Oriel: Y straeon tu ôl i luniau Arwyn ‘Herald’

  • Cyhoeddwyd
Bryn Fôn yn cael ei hebrwng gan ddau heddwasFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Ar ôl gweithio fel ffotograffydd i bapurau newydd gogledd Cymru am 45 mlynedd mae Arwyn Roberts wedi dogfennu'r degawdau diwethaf - o'r difri' i'r digri'.

Ag yntau wedi rhoi'r gorau i'w swydd gyda'r Caernarfon and Denbigh Herald a'r Daily Post, dyma'i ddewis o'r lluniau sy'n crisialu ei gyfnod ar y papurau - a'r stori tu ôl i'r llun.

Meibion Glyndŵr

Ty wedi ei losgiFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi bod yn lwcus ofnadwy i gael byw a thynnu lluniau mewn cyfnod cyffrous. Roedd cymaint o bethau yn digwydd.

Mae hwn ar ben y Lôn Wen, wrth Rhosgadfan, yn '86, ond dwi'n cofio unwaith cael galwad ffôn yn dweud bod tŷ haf ar dân yn Fachwen.

I fyny â fi - ro'n i yna cyn y frigâd dân a'r heddlu. Dw i ddim yn gwybod pwy ffoniodd, a lle gafon nhw'n rhif i - ond gesh i bach o drafferth ar ôl hynny.

Bob tro roedd ffôn y tŷ yn canu roedd rhyw clics yn mynd off ac os o'n i'n dod adra gyda'r nos roedd 'na gar Sierra Cosworth yn dod i fyny pentre' a pharcio ddim yn bell o'r tŷ.

Sierra Cosworth?! Doedd neb yn fama efo Sierra heb sôn am Sierra Cosworth.

Arestio Bryn Fôn

Bryn Fôn yn cael ei hebrwng gan ddau heddwasFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr actor a'r canwr Bryn Fôn ei ryddhau ar ôl ei gyhuddo ar gam yn 1990 o fod yn rhan o'r ymgyrch llosgi tai haf

Gesh i alwad ffôn i fynd lawr i Ddolgellau dydd Mercher a nesh i ddim symud o'r lle tan 10 o'r gloch nos Wener - heb newid dillad a heb folchi na dim byd.

Roeddan ni wedi parcio ein ceir tu allan i le'r heddlu, ac roeddan ni tu allan i fanna drwy'r amser wedyn efo myfyrwyr oedd yno i gefnogi Bryn Fôn yn dod â chips i ni.

Nos Iau, roedd 'na bach o gyffro. Roedd o'n cael ei symud - a dw i'n meddwl mai hwn ydi'r llun ohono'n mynd i lys Dolgellau am un o'r gloch y bore, iddyn nhw gael caniatâd i'w gadw i mewn am hirach.

Doedd neb yn gwybod be' oedd am ddigwydd nesa', felly doedda' ni methu symud.

Grŵp 'dawnsio' gwahanol

Dau ddyn hanner noeth o flaen torf o fenywod mewn clwb noethFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Wna i byth anghofio hwn. Doedd rhywbeth fel hyn erioed 'di digwydd yng Nghaernarfon o'r blaen ac roedda' nhw'n ciwio o'r Majestic, heibio Capel y Dre a heibio'r llyfrgell - welish i erioed ddim byd tebyg a wela i byth eto chwaith.

Yr unig ddynion yna oedd fi, pedwar bownsar, cameraman a chyflwynydd Heno. Roedd y grŵp yn hwyr yn cyrraedd a dw i'n cofio un o'r bownsars yn deud: 'Dwi'm yn gwybod os ydi nhw am droi fyny - os 'di nhw ddim, dwi ddim yn mynd i mewn i fanna i ddeud wrth rhain'.

Roedd yr atmosffer yn wallgo' llwyr. Dyma fi'n mynd fewn a sgen i ddim cywilydd deud ro'n i mor ofnus, nesh i fynd tu ôl i ddesg y DJ a chau'r drws - a thynnu lluniau o fanno. Roedd pobl wedi bod yn twt-twtian am y peth, ond roedd mamau, neiniau a'u plant wedi mynd yno.

Claddu miliwnydd

Arweinydd angladd mewn steil New OrleansFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Mae hwn yn mynd nôl i '91. Angladd boi oedd yn filiwnydd ac yn byw yn America, Jack Evans oedd ei enw fo - hogyn o Borthmadog. Gafodd o ei crematio yn America a chladdu ei lwch ym mynwent Porthmadog, a'i ddymuniad o oedd fflio jazz band go iawn yr holl ffordd o New Orleans i Borthmadog.

