Oriel: Cofio Cymru'r '80au
- Cyhoeddwyd
Weithiau dydy gwir werth ffotograff ddim yn dod i'r amlwg am flynyddoedd.
Dyna farn Gareth Jones am rai o'r delweddau mae o wedi eu tynnu o fywyd bob dydd ei gymuned dros bedwar degawd.
Yma mae'r gŵr o'r Felinheli, sy'n gweithio gyda Chyngor Gwynedd, yn egluro cefndir rhai o'i luniau o'r 1980au sy'n dogfennu cymeriadau, golygfeydd a digwyddiadau sydd wedi diflannu yn barod.
Siop Barbwr Y Felinheli, 1986
Victor Rees oedd barbwr y pentref a'r compère mewn nosweithiau yn y Working Men's Club ac ati. Dipyn o gymeriad a dyn hoffus ofnadwy.
Roedd ganddo fo dri steil - La Parisienne, y Superlative a'r London Job. Doedd fawr o wahaniaeth i'r tri achos roedd hogia' Felin i gyd efo gwalltiau run fath. Short back and sides.
Roedda chdi'n cael hen sdejars y pentref yna ar fore Sadwrn. Roedd o'n lle arbennig iawn i ddynion fynd a chymdeithasu.
Ro'n i'n fy ugeiniau cynnar yn 1986 ac wedi bod yn tynnu lluniau ers tua phum mlynedd erbyn hyn. Ro'n i wedi gwirioni efo llunia' documentary a street photography. Mae'r rhain fel snapshot o'r cyfnod a ffordd o fyw sydd ddim cweit yr un fath rŵan.
Roedd rhywbeth ynddo fi yn meddwl 'wnai hyn rŵan achos tyda chi byth yn gwybod be' ydi arwyddocâd llun tan yn sbïo yn ôl arno tua 20 mlynedd wedyn'.
Cymdeithas cadw adar, 1987
Ro'n i wedi dod i nabod pobl yn y pentre' oedd yn dangos adar. Roedd hwn yn digwydd un penwythnos y flwyddyn yn y pentre' a phob math o bobl yn ymddiddori mewn cadw bwjis yna, yn eu harddangos nhw a chystadlu.
Roedd y lle yn orlawn o bobl, a rhesi a rhesi o fwjis mewn cages. Roedd pawb i weld yn smocio adeg yna ac mae'r mwg yn rhoi atmosffer i'r llun.
'Nath y boi ar y chwith jest digwydd symud pan o'n i'n tynnu'r llun. Weithiau ti'm yn sylweddoli be' ti 'di gymryd yn iawn tan i chdi sbïo drwy'r negs a ti'n meddwl 'o mae hwnna'n reit ddiddorol'.
Dwi'n colli hynny am ddefnyddio ffilm. Mae 'na wefr pan ti'n tynnu'r negs cynta' i weld os ydi dy exposure di yn gywir ac wedyn yn y darkroom pan ti'n gweld o'n datblygu yn araf deg. Adeg yna ti'n gweld ffrwyth dy lafur.
Stafell snwcer, 1983
Roedd clwb snwcer yn y Clwb Ceidwadwyr ers degawdau - fanna oedd hogiau'r pentre' a'r cylch yn mynd i chwarae snwcer ac roedd 'na dîm yn Felin hefyd.
Pan gaeodd y Clwb Ceidwadwyr wnaethon nhw gael gwared â'r bwrdd, sy'n bechod. Mae'r ffasiwn a'r mwg yn dangos y cyfnod. Roedd snwcer yn boblogaidd ar y pryd, dwi'n siŵr wnaeth o ddechra' efo rhaglen Pot Black ar y teledu - ac aeth o'n global wedyn.
Gêm, peint, smôc ac ymlacio. Roedd ganddyn nhw well syniad o sut i ymlacio ers talwm dwi'n meddwl. Roedd cymdeithasu yn rhan o'r ymlacio. Dyna'r gwahaniaeth mwya' efo rŵan lle mae pobl yn ymlacio trwy eu ffôns a phethau felly.
Mr W O Jones, 1982
W O Jones oedd y cynghorydd, ac wedi brwydo i gael ffordd osgoi i'r pentref. Ro'n i wedi tynnu ei lun o ar y ffordd osgoi cyn iddo agor ond mae hwn yn fwy sbesial - ar b'nawn Sul yn mynd â'i wyres am dro.
