Achub bywydau ar yr Wyddfa mewn mwgwd a PPE

  • Cyhoeddwyd

Ffynhonnell y llun, Tim Achub Mynydd Llanberis

24 awr y dydd, ym mhob tymor a phob tywydd - mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yno i achub pobl o'r Wyddfa a'r mynyddoedd o'i hamgylch.

Ond mae'r pandemig Covid wedi codi heriau newydd i'r criw gyda mis Medi'n torri pob record o ran y nifer o alwadau gyda'r criw yn ymateb i 42 o ddigwyddiadau, gan gynnwys tri digwyddiad angheuol, gan roi'r gwirfoddolwyr dan bwysau mawr.

Ac mae'r tîm hefyd wedi gorfod addasu i protocol diogelwch Covid, yn ôl Barry Davies, 62, sy'n aelod o'r tim: "'Da ni'n gwisgo mwgwd, PPE ar y mynydd - os 'di'r claf 'di bod ar y stretcher mae'r stretcher yn gorfod mynd i cwarantin am 72 awr.

"Mae 'na adegau ym Medi lle ni 'di cael pump neu chwech digwyddiad mewn diwrnod - mae'r offer mewn ac allan dipyn yn y cyfnod hynny.

Ffynhonnell y llun, Tim Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Protocol newydd: Mygydau a PPE

Peryglon dal y feirws

"Mae'n gwneud chi feddwl mwy achos mae pobl yn dod o bob man a 'da ni wedi dod ar draws pobl sy' wedi teithio o lefydd sy' wedi cael eu cyfyngu.

"'Da ni 'mond yna i neud ein job ni, 'da ni ddim yna i farnu nhw am dorri rheolau."

Mae'r criw wedi gorfod ffeindio ffyrdd newydd o weithio oherwydd y risg o ddal Covid tra'n achub pobl: "'Da ni'n gwisgo mwgwd, menig a dillad glaw PPE. 'Da ni'n sefyll i fyny'r gwynt o'r claf fel bod dim byd yn dod lawr ar ein pennau ni.

"Yn y gorffennol chi'n cael y testun gan yr heddlu am y digwyddiad ac mae un o'r cydlynwyr yn ymchwilio iddo fo. Yn y gorffennol 'oedd pawb yn mynd i Nant Peris.

"Rŵan mae'r cydlynydd yn dewis y bobl sy' mwya' addas i'r job yna - falle neith o ond dewis pedwar o'r rhai sy' ar gael, bod ni gyd ddim yn troi i fyny yn y ganolfan ar unwaith. 'Da ni 'di cyfyngu faint 'da ni'n cario yn y cerbyd hefyd."

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis

Peryglon newydd

Mae 'na tua 42 o wirfoddolwyr yn rhan o'r criw achub gyda phob un yn ymrwymo i ymateb i o leiaf 12 galwad y flwyddyn. Mae'r tîm yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau'r cyhoedd.

Mae wedi bod yn haf prysur ac mae'r criw wedi ymateb i fwy na 125 o ddigwyddiadau yn 2020 hyd yma.

Mae'n bwysau mawr ar aelodau sy'n gweithio ac yn magu teulu, yn ôl Barry, sy'n gweithio yn llawn-amser fel rheolwr gwasanaethau morwrol i Gyngor Gwynedd: "Blino mae rhywun fwy na dim byd - mae o'n waith a 'di o ddim jyst popio yno erbyn bod ti wedi gadael adref a mynd fyny mynydd a dod nôl. Mae'n o leia' pedair awr.

"Pan 'da chi'n cario'r holl offer mae'r corff yn blino. Mae'n haws i fi achos dw i'n byw fy hun ond mae 'na bobl efo plant ifanc ac ymrwymiadau teulu ac mae'n bwysig bod nhw'n cael y cydbwysedd yna rhwng teulu a gwaith.

Hofrennydd yn achub cerddwre o'r mynydd
Tîm Achub Mynydd Llanberis
Beth sy'n synnu fi - 'da chi'n cyrraedd yna atyn nhw ac mae pobl yn aml yn deud - 'ew mae ganddoch chi job braf.'

"Beth sy'n synnu fi - 'da chi'n cyrraedd yna atyn nhw [y bobl sy'n cael eu hachub] ac mae pobl yn aml yn deud - 'ew mae ganddoch chi job braf.'

"Dw i'n deud 'ddim hwn 'di job fi'. Maen nhw'n shocked bod ti'n wirfoddol. Mae pobl yn meddwl bod ni'n rhyw dîm proffesiynol sy'n troi fyny fel rhan o'r job.

"Ond ffordd 'dw i'n sbïo arno fo - 'sa fo'n gallu bod yn fi.

"'Nath fy mrawd ddringo yn y Peak District a brifo'n ddifrifol ar un o'r creigiau - mi oedd 'na dîm achub i'w helpu, mae'n gallu digwydd i unrhyw un."

Marwolaeth ar y mynydd

Mae'r criw yn delio gyda phob math o ddamweiniau a sefyllfaoedd anodd a bu tri digwyddiad angheuol ar yr Wyddfa ym mis Medi.

Dywedodd Barry: "I gael tri mewn un mis mae'n anarferol.

"Dau o'r damweiniau angheuol ym Medi oedd un wedi disgyn o rhyw 500 medr a'r llall 'di disgyn o dop Crib Goch.

"Os fyddech chi'n pwyso a mesur faint o bobl sydd ar y mynydd a faint o ddamweiniau sy 'na yna mae'n gymharol fychan i'r niferoedd.

"Ond mae unrhyw ddigwyddiad yn drychinebus wrth gwrs."

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n rhaffu ein hunain i mewn i'r creigiau os oes eisiau"

Achub pobl mewn amodau anodd

Mae'r criw yn sicrhau bod nhw eu hunain yn ddiogel fel man cyntaf: "'Da ni'n rhaffu ein hunain i mewn i'r creigiau os oes eisiau. Neith ddim un aelod o'r tîm roi eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n teimlo bod nhw mewn peryg.

"Newn ni iwsio ffordd arall i gyrraedd y claf os bydd angen.

"Yn yr haf 'oeddan ni allan drwy'r nos yn achub tri o ddringwyr ar glogwyn Lliwedd.

"Er bod o'n glogwyn o 1000 o droedfedd mi oeddan ni wedi rhaffu'n hunain ddigon cadarn i dop y clogwyn i ollwng aelodau o'r tîm i lawr y clogwyn i achub.

"Mae 'na elfen o risg yna. Dim jyst risg o roi ein bywydau mewn perygl ond ydach chi'n mynd i lithro a troi'ch troed neu torri braich?

"Mae damweiniau bychan yn gallu cael effaith ar beth 'da ni'n gallu gwneud yn ein bywydau ni."

Iechyd meddwl

Mae gweld canlyniad damweiniau a digwyddiadau ar y mynydd, yn enwedig rhai angheuol, yn gallu cael effaith ar bobl hefyd: "Mae gyda ni drefniadau mewn lle - mae gyda ni cwnsela ar gael os ydy rhywbeth yn effeithio ar unrhyw aelod o'r tîm.

"Mae 'na gefnogaeth tu cefn i bob dim 'da ni'n neud. Mae gynnon ni lot o hogiau a genod ifanc a 'da ni fel rhyw old school yn gallu helpu efo'r ffordd ymlaen.

"Mae pob digwyddiad yn wahanol ac mae pob colled bywyd yn cael effaith arnon ni gyd mewn un ffordd neu'i gilydd."

Camgymeriadau cyson

Mae llawer o'r damweiniau yn Eryri yn digwydd oherwydd dillad ac offer anaddas, yn ôl Barry: "Mae pobl yn gweld yr Wyddfa fel rhyw fynydd bach hawdd i wneud a dydyn nhw ddim yn sylweddoli y peryglon sy' ynghlwn efo dringo mynydd uchaf Lloegr a Cymru.

"Mae pobl yn sbïo ar YouTube ac yn penderfynu 'neud pethau fel antur ond mae'r llinell rhwng antur a cham-antur yn denau ofnadwy."

Mae camgymeriadau cyffredin eraill yn cynnwys pobl ddim yn amseru eu taith yn iawn ac yn mynd i drafferth wrth iddi nosi. Hefyd mae rhai'n methu dilyn y llwybr na defnyddio map a chwmpawd.

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Achub pobl fin nos

Dywedodd Barry: "Mae perygl yn gysylltiedig efo'ch gallu chi. Mae Crib Goch yn ddigon diogel ond os 'dach chi'n llithro mae'r canlyniad yn ddifrifol.

"Mae miloedd o bobl yn cerdded ar hyd Crib Goch mewn blwyddyn. Ond wrth gwrs mae un damwain angheuol yn ormod.

"Mae pobl yn meddwl mai pen top Crib Goch ydy top yr Wyddfa - maen nhw'n cyrraedd y top ac yn mynd 'crikey' ac maen nhw'n methu mynd i fyny nac i lawr.

"Yn aml iawn 'da ni'n mynd i fyny Crib Goch i helpu pobl i lawr."

Cydweithio

O ran cydweithio gyda gweddill y tîm, meddai Barry: "Mae pob un yn dod efo'u sgiliau a'u gallu gwahanol.

"Mae pawb yn gallu neud pob rôl - ond ar ddiwedd y dydd mae 'na rhai pobl efo mwy o arbenigedd ac efo diddordeb mwy mewn rhai pethau.

"Pan 'da chi'n cario stretcher 'da chi isho tua 12, yn enwedig os oes rhaffau yn y cwestiwn.

Tîm achub mynydd Llanberis yn cario rhywun wedi ei anafu ar 'stretcher'
Tîm Achub Mynydd Llanberis
Dim ots pa mor fach ydy'r rôl mae rôl pawb union mor bwysig a'i gilydd.

"'Da ni'n ffodus fod ganddon ni bedwar meddyg ar y tîm. Pan mae meddyg efo chi chi ddim yn gorfod poeni am neud cymorth cyntaf.

"Dim ots pa mor fach ydy'r rôl mae rôl pawb union mor bwysig a'i gilydd.

"Mae 'na nifer o gymeriadau gwahanol - mae 'na ffraeo ar adegau, dyw hi ddim yn harmoni trwy'r amser.

"'Da ni gyd yn mynd yno efo hiwmor a meddwl agored ac yn parchu'n gilydd. Cewch chi byth glywed gair drwg yn cael ei ddeud am neb yn y tîm ar y mynydd.

"'Da ni'n mynd a neud y job ar ddiwedd y dydd - a dod adre mor gyflym â phosib!"

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis

Achub bywydau

Mae bod yn aelod o griw sy'n achub bywydau yn brofiad gwerthfawr i Barry: "Dw i'n teimlo mod i'n cyfrannu at helpu rhywun sy' angen help. Byddai byth yn barnu neb. Dw i'n falch o'r anrhydedd dw i'n gael o allu fynd yno.

"John Grisdale ydy arwr y tîm - oedd o yna yn y 70au pan o'n i'n cychwyn ac mae dal yno rwan, mae o'n 70 ond dal mor ffit ag unrhyw gi defaid ifanc ar y mynydd.

"Mae ei brofiad a'i wybodaeth o'n werthfawr ofnadwy i'r tîm.

"Dw i dal yn mynd i bron bob un galwad, 'da ni fyny ac i lawr y mynydd 'na fel ioios.

"Gath fy mam ei geni yn Station Hebron, yr ail station i fyny'r Wyddfa, felly dw i'n teimlo mod i'n rhan o'r Wyddfa ac yn trio helpu pobl sy'n mynd i drafferthion yna."

Hefyd o ddiddordeb