Y gyfrinach tu ôl i ffotograffau byd natur Enlli
- Cyhoeddwyd
Llygad am lun, gwybodaeth o fyd natur, elfen o lwc a lot fawr o amynedd - dyna sydd wedi dod â ffotograffau trawiadol o fyd natur i Ben Porter.
Fe symudodd ei deulu i Ynys Enlli pan oedd o'n 11 oed ac mae'r wybodaeth mae o wedi ei gasglu am yr ynys a'i bywyd gwyllt wedi ei alluogi i ddal y gorau o'r ynys.
Erbyn hyn mae'n byw ar y tir mawr ger Mynydd Rhiw ac yn gweithio mewn cadwraeth ac yn tynnu lluniau - yn aml yn ôl ar yr ynys.
Bu'n rhannu'r cyfrinachau tu ôl i'w ddelweddau trawiadol gyda Cymru Fyw.
Aderyn drycin Manaw
Roedd gen i'r syniad o'r llun trwy'r flwyddyn cyn i fi dynnu'r ffotograff yma.
Mae Enlli yn lle ardderchog i weld y sêr yn y nos - does dim light pollution bron ac mae'r sêr yn anhygoel yn enwedig yn y gwanwyn a'r gaeaf.
Mae tua 20,000 pâr o adar drycin ar yr ynys felly maen nhw'n nythu bob man ac yn dod mewn yn y nos.
Mae ffotograff fel hyn wedi cymryd lot o amser oherwydd mae'n anodd cael yr adar i eistedd wrth gymryd y llun.
Mae'n rhaid i ti ddefnyddio exposure hir o tua 30 eiliad i gael digon o olau i gael y sêr a'r groes Celtaidd. Ro'n i'n defnyddio head torch i gael dipyn o ola' ar yr adar.
Mae hwn efo lens fish eye 15mm felly dwi mond tua troedfedd i ffwrdd o'r aderyn, sy'n agos iawn a ti'n gorfod bod yn ddistaw iawn.
Nofio mewn swigod
Roedd hwn yn un o'r lluniau hynny ti ddim yn gallu planio.
Ro'n i jest yn cerdded ar Enlli a gweld bod un o'r traethau yn llawn foam o'r môr oherwydd bod storm fawr wedi dod mewn yn y gaeaf. Ro'n i jest yn gallu gweld dipyn bach o forlo yn sticio allan tua 5-10 metr i ffwrdd.
Nesh i gymryd 10 munud i fynd yn agos i'r morlo - ro'n i tua thri metr i ffwrdd yn y diwedd - ac wedyn aros yn dawel iawn a jest eistedd yn edrych.
Weithia' roedd o'n codi ei ben a jest edrych o gwmpas ond wnaeth o ddim gweld fi. Doedd o methu arogli fi - maen nhw'n gallu arogli yn dda iawn - achos ro'n i lawr o'r gwynt.
Dwi fel arfer efo long lens ond weithiau dwi'n hoff iawn o wide angle lens fel efo hwn i gael yr habitat yn y ffotograff hefyd.
Roedd hwn yn gweithio'n dda iawn i gael y môra'r tywydd. Roedd y morlo yn edrych yn hilarious.
Chwarae cuddio i gael llun
Mae hwn wedi ei dynnu efo camera trap ar y traeth. Ro'n i wedi gosod o wrth y nyth a'i adael o yna i'r adar arfer efo fo - ac efo fish eye lens i gael y cefndir.
Mae hide adar yn y cefndir a ro'n i'n eistedd yn fanna yn tynnu'r llun.
Mae pioden y môr yn aderyn ti'n gweld bob tro ti'n mynd i'r arfordir ar draws Cymru. Sŵn y môr i fi ydi pioden y môr.
Y ffordd ti'n gwybod be' ydi oed yr aderyn ydi efo lliw y llygaid. Mae gan y rhai ifanc lygaid llwyd ac wedyn ar ôl tua dwy flynedd maen nhw'n newid lliw a mynd yn goch, ac yn mynd yn fwy coch wrth fynd yn hŷn.
Hugan mewn storm
Roedd hwn ar Enlli'r hydref yma ac roedd yn anhygoeli weld storm yno dros ddau ddiwrnod a'r tonnau mor, mor fawr.
Roedd hwn ar ochr de'r ynys - lle o'r enw Maen Du. Ro'n i just about yn gallu cael cysgod o hide sydd yno efo'r glaw yn dod lawr.
Mae'n cymryd lot o waith i gael ffotograff fel hyn ac mae'n anodd cadw camera yn llonydd efo'r gwyntoedd.
Dwi'n hoffi'r hugan. O'r adar i gyd, adar y môr dwi'n hoffi mwya' efallai ar ôl byw ar Enlli. Pan ti'n sbïo ar y môr a ti'n gweld yr adar yma yn byw allan yno mae gen ti gymaint o barch at sut maen nhw'n gallu byw yno.
Dringo i mewn i ogof
Dyma un o fy hoff luniau o'r ynys. Mae hwn mewn ogof sydd ar un ochr o'r ynys, lawr wrth y creigiau ac mae'r môr yn dod i mewn i'r ogof a'r morloi yn dod i mewn a mynd ar y creigiau yn yr ogof.
Mae golau'r haul yn dod i mewn drwy'r un twll mae'r morlo yn ddefnyddio i ddod i mewn o'r môr, ac mae twll arall i ddod mewn i'r ogof uwchben lle dw i efo'r camera.
Mae'n reit beryglus mynd yno, mae gen ti greigiau a drop mawr.
Mae'n cymryd amser i fynd yno ac i'r morlo arfer efo chdi yno, ac mae'n cymryd amser i weld pryd ydi'r adeg gorau i fod yno efo'r golau ac i weld pa fath o dywydd sy'n gweithio i'r llun a pryd mae'r dŵr yn glir.
Mae lot o bethau gwahanol yn mynd i gael llun fel hyn ac mae'n cymryd lot o amser - a ti ddim yn gwybod os fydd y morlo yna wedyn!
Teigr yr ardd
Mae'r teigr yr ardd wedi diflannu ar draws Prydain - 60% wedi mynd dros y 40 mlynedd ddiwetha'.
Mae lot o wyfynod fel hyn wedi diflannu ar draws Prydain ond mae'r rhain dal ar Enlli. Efo hwn ro'n i'n trio cael y neges yna drosodd.
Maen nhw'n edrych yn ffantastig ond dydy lot o bobl ddim yn hoffi nhw achos maen nhw'n dod allan yn y nos ac os ti'n cadw ffenestr ar agor maen nhw'n dod i mewn, ond dwi wrth fy modd efo nhw.
Mae cymaint o rai gwahanol i'w gweld ac maen nhw mor lliwgar.
Y pâl yn cadw'n heini
Mae'n hilarious gweld nhw'n g'neud hyn pan maen nhw'n dod mewn i'r nyth. Maen nhw'n nythu o dan y ddaear ac yn dod mewn fel hyn, fel crash landing i mewn i'r planhigion.
Roedd hwn ar Ynysoedd Gwylanod wrth ymyl Aberdaron - mae 600 pâl yn nythu yno a lot o adar môr eraill achos does dim llygod mawr a chathod a phethau eraill sy'n bwyta nhw.
Roedd hwn pan o'n i'n gweithio yn gwneud survey i weld be' sydd yno - mae'n digwydd bob blwyddyn i weld faint o adar sydd yna. Mae'n bwysig iawn gweld be' sy'n mynd ymlaen yn y môr o gwmpas.
Pan nes i dynnu'r llun roeddan ni wedi gorffen y gwaith ar yr ynys ac yn eistedd yn aros am y cwch i ddod yn ôl.
Mwynhau golau'r gaeaf
Nes i ddefnyddio slow exposure i gael symudiad y dŵr yn mynd ar y creigiau a'r golau tu ôl i'r adar yn dod trwy'r dŵr. Mulfren Werdd ydi hwn.
Mae hwn yn y gaeaf ac mae cyfle i gael lluniau atmospherig yn y gaeaf. Dwi'n hoff iawn o'r golau yn y tymor yma - ac mae llai o adar felly mae'n rhaid bod yn fwy creadigol.
Os mae'r haul allan mae o fel aur yn y gaeaf ac yn ffantastig i dynnu lluniau.
Dal eiliadau olaf bywyd
Dim pawb sy'n hoffi'r un yma oherwydd mae o fel 'nature raw in tooth and claw' fel maen nhw'n ddweud.
Wnaeth y gwalch glas gymryd y bioden yn sydyn, ond wnaeth o gymryd tua 40 munud i'w ladd o - roedd o yn gruesome.
Roedd o tua 5-10 metr i ffwrdd pan nes i gymryd y llun yma a ro'n i'n eistedd yno yn gweld o'n digwydd. Mae pioden yn reit fawr a'u pig nhw yn siarp ac roedd yn strygl am 40 munud.
Gwylan goesddu
Mae'r wylan goesddu yn gwneud sŵn ffantastig. Doedda nhw ddim yn poeni bod fi yna - roedd o'n galw am fod aderyn arall yn dod wrth ymyl y nyth neu'n galw i'w mate sy'n dod â bwyd i'r cyw.
Mae gen ti tua 100 o'r adar yn y colony bach yma ar Enlli ac mae'r nyth ar y graig, wedi ei wneud efo dipyn bach o fwd fel nyth gwennol, ond ychydig yn fwy.
Tynnu llun rhwng gwersi ysgol
Dryw Penfflamgoch ydy hwn. Mae'r rhain yn migratory ac yn dod lawr o Sgandinafia, ond mae gen ti ychydig yn nythu yma.
Roedd hwn wedi penderfynu aros ar Ynys Enlli dros y gaeaf, wnaeth roi'r cyfle i'r aderyn arfer efo fi dros y gaeaf a fi gael y ffotograff.
Ar Ynys Enlli dim ond ychydig o goed sydd gen ti ac yn y gaeaf mae adar fel hyn dim ond yn gallu byw wrth ymyl y coed i fwyta yr aphids.
Roedd y coed yma yn rhywle ro'n i'n gallu mynd bob dydd. Ro'n i dal yn yr ysgol ac yn cael gwersi yn y tŷ felly rhwng y gwersi ro'n i'n mynd bron pob dydd i fynd i'w weld o, sbïo be' roedd o'n 'neud a thrio meddwl sut i gael ffotograff fel hyn.
Mae'n cymryd wythnosau i gael y cyfle i gael llun fel hyn.
Hefyd o ddiddordeb: