Pigion ac atgofion o'r Pafiliwn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Cyfle i gofio rhai o uchafbwyntiau'r cystadlu dros y blynyddoedd diweddar, a hoff atgofion rhai o wynebau cyfarwydd yr Eisteddfod:

Enillwyr yr Unawd o Sioe Gerdd dros 19 oed, 2015-19

Disgrifiad,

Y cystadleuwyr ddaeth i'r brig rhwng 2015 a 2019

Uchafbwynt Iwan Griffiths a Heledd Cynwal, cyflwynwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ar S4C

Disgrifiad,

Cystadlodd Helena Jones yn y llefaru i ddysgwyr yn 99 oed yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

Iwan Griffiths: Yn syth, yr hyn sy'n dod i'r meddwl am ryw reswm wrth i'r atgofion lifo yw gweld Helena Jones, a hithau'n 99 mlwydd oed, yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod y Fenni yn 2016.

Alla i ddweud â'm llaw ar fy nghalon i mi golli deigryn. Pam, dwi ddim yn siŵr. Am fod unigolyn oedd wedi byw am bron i ganrif yn teimlo'r awydd i sefyll ar lwyfan yn llefaru'n y Gymraeg? Neu am ei bod wedi teimlo'r angen, yn hwyr iawn yn ei bywyd i ddysgu'r iaith?

Beth bynnag ddigwyddodd ar y prynhawn hwnnw, mi fyddai'n cofio'r awyrgylch greodd Helena am byth. Ac er iddi anghofio'r geiriau, er na daeth Helena i'r brig, roedd hi'n fuddugol yn fy llygaid i a phawb arall gafodd y fraint o'i chlywed.

Heledd Cynwal: O edrych nôl ar yr Eisteddfodau sydd wedi bod dros y blynydde' dwetha', mae un person wedi aros gyda fi gan iddi greu argraff fawr arnai yn Y Fenni - Helena Jones. Ar y pryd, yn 2016, fe welson ni Helena yn swyno'r gynulleidfa yng nghystadleuaeth y llefaru i ddysgwyr yn 99 mlwydd oed, ac i goroni'r cyfan, ar ôl derbyn ei chanmoliaeth am lefaru, fe ganodd pawb yn y pafiliwn Penblwydd Hapus iddi.

Fues i'n hynod o lwcus i gwrdd â hi wedi iddi gystadlu, a threulio prynhawn difyr iawn yn ei chwmni, yn cael hanes ei bywyd, a pham aeth ati i ddysgu'r Gymraeg. Atgof i'w drysori am wraig wnaeth ysbrydoli. Diolch Helena.

Enillwyr y Dawnsio Disgo, Hip-hop neu Stryd i Bâr, 2015-19

Disgrifiad,

Rhai o'r dawnswyr ddaeth i'r brig yn y blynyddoedd diweddar

Uchafbwynt y telynor a'r cyfeilydd Dylan Cernyw

Disgrifiad,

Un o uchafbwyntiau'r telynor, Dylan Cernyw, oedd enillwyr y Côr Cerdd Dant yn Eisteddfod Ynys Môn

Parti Cerdd Dant Agored yn Eisteddfod Ynys Môn 2017. Mi oedd y gystadleuaeth i gyd yn dda yn y rhagbrawf ac ar llwyfan. O'n i digon ffodus i fod yn cyfeilio gydag Elain Wyn i'r gystadleuaeth yma, a pan ti'n cyfeilio gyda rhywun arall ti'n cael sgwrs rhwng cystadleuwyr fel "sut aeth hi", "da", "ocê" ayyb (a cofio gneud yn siŵr fod y meicroffôns ddim yn agos)!

Ddaru' parti olaf ddod ar y llwyfan; Meibion Gorad Goch o ochrau Bangor a Sir Fôn dan hyfforddiant Gwennant Pyrs. Yn y côr oedd gen ti fel petai who's who o gantorion a cherddorion dan ofal Gwennant gyda lleisiau a gosodiad perffaith. Dwi'n cofio ges i iâs lawr nghefn wrth gyfeilio ac edrych yn ôl arno eto, mae gwynebau Elain Wyn a finne ar y diwedd yn dweud y cyfan.

Dwi'n cofio ar y diwedd edrych ar Elain ar ddau ohonom methu siarad bron - perffaith. Achos geiriau olaf y gerdd oedd "Cymer di gysur gennyf fi - bydd deunaw gŵr y gefn i ti", a deunaw o hogia Gwennant yn canu iddi!

Enillwyr y Rhuban Glas Offerynnol 16-19 oed, 2015-19

Disgrifiad,

Y cerddorion ifanc buddugol o Eisteddfodau 2015-2019

Uchafbwynt yr arweinydd Mari Lloyd Pritchard

Disgrifiad,

Un gystadleuaeth gofiadwy i Mari a chynulleidfa'r Pafiliwn yw'r Côr Adloniant yn 2019

O'r holl gystadlaethau 'dan ni wedi'u hennill, 'swn i'n deud mai'r côr adloniant yn Llanrwst oedd yr highlight.

'Nes i orwedd ar lawr i arwain un o'r caneuon ac mi wnaeth arwain at gryn gynnwrf! Roedden ni'n perfformio fersiwn Gymraeg o The Lion Sleeps Tonight ac mi oedd pawb yn cysgu ar ddechrau'r gân, tu ôl i ddail mawr y jyngl. Felly 'nes i wneud hefyd!

