Creuddyn, ym Mae Penrhyn, ar gau ddydd Llun "o ganlyniad i'r difrod yma a'r risg sylweddol y bydd mwy o lechi yn disgyn", gyda'r bwriad o "ail-asesu'r sefyllfa yn y bore".
Cafodd difrod ei achosi i do hen safle Coleg Llandrillo yng nghanol Dinbych.
Roedd yna rybudd hefyd gan yr heddlu i'r cyhoedd osgoi parc manwerthu Mostyn Champneys yn Llandudno, am fod yr ardal yn beryglus wedi i'r gwynt chwythu arwyddion rhai o'r siopau i lawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020