Cwricwlwm Hanes: Galw am ddysgu 'ein stori genedlaethol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen dysgu gwybodaeth am hanes Cymru sy'n gyffredin i bawb er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gwybod am "ein stori genedlaethol", yn ôl pwyllgor Cynulliad.
Mae dysgu hanes Cymru yn "anghyson" ac yn amrywio o ysgol i ysgol, yn ôl tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
O ganlyniad, mae pryder bydd gormod o amrywiaeth o ran dysgu hanes Cymru yn parhau o dan y cwricwlwm newydd - ddaw i rym yn 2022 - sydd heb ganllawiau clir ynglŷn â'r pynciau craidd y dylid eu dysgu.
Er hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd hyblygrwydd y cwricwlwm newydd yn gwella dysgu hanes trwy adael i athrawon ddysgu gwersi mewn ffyrdd mwy creadigol sy'n fwy addas i'r dysgwyr rydym yn dysgu."
Dechreuodd y pwyllgor ymchwiliad i'r pwnc wedi iddo ddod i'r brig mewn pleidlais gyhoeddus ar bynciau trafod posib.
Mae'r adroddiad yn dweud bod angen adolygiad o'r sefyllfa bresennol, er mwyn deall sut ddylai hanes Cymru gael ei ddarparu fel rhan o'r cwricwlwm newydd o 2022.
Mewn adroddiad yn 2013 roedd argymhellion i hybu'r elfen Gymreig o fewn dysgu hanes.
Ond soniodd awdur yr adroddiad wrth y pwyllgor am ei rhwystredigaeth ynglŷn â'r diffyg cynnydd.
Dywedodd Dr Elin Jones, hanesydd ac academydd, bod "dim hyder" ganddi y byddai'r cwricwlwm newydd yn gwella dysgu hanes.
O dan y drefn newydd bydd hanes yn cael ei ddysgu fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau - un o chwe maes eang sy'n cymryd lle pynciau cul.
Mae'r fersiwn drafft, fydd yn cael ei gyhoeddi mewn ffurf derfynol ym mis Ionawr, yn pwysleisio pwysigrwydd y dimensiwn Cymreig gan ddweud y dylai dysgwyr ddatblygu "ymdeimlad o hunaniaeth, ymdeimlad o'u cynefin eu hunain, a dealltwriaeth o Gymru a'i lle yn y byd ehangach".
Does yna ddim rhestr o bynciau penodol, sy'n adlewyrchu natur y cwricwlwm yn fwy cyffredinol.
Mae'r cwricwlwm cyffredinol yn gosod fframwaith a phwrpasau gan adael i athrawon benderfynu'r cynnwys manwl.
Gormod o amrywiaeth?
Ond roedd rhai o'r grwpiau fu'n rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor yn poeni gallai hynny arwain at ormod o amrywiaeth rhwng y pynciau hanes y bydd ysgolion gwahanol yn eu dewis.
Dywedodd Cymdeithas Owain Glyndŵr y gallai arwain at sefyllfa ble mae disgyblion yn dysgu am eu milltir sgwâr ond ddim am ddatblygiadau hanesyddol pwysig mewn rhannau eraill o Gymru.
"Fe allai disgyblion sy'n byw yng nghymoedd y de ddatblygu gwybodaeth ddwys o'r diwydiant glo, ond fe fydden nhw siŵr o fod yn gwybod braidd dim am y diwydiant llechi yng Ngwynedd."
Wrth gydnabod y gallai'r cwricwlwm newydd gynnig mwy o gyfle i ddysgu hanes Cymru, mae'r adroddiad yn galw am ganllaw ynglŷn â beth ddylai gael ei ddysgu.
"Os mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei ddisgrifio fel 'gweledigaeth i Gymru', yna mae angen i bob disgybl ddysgu set gyffredin o bynciau a digwyddiadau sydd wedi llunio'r genedl y cawsant ei magu ynddi," meddai'r adroddiad.
Fe glywodd y pwyllgor hefyd y gallai rhoi cymaint o hyblygrwydd i ysgolion olygu na fyddai rhai yn ganiataol yn adlewyrchu rôl pobl o leiafrifoedd ethnig yn hanes Cymru.
Ymhlith yr argymhellion eraill mae sicrhau bod adnoddau dysgu addas ar gael, ac hyfforddiant i athrawon.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Bydd dysgu am hanes ein cenedl yn hollbwysig i'r cwricwlwm newydd, fel bod pobl ifanc yn cael addysg llawn am eu hanes, daearyddiaeth a diwylliannau Cymru."
Ychwanegodd: "Bydd cyngor, yn ogystal ag adnoddau newydd yn cael eu comisiynu, sy'n cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau yn ymwneud â hanes Cymru a'r byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2016
- Cyhoeddwyd12 Medi 2019