Oriel luniau: Difrod Storm Dennis
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos ddiwethaf mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dygymod ag effaith Storm Dennis.
Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd sylweddol y penwythnos diwethaf gyda Heddlu De Cymru yn cyhoeddi "digwyddiad difrifol". Y gred yw bod gwerth mis o law wedi disgyn mewn cyfnod o 48 awr yn unig.
Daeth y dinistr wythnos yn unig wedi i Storm Ciara hefyd greu difrod ar hyd a lled Cymru.
Mae'r lluniau yma'n dangos grym y storm ddiweddaraf a dygnwch y cymunedau gafodd eu heffeithio.
Ymateb Alun Thomas, Newyddion BBC Radio Cymru
"Mae'r Taf yn afon nwyfus
Ofnadw o gynhyrfus"
Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, atgoffodd ni ar Twitter fore Sul o un o Dribannau Morgannwg yn cyfeirio at rym afon Taf.
Doedd dim angen atgoffa trigolion Pontypridd, Trefforest, Nantgarw a Ffynnon Taf o hynny, wrth iddyn nhw orfod dygymod ag effaith storm Dennis. Fe gododd yr afon i'w lefel ucha' erioed, gan lifo i gartrefi a busnesau.
Ar un adeg ddechrau'r wythnos, roedd dros hanner cant o fusnesau a sefydliadau ynghau ynghanol tref Pontypridd. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd rhai o'r rheini wedi llwyddo i ail-agor - i eraill mae maint y difrod yn golygu bydd yn cymryd rhai misoedd i ddod yn ôl ar eu traed.
Ond er y difrod, mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld ymdrechion aruthrol gan y gymuned i adfer y sefyllfa.
Erbyn bore Llun, roedd prif stryd Pontypridd yn ferw gwyllt o glirio, gyda loriau yn cludo sgipiau niferus mewn a mas o ganol y dref, wrth i'r gwaith glanhau ddechrau. Fe dyrrodd gwirfoddolwyr o bob cyfeiriad i helpu - i frwsio a chario, i gynnig paned a bwyd. Ac roedd yr arian yn llifo hefyd - mae sawl apêl wedi'u sefydlu arlein, a miloedd wedi cyrraedd y coffrau.
Efallai bod yr afon nwyfus wedi cael y gorau o bobl Pontypridd am gyfnod y penwythnos diwetha', ond mae'r ymdrechion i gael y dref yn ôl ar ei thraed wedi hen ddechrau.
Hefyd o ddiddordeb: