Oriel: Cofio'r tân ar Bont Britannia
- Cyhoeddwyd
Ar 23 Mai, 1970, cafodd Pont Britannia, campwaith y peiriannydd Robert Stephenson oedd wedi cysylltu Ynys Môn â Gwynedd ers 120 o flynyddoedd, bron ei dinistrio'n llwyr gan dân.
Hanner canrif yn ddiweddarach mae'r tân dramatig yn dal i gael ei gofio - tân gafodd ei gynnau ar ddamwain ond arweiniodd yn y pen draw at newid strwythur y bont a chreu dwy ffordd i gerbydau groesi i Fôn.
Cyn hynny, pont i drenau yn unig oedd Pont Britannia.
Yn 'nhiwbiau' y bont roedd trenau yn teithio yn uniongyrchol ar hyd y lein fasnachol hynod bwysig o Lundain i borthladd Caergybi.
Fe roddodd grŵp o bobl ifanc y bont ar dân ar ddamwain wedi iddyn nhw ddefnyddio darn o bapur wedi'i danio fel ffagl i gael golau.
Dywedodd un o'r bobl ifanc yn 1972 eu bod wedi ffeindio tudalen o lyfr ar y llawr a defnyddio lighter i'w gynnau.
Gollyngwyd y darn papur tu fewn y bont, a gyda gwyntoedd cryfion fe ledaenodd y tân.
Bu'r bont ar dân am naw awr.
Y pren ar y cledrau aeth ar dân yn gyntaf, a gan fod y to wedi ei wneud o bren fe ledaenodd yn gyflym, o ochr Gwynedd tuag at Ynys Môn.
Dynion tân o Fangor oedd y cyntaf yno wedi i'r larwm gael ei godi am 21:43 ac roedd y fynedfa ar dân, a'r fflamau wedi esgyn dros y to yn barod.
Dywedodd un cyn ymladdwr tân bod tiwb y bont fel simdde a oedd yn sugno aer gan greu ffwrnais.
Roedd hi'n noson wyntog ac fe doddodd y tar a oedd yn amgylchynu'r tiwbiau, gan achosi i goed a phlanhigion o dan y bont fynd ar dân.
Roedd y tân i'w weld mor bell i ffwrdd a Chaergybi a Llandudno.
Roedd gobaith y byddai dynion tân ar ochr Ynys Môn yn gallu atal y tannau hanner ffordd dros y bont.
Ond roedd y tân yn y to mor ddifrifol roedd rhaid tynnu'r holl ymladdwyr tân o'r bont neu fe fyddai llawer wedi gallu marw.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar y pryd George Thomas, ymweld â'r bont y diwrnod wedyn, gan ganmol y dynion tân o sir Gaernarfon ac Ynys Môn.
Cafodd y ddwy frigâd dân negeseuon yn eu llongyfarch gan y Prif Weinidog ar y pryd, Harold Wilson hefyd.
Penderfynodd yr awdurdodau mai damwain oedd y digwyddiad a chafodd y bobl ifanc a achosodd y tân ddim eu herlyn yn y llysoedd.
Oherwydd y difrod i'r rheilffordd, 'roedd rhaid ailagor y rheilffordd i Gaernarfon am gyfnod a sicrhau bod nwyddau oedd wedi eu danfon i borthladd Caergybi ar y trên yn cael eu cludo yno ar y ffordd.
Pan gafodd y bont ei hail-adeiladu fe osodwyd bwâu newydd o ddur i gynnal y strwythur.
Ailagorwyd y bont i'r rheilffordd, ond â thrac sengl yn unig, yn 1972.
Yn 1980, ddegawd wedi'r tân, cafodd ffordd ei ychwanegu i'r bont i gario'r A55 i ac o Ynys Môn.
Yn 2011 fe wariwyd £4m ar atgyfnerthu strwythurau dur y bont, gwella'r systemau draenio, cywiro'r parapetau a'r gwaith cerrig, a phaentio'r dur ar y fynedfa bob ochr i'r bont.
Crëwyd llwybr arbennig i gerdded drwy'r bont hefyd, er mwyn caniatáu i weithiwyr archwilio'r bont yn y dyfodol.
Dydi'r llewod trawiadol oedd yn amddiffyn mynedfa'r trenau i'r hen diwbiau bellach ddim i'w gweld gan bobl sy'n croesi'r bont yn eu ceir.
Ond maen nhw'n dal yno, os ewch chi i chwilio...
Hefyd o ddiddordeb: