Podlediad hanes Cymru ‘for idiots’ gan Tudur Owen
- Cyhoeddwyd
"'Dan ni'n gofyn y cwestiynau mae pobl eraill yn rhy 'embarrassed' i'w gofyn."
Dyna sut mae Tudur Owen yn disgrifio ei bodlediad newydd, Dim Rŵan na Nawr, am hanes Cymru - podlediad a ddeilliodd o'i raglen radio wythnosol, sy'n cael ei gynhyrchu gan Dyl Mei.
"Mae Dyl Mei a fi i weld â diddordeb mewn hanes, ond rhyw ddiddordeb amaturaidd iawn," meddai Tudur Owen.
"'Dan ni'n ymwybodol pan 'dan ni'n trafod pethau ar y radio, 'chydig bach o wybodaeth sy' ganddon ni, ac yn aml iawn, ma' hwnna'n anghywir... a 'dan ni'n cael pobl yn cysylltu a deud 'ia, ma'n diddorol iawn, ond wir i chi rŵan, 'da chi jest yn malu awyr!'"
Beth sydd i'w wneud, felly, ond cynhyrchu eich podlediad eich hun, a chael arbenigwyr draw i egluro'r holl beth i chi?
"'Dwi a Dyl yn wrandawyr brwd ar bodlediadau, felly 'nathon ni feddwl, pan ddim gwneud 'wbath am y peth, a dysgu mwy am hanes?
"A hanes Cymru yn benodol - o'dd hwnna'n beth arall. Dwi'n ymwybodol fod gen i gymaint o gaps yn fy ngwybodaeth am hanes Cymru, achos do'dd o ddim yn rwbath oddan ni'n ei ddysgu yn yr ysgol.
"Os ti'n gwylio rhaglenni dogfen hanes ar y teledu, gan amla', maen nhw am y Tuduriaid, neu hanes Lloegr neu Brydain.
"Felly, dyna oedd y petha' mwya' tu ôl i 'neud hyn - i fod isho dysgu mwy am hanes Cymru."
Sut mae rhywun yn mynd ati i grynhoi holl hanes Cymru i un podlediad?
"Mae'r chwe phennod, tua awr o hyd, wedi cael eu rhannu i chwech cyfnod mewn amser.
"Y cwestiwn cynta' yn y bennod gynta' ydi: Pryd faswn i wedi 'nabod Cymru ar fap? Ma' mae hwnna'n mynd â ni nôl i Oes yr Iâ, cyn fod pobl wedi cyrraedd - 'dan ni'n sôn am Gymru yn y cyfnod yna.
"Y pynciau eraill ydi'r Oes Haearn, Rhufeiniaid, y Dark Ages, y Tywysogion ac Owain Glyndŵr.
"'Nathon ni sylweddoli wrth ei 'neud o, 'OMB, 'san ni'n gallu gwneud chwech pennod jest am y cyfnod yma...' Ella os 'neith rhain weithio, fydd 'na gyfle i 'neud mwy."
Felly beth mae Tudur wedi ei ddysgu o wneud y podlediad yma?
"Dwi'n meddwl bod popeth yn fascinating - dwi 'di dysgu gymaint.
"O'dd Dewi Prysor yn siarad am y Rhufeiniaid, a 'nath o sôn am rhyw frwydr fawr ddigwyddodd wrth ymyl Caersŵs, ac ar ba fynydd oedd o.
"Felly bob tro dwi'n gyrru heibio Caersŵs, dwi'n sbïo amdano fo, a meddwl am yr holl betha' erchyll 'ma ddigwyddodd wrth ymyl yr A470!
"Dwi'n meddwl mai pennod Owain Glyndŵr 'nath i mi sylweddoli cyn lleied o'n i'n ei wybod. O'n i'n meddwl mod i'n gwybod dipyn am Owain Glyndŵr, ond o'n i'n ffeindio mod i mond yn gwybod rhyw fymryn bach.
"O'n i'n gwybod mwy o lawer am frenhinoedd Lloegr nag o'n i'n ei wybod am dywysogion Cymru. A dwi'n meddwl fod o'n rhywbeth mae'n rhaid i ni 'neud 'wbath amdano fo.
"Mae o'n bwysig iawn ein bod ni'n cael dysgu am hanes ein gwlad ein hunain."
"Be' oedd yn wych oedd yr arbenigwyr 'ma oedd mor frwdfrydig am eu pynciau, a mor wybodus! Ac oedden nhw'n medru rhoi'r wybodaeth mewn ffordd ddealladwy a naturiol - o'n i a Dyl yn medru ei ddallt yn iawn (doedd o ddim rhy gymhleth i ni!).
"Bron ei fod o'n Hanes Cymru for Idiots... bron!
"O'n i jyst yn gwrando ar y bobl 'ma efo ngheg i'n 'gorad - a dwi'n gobeithio ddeith hynny drosodd i'r gwrandawyr. Dwi'n d'eud 'waw' yn aml iawn (dwi'n mynd ar nyrfs fy hun!) wrth glywed am yr holl ffeithia' 'ma.
"Dwi'n gobeithio 'neith pobl fwynhau gymaint â 'naethon ni fwynhau ei 'neud o!"
Mae pennod gyntaf Dim Rŵan na Nawr ar gael ar BBC Sounds
Hefyd o ddiddordeb: