Neges gwirfoddolwyr sy'n clirio sbwriel ymwelwyr Eryri
- Cyhoeddwyd

"Mae'n rhaid i bethau newid" medd grŵp amgylcheddol sy'n cael cymorth gwirfoddolwyr yr haf hwn i glirio sbwriel ar fynyddoedd Eryri.
Bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul ym misoedd Gorffennaf ac Awst eleni, mae'r gwirfoddolwyr wedi helpu Cymdeithas Eryri trwy gyfarch ymwelwyr a rhoi gwybodaeth a chyngor fel rhan o ymgyrch i'w croesawu'n ôl i'r ardal wedi'r cyfnod clo caeth ddaeth i rym ym mis Mawrth.
Ond maen nhw hefyd wedi casglu sbwriel yn rhannau'r parc cenedlaethol sy'n denu'r nifer fwyaf o ymwelwyr - gan gynnwys Llwybr Llanberis holl ffordd at gopa'r Wyddfa, maes parcio a theithio Nant Peris ac ardal Llyn Ogwen.
Maen nhw'n amcangyfrif hyd yma bod tua 200 o fagiau o sbwriel wedi'u casglu yn y ddeufis diwethaf.

Rhai o'r bagiau sbwriel fydd yn cael eu cludo o gopa'r Wyddfa
Mae llawer o'r bagiau mewn adeilad ger canolfan Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa, ble bydden nhw'n cael eu cario i orsaf Rheilffordd Eryri a'u cludo i'r gwaelod ar y trên.
Mae yna amcangyfrif fod tua 600,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn, ac er mai lleiafrif bach sy'n tramgwyddo, golyga'r niferoedd cynyddol o ymwelwyr fod sbwriel yn broblem sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn.
Dywed Dan Goodwin o Gymdeithas Eryri eu bod "yn dal yn dod o hyd i lawer o sbwriel y diwrnod wedyn" hyd yn oed wedi tridiau o'i gasglu.
Ymhlith y pethau sy'n cael eu gadael yn aml mae clytiau babi, ysgarthion dynol a chrwyn banana.

Mae angen addysgu pobl i fynd â'u sbwriel adref gyda nhw, medd Dan Goodwin
"Mae pobl yn dal heb syniad o'r broblem," meddai Mr Goodwin, gan egluro bod hi'n cymryd tua dwy flynedd i groen banana bydru'n llwyr. "Bydde pobl sy'n gollwng crwyn banana ddim yn dychmygu gollwng potel blastig."
Mae'n dweud mai'r ateb, yn hytrach na threfnu mwy o finiau, yw addysgu pobl i fynd â'u sbwriel adref gyda nhw.
"Os ydach chi'n mynd ag unrhyw beth i fyny'r mynydd, rydan ni'n disgwyl ichi ddod ag o yn ôl i lawr gyda chi," meddai.

Mae maint y sbwriel yn 'dorcalonnus' medd y gwirfoddolwyr sy'n ei gasglu
Roedd Judy Boddington, o Ddyffryn Conwy, ymhlith y bobl yn clirio llanast ymwelwyr yn Llanberis ddydd Llun Gŵyl y Banc.
"Mae'n rhwystredig ond os na wnawn ni, mae jest yn cael ei adael," meddai.
"Mae'n dorcalonnus... mae yna anifeiliaid yma, yn ogystal â phobol, ac mae'n drueni bod nhw'n dinistrio'r amgylchedd lleol.

"Sut fasen nhw'n licio petawn ni mynd a gadael sbwriel ble maen nhw'n byw? Mae'n drueni, ac mae'n cadw pobl eraill draw pan maen nhw'n gweld y sbwriel.
"Dydyn nhw ddim yn ei licio fo ar lan môr... felly pam wneud o yn fan hyn?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020