O'r Archif: Sêr y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Mae nifer ohonom ni wedi troedio llwyfan yr Eisteddfod ar ryw adeg, ac mae'r archif yn llawn o wynebau sydd bellach yn gyfarwydd i ni. Dyma rai o sêr Cymru yn troedio llwyfan y Pafiliwn cyn iddyn nhw fod yn enwog:
Yr actores a chantores Tara Bethan yn 1999
Enillydd yr Unawd Allan o Sioe Gerdd ym Môn oedd yr actores a chantores Tara Bethan

Y gantores Siân James yn 1981
Roedd y gantores yn fuddugol yn yr alaw werin yn Eisteddfod Maldwyn a'i Chyffiniau

Y prifardd Tudur Dylan yn 1978
Yn Eisteddfod Caerdydd 1978 roedd un o brifeirdd y dyfodol yn cystadlu

Yr actores Sian Reese-Williams yn 1996
Actores Craith yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr

Yr actor Rhodri Miles yn 1983
Bu'r actor yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth adrodd yn Eisteddfod Ynys Môn

Y cyflwynydd Dai Jones yn 1970
Hoff ffermwr y genedl enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod yn Rhydaman

Yr actores Ffion Dafis yn 1992
Yr actores ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Aberystwyth

Y prifardd Mererid Hopwood yn 1978
Ymhell cyn iddi ennill y gwobrau llenyddol mawr, dangosodd y prifardd ei doniau adrodd yng Nghaerdydd

Yr actor Aneirin Hughes yn 1984
Daeth yr actor i'r brig am ei ganu yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan

Y ddarlledwraig Betsan Powys yn 1980
Y ddarlledwraig o Gaerdydd ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Dyffryn Lliw

Y digrifwr Huw 'DJ Bry' Bryant yn 2001
Cafodd y digrifwr hwyl ar wneud i bobl chwerthin yn Eisteddfod Dinbych

Y cyflwynydd a'r gantores Emma Walford yn 1985
Roedd y cyflwynydd a'r gantores yn rhan o gyngerdd Eisteddfod Y Rhyl

Yr athletwraig a chyflwynydd Lowri Morgan yn 1990
Cystadlodd yr athletwraig a chyflwynydd ar yr alaw werin yn Eisteddfod Cwm Rhymni

Y canwr Rhys Meirion yn 1996
Aeth y canwr o Ruthun ymlaen i ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod yma yn Llandeilo

Yr actor a chyfarwyddwr Daniel Evans yn 1990
Daniel oedd enillydd cyntaf y wobr, a hynny pan oedd y Steddfod yng Nghwm Rhymni

Y gantores Mared Williams yn 2011
Daeth y gantores boblogaidd i'r brig yn yr Eisteddfod yn Wrecsam

Y canwr Bryn Terfel yn 1980
Cafodd y canwr o Bant Glas lwyddiant yn canu cerdd dant yn Eisteddfod Dyffryn Lliw