Wn i ddim pam fod o wedi cael gymaint o effaith, bosib am fod o heb gael ei wneud o'r blaen - ond mae pawb dal i siarad efo fi am hwnna - mae'n dod i fyny ym mhob sgwrs!

Uchafbwynt y gyflwynwraig newyddion Alex Humphreys

Disgrifiad,

Un o uchafbwyntiau'r gyflwynwraig, Alex Humphreys, oedd y gystadleuaeth bandiau pres ym Modedern yn 2017

Eisteddfod Ynys Môn 2017 sy'n sefyll allan yn y cof fel uchafbwynt. O'n i 'di bod yn trafod y bandiau pres dosbarth 3 a 4 ar y teledu, felly ges i gyfle i fynd mewn i'r Pafiliwn i wylio'r bandiau dosbarth cyntaf a'r bencampwriaeth. Band Pres Llaneurgain yw fy hen fand - nes i dyfu fyny hefo'r band yma ond, yn byw yng Nghaerdydd bellach, o'n i heb glywed nhw ers sbel a dwi'n cofio'r teimlad o hapusrwydd yn gweld nhw'n camu ar y llwyfan - yr holl wynebau cyfarwydd o fy mhentre.

Yna ddechreuon nhw chwarae, ac o'n i 'di syfrdanu. Roedd yr holl fandiau wedi chwarae'n dda y diwrnod hwnnw, ond roedd 'na rywbeth am Laneurgain: nhw oedd yr enillwyr clir i mi, yn ben a sgwyddau'n well na phawb arall. O'n i mor browd ohonyn nhw, ac wedi cyffroi achos dyma oedd un o fandiau gorau Cymru yn chwarae ar eu gorau. Paul Hughes oedd yn arwain (un o ffanfferwyr yr Eisteddfod) ac roedd cyfnod y band gyda fo wedi gweld lot o lwyddiant iddyn nhw.

Dwi wastad yn ffeindio hi'n anodd gwylio bandiau pres achos dwi isho bod yna'n chwarae hefo nhw, ond mae 'na ryw deimlad sy'n dod drosta i pan dwi'n clywed band da yn chwarae cerddoriaeth arbennig... mae wastad yn rhoi fi mewn hwyliau da.

Mi enillodd y band, wrth gwrs, ac mi gafon ni hwyl yn dal fyny a dathlu yn y bar ar y maes wedyn - diwrnod i'r brenin!

Côr Hen Nodiant

Enillwyr y Côr dros 60 oed bob blwyddyn ers 2010 (o dan yr enw Côr y Mochyn Du 2010-14)

Disgrifiad,

Perfformiad y côr o Gwinllan a Roddwyd yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018

Uchafbwynt y cyfeilydd Rhiannon Pritchard

Disgrifiad,

Dau o uchafbwyntiau Rhiannon Pritchard oedd cyfeilio i enillwyr y rhuban glas yn 2015

Cyfeilio i enillwyr y Rhuban Glas lleisiol o dan a dros 25 ym Meifod. Roedd y safon yn hynod o uchel! Robert Lewis oedd enillydd Gwobr Osborne Roberts a Ffion Hâf oedd enillydd Gwobr David Ellis. Dyna'r unig amser i mi gyfeilio i'r ddau enillydd mewn un Steddfod.

Enillwyr yr Ensemble Lleisiol Agored, 2016-19

Disgrifiad,

Y cystadleuwyr ddaeth i'r brig rhwng 2016 a 2019

Uchafbwynt y cyflwynydd Tudur Phillips

Disgrifiad,

Uchafbwynt y cyflwynydd, Tudur Phillips, oedd dawnsio gyda'i chwiorydd yn 2014

Yn Llanelli, 2014, 'nes i gystadlu yn y ddeuawd/triawd/pedwarawd clocsio gyda fy nwy chwaer am y tro cynta' (a'r ola' falle!) gyda Mam ar y piano.

Mae'n dangos lot o hiwmor ein teulu ni, a'r bonws oedd ennill!

Enillwyr yr Unawd Alaw Werin dan 12 oed, 2015-19

Disgrifiad,

Y cantorion ifanc fu'n fuddugol rhwng 2015 a 2019

Uchafbwynt yr arweinydd Huw Foulkes

Disgrifiad,

Un o uchafbwyntiau personol yr arweinydd, Huw Foulkes, oedd Eisteddfod Dinbych 2013

Eisteddfod Dinbych 2013 - ma' hon yn aros yn y cof fel un o'r goreuon. Awyrgylch braf a'r penwythnos ola' yn berl. Roedd 'na hŵ-ha ar y bore Gwener ac ofnau y byddai gig y maes yn amharu ar y cystadlu yn y pafiliwn. Edward H o'dd ar lwyfan y maes y noson honno a roedd Côrdydd hefyd yn cystadlu.

Er i'n perfformiad ni ar brydiau swnio fel mash-up o Pishyn a Rachmaninoff, wnaeth hynny ddim amharu ar un o fy hoff nosweithia' yn y Steddfod. Band gwych, miloedd o gyd-Gymry yn cymdeithasu a Chôrdydd yn ennill Côr yr Ŵyl. Atgofion melys iawn.

Pynciau cysylltiedig