Roedd o'n gymeriad a roedda ti'n reit sicr o'i weld ar y brif stryd yn mynd i fyny ac i lawr, roedd o yna drwy'r adeg ac yn gynghorydd lleol am hir iawn.
Roedd hwn yn yr 80au eto ac roedd o'n anodd cael gafael ar gamera da adeg hynny. Dwi'n cofio ro'n i wedi gwirioni cael benthyg Zenit fy mrawd pan o'n i'n 16 oed.
Pan 'da chi'n gafael ar gamera fel yna roedd bob shot yn bwysig ac roedd y camera yn pwyso tunnell. Heddiw mae pawb efo camera ac mae camera ffôns yn betha' anhygoel.
Mae o'n gwneud penderfyniadau ar eich rhan chi ond o'r blaen roedd yn rhaid gwybod sut i ddefnyddio camera a gwybod am exposure golau a sut i ddefnyddio ffilm mewn amgylchiadau heb lawer o olau. Mae o'n llawer mwy hwylus heddiw i bobl gael llunia amazing efo'u ffôn.
Ysgol Sul, 1983
Wnaeth Anti Joyce drefnu i fi ddod yna - hi sydd yn y llun, a ddaru ni golli hi rhyw flwyddyn yn ôl bechod.
Roedd hwnna yn festri Bryn Menai. Mae lot o'r plant yn y llun dal o gwmpas ac yn aelodau blaenllaw o'r pentref a'r gymdeithas erbyn rŵan, pawb wedi tyfu fyny ar ôl dysgu sut i barchu oedolion yn yr ysgol Sul.
Ro'n i'n meddwl ar y pryd bod o'n elfen o fywyd Cymraeg.
Pan ti'n saethu efo ffilm y peth cynta' sy'n dy feddwl ydi paid a wastio fo. Rŵan wrth gwrs ti'n gallu tynnu llun ac os ti ddim yn licio fo ti'n deletio fo a thynnu un arall.
Ac mae cerdded o gwmpas efo DSLR heddiw fatha cerdded o gwmpas efo tri neu bedwar camera gwahanol a llond bag o wahanol fath o ffilm. Mae yna gymaint o bethau ti'n gallu gwneud i'r llun efo DSLR - ti'n gallu newid y film type, ti'n gallu saethu mewn lliw, du a gwyn.
Twthill, Caernarfon, 1985
Roedd hwn jest cyn i'r tai hen bobl gael eu hadeiladu fanna yn sgwâr Twthill. Adeg hynny roedda ti'n gallu gweld ar draws i Llanberis Road.
Mae hwn yn un golygfa o'r strydoedd ti jest ddim yn ei weld dim mwy a dyna pam dwi'n licio'r llun.
Dwi'n gweithio yng Nghaernarfon ers 35 mlynedd a dwi dal i fynd o gwmpas efo fy Fuji amser cinio i drio gwneud street photography, a phethau fel yr ŵyl fwyd sy'n reit ddiddorol.
Mae pawb efo ffôn dyddiau yma, ond dwi'n trio 'ngorau i gario camera digidol efo fi hefyd. Ti'n gallu ffeindio rhywbeth asthetic yn unrhywle. Weithiau, y llun gora' ydi'r un rownd y gornel.
Siop Tatŵ, Caernarfon, 1985
Ddaeth y cwpl yma i mewn a'r hogan isio tatŵ i orchuddio hen datŵ.
Roedda nhw'n cerdded i mewn, dim byd anghyffredin, cwpwl digon distaw ond munud wnaeth hon droi a sbïo ar y camera - bang! Hi oedd un o'r bobl fwya' photogenic i fi erioed dynnu ei llun. Mae rhai pobl yn gwybod sut i sbïo ar gamera ac yn gyfforddus efo'r camera.
Roedd hi'n hogan shei ofnadwy, yn sbïo i lawr, ond munud tynnu llun roedd hi fatha person hollol wahanol.
Ian Morris, Tynal Tywyll, 1989
Ar un pryd roedd tynnu lluniau yn broffesiynol yn freuddwyd gen i, ond mae amser yn dal fyny, mae pethau eraill yn digwydd, priodi cael plant ac ati ond nes i gario mlaen efo diddordeb mewn ffotograffiaeth.
Ro'n i wedi gwneud cwrs sylfaen celf ym Mangor, ac wedyn cwpwl o flynyddoedd yn London College of Printing yn gwneud ffotograffiaeth yn ardal Elephant and Castle. Ro'n i bach o homeboy felly ddes i adra.
Ro'n i'n tynnu lluniau bands a phethau, cloriau caséts ar y pryd, dwi wedi gwneud rhai Caib i Bryn Fôn, i Pererin, Y Cynghorwyr a publicity shots i Hefin Hughes.
Roedd gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac yn chwarae efo'r Strymdingars am flynyddoedd. Weithia ro'n i'n mynd i gigs i gymryd lluniau i Sain ond rhan amla' jest mynd oherwydd diddordeb - mae'n dipyn o sialens defnyddio camera ffilm mewn amgylchiadau fel yna. Mae'r un yma o Ian Morris yn dal y foment mewn perfformiad byw dwi'n meddwl.
Sion Sebon, Yr Anhrefn, 1988
Ti'n gorfod pwshio dy ffilm mewn gig, ti'n underexposio ond gwneud fyny am hynny wrth ymestyn y cyfnod y developio a'r canlyniad ydi llun efo mwy o contrast, a mwy grainy.
Os ti'n cael golau ar y canwr a ti'n tynnu llun fasa ti fel arfer gweld rhywfaint o gefndir, ond fel yma mae'r cefndir yn mynd yn ddu. Ti'n 'neud y ffilm weithio'n galed - mae o'n lot fawr o hwyl ac yn sialens.
Louis Stewart, Bangor, 1989
Dwi wedi pwshio'r ffilm cyn belled â galla i fan yma. Dim ond du sydd o'i gwmpas o, ac mae o'n llun ofnadwy o contrasty a grainy pan ti'n gwneud i'r ffilm weithio mewn amgylchiadau lle mae golau yn brin ofnadwy. Mae o'n effeithiol ond hefyd os oes rhywun yn chwarae jazz run ar gitâr ti angen gwthio'r ffilm a dim amharu ar perfformiad efo flash.
Gwyddel a gitarydd jazz adnabyddus oedd Louis Stewart. Roedd o'n gitarydd arbennig ofnadwy, un o'r goreuon fydda ti'n dod ar ei draws.
Roedd hwn mewn noson ym Mangor yn y Waverley - neu Tilbury's ar y pryd.
Roedd gitarydd lleol o'r enw Trefor Owen yn trefnu nosweithiau jazz yno ac roedd o'n adnabod Louis Stewart yn dda iawn ac roedd hon yn noson wefreiddiol iawn efo'r ddau yn jamio efo'i gilydd.
R S Thomas, Pen Llŷn, 1988
Roedd hwn yn ddiwrnod diddorol iawn.
Ro'n i'n tynnu lluniau i Glyn Tom, fo roddodd Sgrech at ei gilydd ac roedd ganddo fo gylchgrawn newydd ar y pryd o'r enw Safiad. Roedda ni'n tynnu llunia rownd Pen Llŷn ac un ohonyn nhw oedd R S.
Ges i'r fraint o eistedd efo fo yn ei dŷ a thynnu ei lun - profiad wna i byth anghofio. Roedd o'n chap digon hoffus.
Digwydd bod nesh i yrru llun iddo fo a diolch yn fawr iddo fo am gael y cyfle i dynnu ei lun ac mi yrrodd gerdyn post i fi yn diolch, oedd yn dweud 'rwyf yn mynd yn hŷn gyda phob llun ohonof.'
Gŵyl y Felin, 2005
Treiathlon oedd hwn yng Ngŵyl y Felin efo hogia' ifanc yn cystadlu - beicio, rhedeg a neidio mewn i rasio o Cei Bach i Cei Mawr ac yn ôl.
Mae hwn yn fwy diweddar ond dwi'n licio'r llun achos mae o'n dangos bod gweithgareddau yn mynd ymlaen yn y Felin o hyd dyddiau yma. Mae 'na gymdeithas dda dal yma. Dwi'n licio'r llun hefyd gan ei fod yn dal y foment fel mae o'n mynd i mewn i'r môr.
Gobeithio caiff Gŵyl y Felin ei atgyfodi ar ôl y busnes Covid yma basio. Siŵr neith o - mae lot o bobl sy'n rhoi lot fawr o waith i'r ŵyl.
Gellir gweld mwy o luniau Gareth Jones, o'r 1980au i'r presennol, ar ei wefan, dolen allanol
*Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar Ionawr 31, 2021.
Hefyd o ddiddordeb: