5 golygfa anhygoel byd natur Cymru Wyllt
- Cyhoeddwyd
O dro i dro gall byd natur ein gadael ni'n gegrwth - ond does 'na ddim rhaid teithio'n bell i weld rhyfeddodau.
Ac i brofi hynny dyma'n dewis ni o olygfeydd mwyaf anhygoel y gyfres natur Cymru Wyllt, ar S4C.
1. Sioe oleuadau uwch ein pennau...
Y sêr a ffagl yr arth uwchben Ynys Môn a'r Bannau Brycheiniog
2. ...ac yn y môr
O dan rai amgylchiadau, bydd moroedd Cymru yn goleuo yn y nos
3. Serenâd 'Bryn Terfel' a 'Rhys Meirion'
Mae cael llais da - neu fod yn gyfrwys - yn help garw i fachu cymar
4. Adar pâl yn 'hedfan' dan dŵr
Gall aderyn y pâl ddal ei wynt am bron i ddau funud
5. Arddangosfa adar yr eira
Bydd miloedd o ddrudwyod yn cyd-hedfan cyn clwydo gan greu patrymau anhygoel yn yr awyr
Mae'r rhaglen olaf ar S4C nos Sul, a'r gyfres ar gael i'w gwylio eto ar BBC iPlayer a S4C Clic, dolen allanol am gyfnod ar ôl darlledu.
Hefyd o ddiddordeb: