Iolo Williams: Rhyfeddodau'r hydref ar ein stepen drws

  • Cyhoeddwyd
Iolo WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dros yr wythnosau nesaf fe fydd Iolo Williams yn cyflwyno Hydref Gwyllt Iolo ar S4C ac Autumnwatch ar BBC2

Ar ddechrau'r cyfnod clo yn y gwanwyn, fe wnaeth y naturiaethwr Iolo Williams roi cyngor ar sut i fwynhau'r bywyd gwyllt wrth aros yn ein milltir sgwâr. Wrth i Gymru wynebu mwy o gyfyngiadau, mae'n trafod sut i wneud yn fawr o fyd natur yr hydref heb grwydro'n bell.

Disgrifiad o’r llun,

"Os gewch chi ddiwrnod braf a lliwiau'r coed wedi troi, a'r rhedyn ar y bryniau yn mynd o wyrdd i oren, dwi'n meddwl mai dyma amser hardda'r flwyddyn," meddai Iolo Williams

Draenogod

Un o'r petha' dwi'n edrych allan amdanyn nhw rŵan ydi draenogod. Dwi'n ffodus ofnadwy mae gen i ddraenogod yn dod i'r ardd ac mae yna fam efo dau o rai bach yn rhannu fy ngardd i, gardd drws nesa, a'r ardd ar draws y lôn fach dawel a dwi'n gwybod eu bod nhw'n mynd o ardd i ardd i fwydo.

Mae'n bwysig rŵan rhoi bwyd allan iddyn nhw i drio cael y rhai bychan i'w pwysa er mwyn gaeafgysgu.

Draenog
Menai Thomas
Y draenog

Ambell bwynt difyr am ein cyfaill bach pigog

  • 6,000o bigau ar bob anifail. Maen nhw'n disgyn allan ar ôl blwyddyn ac eraill yn tyfu yn eu lle.

  • 15gwahanol fath o ddraenog yn y byd.

  • 2filltir o gerdded bob nos wrth chwilota am fwyd.

Ffynhonnell: lovethegarden.com

Mae'n dywyll erbyn 7pm felly ewch allan rhwng 8-9pm a rhowch fwyd a diod allan. Peidiwch byth â rhoi llefrith a byth bara. Maen nhw eisiau dŵr, a fydda i'n rhoi bwyd ci neu fwyd cath, a'i roi o dan ryw fath o focs pren er mwyn cadw'r cathod a cŵn draw.

Un arwydd i edrych allan amdano ydi eu baw nhw - tua maint bys bach, ychydig llai ella, a lliw du tywyll - ac edrychwch am ddarnau o chwilod ac ati yn y baw.

Ffynhonnell y llun, Alun Williams/Galwad Cynnar
Disgrifiad o’r llun,

Mae denu draenogod i'r ardd drwy roi bwyd a dŵr allan yn ddefnyddiol gan eu bod nhw'n bwyta pryfetach, malwod a gwlithod.

Mae rŵan yn gyfnod pwysig iddyn nhw gael lle tawel i aeafgysgu, mewn bôn rhyw wrych trwchus lle mae pentwr o ddail a gweiriach. Fydda' i'n rhoi pentwr o frigau a dail i lawr iddyn nhw dycio mewn i fanna.

Y peth gwaetha' allwch chi wneud ydi eu deffro nhw yng nghanol gaeafgysgu, mae'n ddigon i'w lladd nhw gan eu bod nhw'n gwastraffu egni ac mae rhywun yn dinistrio eu cartref nhw, eu lle cysgu nhw.

Ffyngau

Ffynhonnell y llun, Ray Woods/Plantlife
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai capiau cwyr yn lliwgar iawn - fel y cap cwyr balerina yma

Un o'r pethau sy'n amlwg yr amser yma ydi ffyngau - caws llyffant ac ati. Yn yr ardd mae gen i lawnt ond tydan ni ddim yn ei dorri fo fel mae pobl eraill yn wneud, dwi'n gadael ambell i lecyn dyfu am fis neu ddau a be' dw i'n licio wedyn ydi gweld y ffyngau yn tyfu yn yr ardd.

Mae gen i amrywiaeth o gapiau cwyr. Mae'r rhain yn ffyngau arbenigol iawn a lliwgar dros ben ac efo capiau cwyr - fel mae'r enw yn awgrymu. Mae gen i gap cwyr melyn, coch ac mae gen i gap cwyr du - y blackening waxcap.

Ffynhonnell y llun, Trevor Dines/Plantlife
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanner capiau cwyr Prydain, fel y cap cwyr du yma, i'w canfod yng Nghymru.

Maen nhw'n weddol gyffredin a be' maen nhw angen ydi porfa, rhywle wedi ei dorri yn weddol ond ddim wedi cael gwrtaith - tydyn nhw ddim yn licio gwrtaith o gwbl. Mae wedi cymryd bron i 20 mlynedd i fi gael y rhain yma achos cyn i ni adeiladu'r tŷ yma cae ffarm oedd o efo lot o wrtaith.

Caws llyffant
Plantlife
Ffeithiau ffwng-tastig

  • 3,800,000rhywogaeth gwahanol o ffwng yn y byd.

  • 2.4milltir ydi hyd un fadarchen ym mynyddoedd Oregon yn yr UDA - yr organeb fwyaf yn y byd.

  • 15%o holl frechlynnau angen math o ffwng, sef burum, i'w creu.

Ffynhonnell: Leaf&Limb

Ffwng arall sydd gen i yn yr ardd ydi'r pen inc - y shaggy ink cap yn Saesneg. Mae hwnna'n weddol gyffredin. Mae'n tyfu yn wyn i gyd a phan mae'n heneiddio mae fel inc yn dripian i lawr o'r cap ond be ydi hwnna ydi dŵr a sborau, miliynau o sborau yn gwneud iddo edrych fel inc.

Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Madarchen cap inc

I weld ffyngau ewch i gaeau gwair sydd heb eu gwella - mae dipyn o'r rheiny i'w cael yn yr ucheldir.

Neu cerwch i goedwig bedw ac un o'r ffyngau amlycaf a'r hawsaf i'w adnabod yno ydi amanita'r gwybed, neu yn Saesneg y fly agaric. Hwn ydi'r un coch efo smotiau gwyn arno, mae o'n enwog ac adnabyddus iawn. Peth hardd ofnadwy.

Ffynhonnell y llun, Duncan Brown/Llên Natur

Adar

Mae'n gyfnod pwysig iawn yn yr ardd neu'r parc lleol i roi bwyd allan i'r adar. Mae'r tywydd garw yn dechrau dod, mae wedi oeri dipyn go lew ac mae llai o olau dydd felly dim gymaint o amser i'r adar chwilio am fwyd.

Yr adar gawn ni yn yr ardd rŵan ydi rhai gweddol gyffredin gan fod adar y coed yn dod mewn i'r ardd gan fod o'n le hawdd i gael bwyd os yda ni'n rhoi peth allan. Adar fel y titw Tomos, titw mawr, titw penddu, titw cynffon hir, ac mae'r adar duon, robin goch, ji-binc a llinos werdd i gyd yn dod i mewn.

Titw Fawr
Eifion Griffiths/Llên Natur
Titw Mawr

Ffeithiau difyr am yr aderyn cyffredin

  • 8,000Nifer o wybedau all pâr ddal mewn tair wythnos i fwydo'u cywion.

  • 2,000,000o barau ym Mhrydain.

  • 20diwrnod fydd y cywion yn y nyth cyn gadael.

Ffynhonnell: Livingwithbirds.com

Be' sy'n ddifyr ydi mai go brin mai'r deryn du a'r robin wnaeth nythu yn eich gardd ydi'r un welwch chi rŵan - maen nhw'n tueddu i symud i'r de orllewin, a 'da ni'n cael adar duon a ji-binc o'r cyfandir. Maen nhw i gyd yn symud lawr i chwilio am dywydd mwynach.

Fydda' i'n rhoi cnau mwnci, peli braster, hadau cymysg, hadau blodyn yr haul a 'chydig o fwydod allan ar y lawnt i'r robin goch ac ati. Amrywiaeth ydi'r gorau am ddenu mwy o adar.

Os oes ganddoch chi wrych trwchus iawn mae'n bwysig rhoi'r bwydwyr adar yn agos at y gwrych fel bod yr adar yn gallu dod i nôl y bwyd a denig i'r gwrych.

Mae dŵr yr un mor bwysig â bwyd - nid yn unig i'r adar yfed ond hefyd i lanhau plu, mae'n rhaid bod yn y cyflwr gorau posib i wrthsefyll y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Alun Williams/Llên Natur
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyfnod da i weld sioe y drudwyod pan fydd nhw'n casglu yn eu degau o filoedd cyn clwydo - fel y rhain uwchben gwarchodfa RSPB Conwy

Mae'n werth gweld y drudwy hefyd. Maen nhw wedi dod o lefydd mor bell i ffwrdd a Rwsia a Dwyrain Ewrop - mae'r niferodd sy'n nythu yng Nghymru wedi gostwng yn aruthrol ond mae niferoedd mawr yn dod mewn ddiwedd yr hydref a thrwy'r gaeaf i ddianc tywydd garw o'r Rwsia a Ffindir.

Dwi'n gwybod bod lot ddim yn licio pan maen nhw'n dod yn eu dwsinau i'r ardd a dwyn y bwyd ond rhaid i ni gofio maen nhw wedi dod o bell hefyd. Maen nhw'n adar smart ofnadwy a'u côt fel rhoi olew ar ddŵr. Dwi wrth fy modd yn gweld nhw, maen nhw fel bod nhw'n dadlau a chwffio yn ddi-baid.

Ffynhonnell y llun, Getty Education Images

Mae'r nos yn dod yn gynt ac felly'n amser da i weld tylluanod. Mae'r dylluan frech yn dechrau mynd yn swnllyd iawn unwaith eto'r sŵn gwdihŵ a ki-wik yma wrth iddyn nhw sefydlu tiriogaeth.

Maen nhw'n nythwyr cynnar, yn nythu ar ddiwedd y gaeaf, ac felly yn dechrau sefydlu tiriogaeth diwedd Hydref neu ddechrau Tachwedd. Mae'n amser arbennig o dda i fynd tu allan i'r tŷ, neu os oes coed lleol i fynd allan i wrando am y tylluanod wrthi'n galw ar ei gilydd.

Mae Iolo Williams yn cyflwyno cyfres Hydref Gwyllt Iolo sydd ar S4C bob nos Fawrth ar hyn o bryd, a bydd yn cyflwyno rhaglen Autumnwatch ar BBC2 rhwng 26 Hydref-3 Tachwedd.

Hefyd o ddiddordeb: