Lluniau: Am dro yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfyngiad ar deithio yn sgil y coronafeirws yn golygu bod sawl un yn dod i adnabod eu cymdogaeth yn well nag erioed o'r blaen ar eu un tro y dydd.
Dyma ddod i adnabod un tro byr yng Nghaernarfon i ben Twthill, y graig fawr sy'n edrych dros y dref ac yn rhoi golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri a glannau Ynys Môn yn ystod y pandemig.
Rydyn ni ar stryd Dwyrain Twthill yn edrych i lawr Heol Elinor sy'n arwain y llygaid tuag at Mynydd Mawr - neu Mynydd Eliffant i bobl yr ardal oherwydd ei siâp arbennig.
Mae'n braf cael amser i sylwi ar arwyddion y gwanwyn, fel blodau gwyn tlws y ddraenen ddu.
Er ein bod yn y dref, mae natur o'n cwmpas yn y cilfachau lleiaf.
Ac arwyddion codi calon ym mhob man wrth i'r enfys ddod yn symbol o obaith ac o ddiolch i'n gweithwyr allweddol
Wedi troi oddi ar y stryd mae clychau'r gog yn ein croesawu wrth inni ddechrau dringo'r bryn creigiog. Ben Twthill ydy'r enw sy'n cael ei arfer arno bellach ac mae'n hen safle amddiffynnol a hanes am frwydro yma yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Mewn brwydr yma hefyd maen nhw'n dweud i Owain Glyndŵr gario ei faner draig aur am y tro cyntaf.
Munudau mae'n gymryd i gyrraedd y copa ...
... ond mae'r panorama yn werth chweil, dros doeau llechi'r dref draw am Fynydd Eliffant ac Eryri...
... tua'r gorllewin uwch tyrau castell Edward 1af am yr Eifl ac arfordir gogledd Llŷn...
... a draw am Abermenai ac arfordir Ynys Môn sy'n edrych fel pe bai ddim ond dafliad carreg i ffwrdd.
Mae'r eithin yn ei anterth a'r melyn yn cyferbynnu'n berffaith gyda glas y Fenai a'r awyr glir
Man heddychlon i gofeb i rai o'r bechgyn lleol a laddwyd yn ystod Rhyfel y Boer yn Ne Affrica 1899-1902.
Yn nes i lawr y bryn ar un o'r meinciau sy'n ein gwahodd i eistedd am funud i fwynhau'r olygfa mae rhai o lanciau, neu lancesi, y dref heddiw wedi gadael eu marc.
A'r llwybr nôl i lawr y bryn tuag at yr eglwys wedi ei droedio ganwaith gan drigolion y dref.
Nôl ar stryd Dwyrain Twthill. Amser mynd nôl adref, gan basio heibio'r ceidwad yn gyntaf! Diolch am ymweld!
Hefyd o ddiddordeb: