Dirywiad byd natur Cymru'n 'syfrdanol'
- Cyhoeddwyd
Yng Nghymru, mae un allan o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr yn ôl ystadegau gafodd eu casglu fel rhan o adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016.
Mae dros 50 o'r cyrff cadwraeth mwyaf blaenllaw o bob rhan o'r wlad wedi cydweithio i gasglu'r wybodaeth er mwyn pwysleisio sefyllfa byd natur yma.
Dyma'r ail gyhoeddiad o'r fath, yn dilyn prosiect tebyg yn 2013.
Mae'r cyflwynydd teledu a bywyd gwyllt, Iolo Williams wedi dweud bod dirywiad bywyd gwyllt Cymru "yn syfrdanol" a bod llawer o rywogaethau yn prinhau ar "raddfa frawychus".
Gwell yng Nghymru
Dywedodd bod yr adroddiad yn dangos sut y gallai "camau gweithredol parhaus" a "phrosiectau arloesol" helpu i wrthdroi'r dirywiad, ac mae'n annog gwyddonwyr, cymunedau lleol, busnesau a'r llywodraeth i gydweithio i greu "dyfodol llawer mwy disglair" i genedlaethau'r dyfodol.
Er hynny, mae'r sefyllfa'n well yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ble mae 1 ym mhob 10 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr.
Yn dilyn cyhoeddiad oedd yn edrych ar y sefyllfa ar draws y DU, bydd lansiad yr adroddiad Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Mercher, gyda llu o gerddorion, beirdd, artistiaid graffiti a diddanwyr syrcas yno i bwysleisio pwysigrwydd byd natur mewn cyfres o berfformiadau byw.
Prif gasgliadau'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016:
Dros y tymor hir, prinhaodd 57% o rywogaethau o blanhigion fasgwlar ac fe gynyddodd 43%. Nid oedd newid yn y patrwm hwn dros y tymor byr;
Prinhaodd 60% o rywogaethau o loÿnnod byw ac fe gynyddodd 40% dros y tymor hir, tra prinhaodd 37% o rywogaethau a chynyddodd 63% dros y tymor byr;
Dros y tymor hir, prinhaodd 40% o rywogaethau o adar ac fe gynyddodd 60%. Dros y tymor byr, prinhaodd 58% o rywogaethau a chynyddodd 42%;
Aseswyd dros 5,000 o'r rhywogaethau yr ydym yn gwybod sydd yn ymgartrefu yng Nghymru wrth ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch gyfoes. Mae 354 (7%) mewn perygl o ddifodiant ym Mhrydain.
Mae'r adroddiadau'n awgrymu bod colledion net o ran bioamrywiaeth yn digwydd o ganlyniad i bwysau parhaol ac, mewn rhai achosion, pwysau sy'n dwysau.
Dywedodd Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru, ac un o awduron yr adroddiad, Stephen Bladwell mai "dyma'r tro cyntaf i ni wybod cymaint â hyn am sefyllfa byd natur yng Nghymru a'r bygythiadau iddo".
Ychwanegodd ei bod yn "amlwg" mai newidiadau i ddulliau rheoli tir a newid hinsawdd yw'r ddau brif ffactor sy'n cael effaith ar fyd natur.
Er hynny, dywedodd bod newyddion da gan fod mesurau cadwraeth yn gallu gwyrdroi'r sefyllfa, a bod hynny i'w weld gyda'r "cynnydd yn nifer y dyfrgwn ac ystlumod, yn ogystal â gloÿnnod byw, fel yr ieir bach modrwyog, ac adar, fel y barcud".
Pwysau a bygythiadau ar fyd natur yng Nghymru:
Colli a diraddio cynefin, megis colli gorgorsydd;
Darnio ac ynysu cynefinoedd am sawl rheswm, megis datblygiad anaddas;
Cynnydd ym mhoblogaeth pobl;
Newid hinsawdd;
Mewnbwn eithafol o faetholion a ffurfiau eraill o lygredd;
Gor-ecsbloetio a defnydd anghynaladwy, yn cynnwys pwysau amaethyddol;
Rhywogaethau dieithr ymledol, er enghraifft Rhododendron yn Eryri.
Cymru yn yr 20% isaf
Mae'r adroddiad yn nodi bod rhagdybio'r ystadegau yn anodd yn sgil diffyg data, a dibynadwyedd data.
Y bwriad yw goresgyn hyn drwy ddefnyddio mesur newydd, y Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII), sy'n edrych ar ôl-troed dynoliaeth ar ardal.
Byddai ardal sydd heb gael ei effeithio o gwbl gan ddynoliaeth yn cael sgôr o 100%.
Yr awgrym yw bod gwerthoedd BII o dan 90% yn dangos bod ecosystemau o bosib wedi cwympo'n is na'r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ateb anghenion cymdeithas.
Sgôr Cymru yw 82.8%, sy'n golygu bod y wlad yn yr 20% isaf o'r holl wledydd gafodd eu hasesu.
Er hynny mae'r canlyniad yn well o'i gymharu â gweddill y DU.
Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) y DU:
Cymru - 82.8%
Lloegr - 80.6%
Yr Alban - 81.3%
Gogledd Iwerddon - 80%
Cyfartaledd y DU - 81%