Oriel fy milltir sgwâr: Deiniolen, Gwynedd
- Cyhoeddwyd
"Mae wedi gwneud imi sylweddoli nad oes angen mynd yn bell - mae gen ti'r byd ar drothwy dy ddrws,"
Mae Keith Jones yn un o gyfranwyr cyson rhaglen natur Galwad Cynnar Radio Cymru a fel arfer yn teithio Prydain yn rhinwedd ei swydd fel arbenigwr newid hinsawdd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ond mae bod ar ffyrlo yn ystod cyfnod y cyfyngiadau wedi newid ei bersbectif a gwneud iddo ddod i adnabod ei fro yn well.
Dyma ei gofnod mewn lluniau o fisoedd y cyfnod clo yn ei gartref yng Nghlwt-y-Bont ger Deiniolen, Gwynedd - ardal y chwareli a mynyddoedd Eryri sy'n llawn bywyd gwyllt a hanes.
I nodi ei ben-blwydd yn 50 oed yn 2019 treuliodd Keith flwyddyn yn dringo pob mynydd yng Nghymru ac mae'n adnabod sawl llwybr mynydda yn dda.
Ond mae'r cyfnod yma adref wedi gwneud iddo sylweddoli nad oedd yn adnabod hanner digon ar ei filltir sgwâr ei hun tan iddo fynd i droedio llwybrau lleol, gan lwyddo i dynnu ei fab Tryfan efo fo o bryd i'w gilydd hefyd.
Fe dynnodd lun o blu'r gweinydd ar Foel Rhiwen ac wrth siarad gyda ffrindiau, dysgodd mai Parciau Lladron yw'r enw lleol answyddogol ar y lleoliad, oedd yn wybodaeth newydd iddo, er ei fod ddim ond tua 400 llath o'i dŷ.
Mae'n debyg bod llwybr pereirion yn croesi'r foel ers talwm, a lladron yn manteisio ar y traffig.
"Beth sy'n ddiddorol imi ydy mod i wedi dechrau gweld y pethau bach a dysgu am hanes y fro," meddai Keith.
"Dwi wedi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i fyw mewn lle mor brydferth."
Mae Keith hefyd wedi clywed y gog yn canu bron bob dydd ers bod adre, rhywbeth nad oedd prin byth yn ei glywed pan oedd yn gweithio.
Yna dysgodd o hen fap OS fod yna hen ffermdy o'r enw Llwyn Cogau yn arfer bod gerllaw gan wneud iddo feddwl tybed ai'r un teulu o gogau sydd yn dal i ganu yn y fro ers canrifoedd?
Mae mab Keith, Tryfan, wedi treulio dipyn o amser gyda'i dad ar ambell antur.
Ond wrth i'r cyfnod clo barhau mae Tryfan wedi dechrau treulio mwy o amser o gwmpas y tŷ, meddai Keith.
Fel llawer o bobl mae Keith a'r teulu wedi bod yn coginio mwy a defnyddio mwy ar ei bopty pizza.
A chael ambell bryd rhithiol efo ffrindiau.
"Pan dwi'n edrych nôl ar y cyfnod dwi'n meddwl am faint o olchi llestri dwi wedi ei wneud! Ond hefyd, faint dwi wedi ei gerdded, a'r gwanwyn gwych llawn lliwiau a'r haul crasboeth rydyn ni wedi ei gael."
Mae wedi cael cyfle i sylwi ar bethau bach o'i gwmpas, meddai Keith, lle byddai wedi bod yn rhy brysur o'r blaen - adar yn canu, sŵn yr afon a'r wawr yn torri.
"Dwi wedi gwrando, stopio, myfyrio," meddai "a chael amser i glirio'r ardd!"
"Gawn ni ddim hyn byth eto, dwi wedi sylwi pa mor lwcus ydw i: mae 'na fwy i fywyd na phres.
"Dwi wedi meddwl am y pethau bychain a gwneud y pethau lleol. Rydyn ni'n aml yn sbio fyny wrth fynd am dro ond dwi hefyd wedi cael fy atgoffa i sbio lawr, a gweld y pethau bach wrth ein traed."
Hefyd o ddiddordeb: