Bywyd ar y don: 'Mae patrwm y tywydd wedi newid'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl 37 o flynyddoedd yn achub bywydau ar y môr mae Paul Filby wedi tynnu'r dillad dal dŵr a'r helmed am y tro olaf, ac ymddeol fel gwirfoddolwr gyda'r RNLI.
Yn ei gyfnod gyda bad achub Cricieth fel criw a phrif lywiwr, a chyda thîm llifogydd arbenigol yr RNLI, mae wedi bod yn llygad y storm sawl gwaith, gweld grym dŵr yn dinistrio trefi a chymryd bywydau a phrofi arwriaeth a chyfeillgarwch ei gydweithwyr.
Gall hefyd ddweud ei fod wedi gweld y gwasanaeth yn mynd drwy gyfnod o newid aruthrol yn sgil newid hinsawdd ac, ar ei flwyddyn olaf, yr "haf prysuraf erioed" oherwydd cyfyngiadau Covid.
"Mae 'na lawer mwy o bobl sydd heb fod i ffwrdd ar eu gwyliau yn cymryd gwyliau lleol so mae'r cyfnod wedi bod yn llawer mwy prysur drwy Brydain ers diwedd Gorffennaf," meddai.
"Oeddech chi'n gweld llefydd lan môr yn llawn o bobl, dydan ni ddim wedi gweld dim byd felly ers y 70au ac wrth gwrs y mwya' o bobl sydd ar lan y môr y mwya' o bobl sy'n gallu mynd i drafferthion.
"Mae Cricieth wedi bod yn weddol ddistaw ond mae Pwllheli, Abersoch a Bermo wedi cael amser prysur a marwolaeth ar y dŵr sydd wedi bod yn drist iawn..."
"Mae 'na romance o fod ar y dŵr neu'n agos i'r dŵr a mae 'na lot o hwyl i'w gael," meddai Paul sy'n ymddeol yn 55 mlwydd oed i roi sylw i'w waith-bob-dydd fel trydanwr.
Fel rhywun sydd wedi caru'r môr a chychod erioed mae'n deall yr atyniad ond mae'n gwybod beth yw'r risg hefyd.
"Mae pobl leol yn hollol barchus i'r môr a dŵr, maen nhw wedi tyfu fyny efo fo, maen nhw'n mwynhau mynd i fewn iddo fo, nofio, chwarae cychod a phob math o bethau felna, ond maen nhw'n deall be di'r perygl dwi'n meddwl.
"Mae pobl sy'n mynd ar eu gwyliau yn tueddu i gymryd mwy o risg, meddwl llai am be maen nhw'n wneud - dwi run fath pan dwi'n mynd ar fy ngwyliau - 'da chi'n colli'r natur ofalus o feddwl be fysa'n gallu digwydd," meddai.
Fe fyddai'n hoffi gweld dysgu am ddiogelwch ar y dŵr yn rhan o'r cwricwlwm addysg.
Mwy o lifogydd
Ond wrth i'r hydref a'r gaeaf gau i mewn, stormydd a llifogydd fydd yr her nesaf i'r timau achub.
Mae Paul wedi ennill cydnabyddiaeth arbennig yr RNLI am ei waith yn llifogydd Cockermouth yn 2009.
Ymunodd â'r tîm llifogydd pan gafodd ei sefydlu gyntaf yn 2000 - yn wreiddiol i helpu gyda digwyddiadau rhyngwladol, ond bellach yn cael eu galw i lifogydd lleol, llai, sy'n digwydd yn amlach.
"Os ydych chi'n sbïo dros y 10 mlynedd diwetha mae'r nifer o callouts 'da ni 'di gael i lifogydd wedi tyfu - 'da ni'n cael mwy o floods o lawer nag oedden ni 10, 15 mlynedd yn ôl."
Does gan Paul ddim amheuaeth mai newid hinsawdd yw'r prif reswm am hynny a'i farn bersonol ydy bod rhesymau mwy lleol hefyd.
"Rydan ni'n datblygu defences llifogydd yn y trefi mawr i wneud yn siŵr bod llefydd fel'na yn saff ond be mae hynny yn wneud, 'dio ddim yn stopio'r broblem, mae'n symud y broblem yn is i lawr yr afon: 'da chi'n hel mwy o ddŵr yn bellach i lawr yr afon.
"Ond yr achos cyntaf ydy ein bod ni'n cael mwy o law, mae global warming wedi effeithio'r tywydd.
"Maen nhw'n galw rhai llifogydd yn 'once every 50 years neu once in 100 years' ond 'da ni wedi cael pump neu chwech o rheiny yn y 15 mlynedd diwethaf so mae'n tueddu i ddweud bod pethau wedi newid a mae 'na fwy o chance i gael llifogydd.
"Mae patrwm y tywydd wedi newid, mae'n blaen i'w weld. 'Da ni'n cael mwy o law, mwy o wynt, mae mwy o stormydd dros y gaeaf."
Dŵr budr a pheryglon cudd
Mae achub mewn llifogydd yn hollol wahanol i achub ar y môr ac yn gofyn am hyfforddiant arbenigol.
"Mae dŵr llif yn byhafio yn hollol wahanol so mae rhaid inni gael mwy o training efo hwnna - sut i achub dy hun, sut i achub dy griw a sut i achub casualties hefyd mewn dŵr symud, dŵr dwfn."
Mae na beryglon gwahanol nad ydych chi'n gallu eu gweld mewn trefi a phentrefi dan ddŵr - waliau, ffensys, ceir, tyllau draen y gallech ddisgyn drwyddyn nhw - ac mae'r dŵr ei hun yn fudr hefyd.
"Mae 'na sewrage, mae na chemicals, bob math o bethau. Mae o'n beryg iawn ond mae'n beryg mewn ffordd wahanol i berygl mynd ar y môr mewn tywydd hegar."
Er ei fod yn mwynhau cael mwy o amser o'r diwedd i'w hun a'i deulu ers ymddeol o'r gwaith gwirfoddol, mae'n colli'r cynnwrf.
"Mae dipyn bach fel ton - dwi fyny un diwrnod, dwi lawr y diwrnod wedyn. Dwi ddim cweit 'di setlo," meddai o'i gartref yn Garndolbenmaen.
"Dwi'n methu'r tîm, yr excitement, yr adrenalin rush...
"Mae mwynhau yn air anodd i'w ddefnyddio, 'da chi ddim yn gallu mwynhau pan mae rhywun mewn trafferth, ond o'n i'n mwynhau'r ffaith mod i yna ac yn gallu helpu pobl - a'r rhan fwyaf o'r amser, pobl fyse 'di gallu colli eu bywyd ella hebddon ni, mae hynny'n deimlad ofnadwy o dda."
Mae pethau'n mynd o'i le weithiau, ac mae hynny'n anodd i ymdopi ag o, yn enwedig i wasanaeth gwirfoddol sy'n byw bywyd arferol weddill yr amser, meddai Paul.
"'Da chi'n rhuthro lawr i'r station, gwisgo, mynd allan yn y cwch a 'da chi ddim yn gwybod be 'dech chi'n mynd i gael hyd iddo - rhywun yn boddi, cwch ar dân, rywbeth felly, a mae'r newid o fywyd cyffredin i fywyd yn y cwch mor gyflym dach chi ddim yn cael amser i feddwl be sy'n digwydd.
"Dim tan diwedd y showt 'da chi'n dechrau meddwl 'Arglwydd, oedd hwnna'n ryff' neu 'oedd hwnna'n drist' neu'n job anodd.
"Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus nad ydach chi'n cymryd o ormod i'ch calon. Ond 'di pethau fel 'na ddim yn digwydd yn aml dwi'n falch o ddweud."
Fydd Paul ddim yno pan fydd y bad achub yn cael ei lawnsio'r haf nesaf ond gyda llai o godi arian a chyfraniadau i elusennau fel yr RNLI ar y funud, mae'n rhagweld cyfnod anodd i'r gwasanaeth.
"Os mae trefn blwyddyn nesa 'run fath a trefn yr haf yma fydd 'na fwy o angen i lawnsio badau achub, does dim dowt am hynny. Ond fydd 'na lai o bres i redeg y system hefyd, so mae'n mynd i fod yn flwyddyn anodd flwyddyn nesa dwi'n meddwl."
Hefyd o ddiddordeb: