Lluniau byd natur: Goreuon Galwad Cynnar

  • Cyhoeddwyd

Tra mae'r byd wedi bod yn delio gyda feirws Covid-19 mae byd natur wedi ffynnu ac wedi bod yn gysur i nifer. Un o'r pethau mae'r cyfnod wedi ei ddangos yw ei bod yn werth cymryd amser weithiau i sylwi ar beth sydd wrth ein traed ac o'n cwmpas.

Mae gwrandawyr rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru wedi bod yn tynnu lluniau o ryfeddodau byd natur ers sawl blwyddyn. Dyma ddetholiad i'ch ysbrydoli:

Tylluan wen mewn coedenFfynhonnell y llun, Keith O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Wrth fynd allan i dynnu llun y sêr yn y nos yn ardal Trawsfynydd cafodd Keith O'Brien gwmni'r dylluan wen hon sy'n edrych fel darlun o chwedl Blodeuwedd!

sgwarnogFfynhonnell y llun, dsasda
Disgrifiad o’r llun,

Llun arall gan Keith O'Brien o sgwarnog, creadur arall sy'n cael ei gysylltu ag ambell chwedl

LlygodenFfynhonnell y llun, Cetra Coverdale Pearson
Disgrifiad o’r llun,

Llygoden fach yn mentro i nôl bwyd rhwng y potiau blodau

MalwenFfynhonnell y llun, Irfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r patrwm troellog ar gragen malwen yn un o'r myrdd o batrymau mathemategol natur

Cnocell y CoedFfynhonnell y llun, Gareth Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Daliodd Gareth Roberts y llun trawiadol yma o gnocell y coed yn hedfan yn ei ardd yn Bont Newydd ger Dolgellau

Gwas y Neidr yn mynd drwy metamorffasisFfynhonnell y llun, Marc Berw
Disgrifiad o’r llun,

Adenydd newydd sbon gan was y neidr sy'n mynd drwy metamorffasis

Robin Goch yn canuFfynhonnell y llun, Elan Edwards Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Robin goch yn canu nerth esgyrn ei ben, wedi ei dynnu gan Elan Edwards Clarke sy'n 13 mlwydd oed

Sgwarnog gwynFfynhonnell y llun, Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sgwarnog arall ond un anghyffredin, gwyn, y tro yma. Wedi ei gweld ger Tudweiliog ym Mhen Llŷn

Titw Tomos LasFfynhonnell y llun, Gerallt Pennant
Disgrifiad o’r llun,

Titw Tomos las yn gwneud ei nyth yn gysurus

Tair alarchFfynhonnell y llun, Keith O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Elyrch y gogledd yw'r rhain, rhywogaeth brin a welwyd yn ardal Llanfachreth ger Ddolgellau

Madarchen cap incFfynhonnell y llun, Keith OBrien
Disgrifiad o’r llun,

Madarchen cap inc neu do ar gyfer un o dai'r Tylwyth Teg?

Rhith BrocenFfynhonnell y llun, Gerallt Pennant
Disgrifiad o’r llun,

Rhith neu Fwgan Brocen yw enw'r ffenomenon yma a welodd Gerallt Pennant ar Foel Hebog, sef tafluniad enfawr o'ch cysgod eich hun yn y cymylau

bwydo adarFfynhonnell y llun, dsdsa
Disgrifiad o’r llun,

Aderyn y to yn bwydo ei chyw

blodyn glasFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lliw hardd a siapiau symetrig - mae'n werth cymryd yr amser i edrych yn fanylach weithiau

Moch coed
Disgrifiad o’r llun,

Moch coed yn glwstwr ar goeden binwydd

Gloyn byw ar flodyn piwsFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Glöyn byw yn gwledda ar flodau'r bwdlea, neu'r gynffon las

Môr-wenoliaidFfynhonnell y llun, Ben Stammers
Disgrifiad o’r llun,

Haid o fôr-wenoliaid sy'n dod nôl i nythu mewn rhannau o arfordir Cymru yn yr haf - un o'r llefydd gorau i'w gweld yw Gwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn

sglefren fôr
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelydd haf arall â'n glannau, y slefren gwmpawd sydd â brathiad cas os ewch yn rhy agos

Pry cop wedi dal gwybedynFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gwybedyn druan wedi ei ddal mewn gwe pry cop

madfallFfynhonnell y llun, Debbie a Robyn
Disgrifiad o’r llun,

Madfall yn manteisio ar ei chuddliw ar faneg arddio yn Waunfawr, Gwynedd

Jac do gwynFfynhonnell y llun, Gwynedd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aderyn du gwyn

Dant y LlewFfynhonnell y llun, Irfon Williams
Disgrifiad o’r llun,

Llun agos arall sy'n dangos symetri a phatrymau cain byd natur - blodyn dant y llew yn barod i wasgaru ei hadau

Blodau melyn y Tresi AurFfynhonnell y llun, Tudur Aled Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tresi aur trawiadol Gerddi Bodnant sydd wedi denu ymwelwyr o dros y byd

Codiad haulFfynhonnell y llun, Tudur Aled Davies
Disgrifiad o’r llun,

Anadlwch yn ddwfn ac ewch allan i'r awyr iach - y wawr yn torri dros gae o ŷd