Roedd cart a cheffyl yn cario'r llwch ac roedd o fatha carnifal yn mynd drwy'r stryd a'r lle yn llawn dop o bobl.

Roedd o'n anhygoel, wna i byth anghofio hynny. Dyna dwi'n licio am y job. Ti'n cael profiadau fasa ti byth yn cael fel arall.

Dwi'n licio'r llun yma - y dyn yma sy'n arwain yr orymdaith ac mae o'n edrych fyny i'r awyr a'r het ar ei galon.

Tip-off

Galarwyr yn cerdded tuag at eglwysFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts / Daily Post

Roedd hwn yn 2017. Ro'n i wedi cael tip-off ac esh i am dro i fynwent Llanfaglan, o flaen y Foryd. Pwy oedd yno ond criw o'r cyngor.

"Be' 'da chi'n 'neud?" medda fi. "O, tacluso'r wal," medda nhw. "O ia," medda fi, "ym mis Rhagfyr?!" A dyma un o'r cyngor yn deud "Ti'n gwybod dwyt?"

Er bo' fi ddim yn gwybod nesh i ddeud "yndw"… a dyma nhw'n dweud "paid â deud wrth neb - ti'n dod yma fory?" Felly trwy beidio dweud bod fi ddim yn gwybod o'n i wedi cael mwy o wybodaeth a nesh i fynd yno'r diwrnod wedyn.

Pwy weli di yn y llun efo cefnau atoch chi… y boi top hat… hwnna ydi brawd Lord Snowdon. Y ddynes efo bag rownd ei chanol - merch Princess Margaret ydi hi, a'r gŵr â'i gefn ata chdi yn y pen un un ydi'r Lord Snowdon presennol.

Felly hwn ydi angladd Lord Snowdon a doedd neb yn gwybod amdano fo heblaw amdana fi.

Coron Fach i'r Tywysog

Tywysog Charles wrth y barFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Roedd Charles wedi dod i Gaernarfon ac yn cerdded i lawr Palace Street ac aeth o i mewn i'r Goron Fach a phawb yn ei ddilyn o i mewn wrth gwrs.

Achos mod i'n hogyn lleol, ro'n i 'di mynd rownd ffordd arall a 'di mynd trwy'r toilet ac ati a chyrraedd y bar ffordd hollol groes i bawb arall.

Roedda' nhw'n nabod fi achos mod i 'di tynnu llun Charles sawl gwaith o'r blaen, felly roedda' nhw'n gwybod pwy o'n i a gadael fi yna a gesh i lun ohono fo'n cael ei wisgi gan Al Wern. Mae pawb arall yn cael eu gwasgu ochr arall - ro'n i'n lwcus.

Be' oedd yn ddifyr oedd ei fod o 'di mynd i mewn i dafarn o'r enw y Goron Fach, achos tydi o ddim cweit yn frenin nachdi - un bach ydi o de, Tywysog.

O 'Steddfod i 'Steddfod

Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi gwneud pob un Urdd ers 1982 ym Moduan, a dw i wedi gwneud pob un Eisteddfod Genedlaethol ers Caernarfon yn 1979. Dw i'n gobeithio gwneud mwy hefyd fel ffrilans pan fyddan nhw'n dechrau eto.

Mae 'na lwyth sy'n canu heddiw, a dw i'n cofio nhw'n blant bach yn tyfu fyny, ac maen nhw rŵan yn gantorion o fri. Mae rhywun yn cael pleser o weld rhywun yn blaguro a chyrraedd safon uchel - pobl fel Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen.

Dw i wedi tynnu llun Bryn Terfel sawl gwaith ers pan roedd o yn yr ysgol. Hwn ydi'r llun ola' o Bryn yn cystadlu mewn 'Steddfod am y tro diwetha' - yn 'Steddfod Bro Madog yn 1987.

Arwyn Roberts yn cael ei dderbyn i'r orseddFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Arwyn Roberts ei urddo yn 2005 am chwarter canrif o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol a 30 mlynedd o wasanaeth i newyddiaduraeth. Ei fam a'i gyfneither sy'n dathlu gydag o.

Llun hanesyddol

Aelodau Seneddol Plaid Cymru o flaen San SteffanFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Hwn ydi'r llun cynta' o bedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru yn mynd i mewn i'r Senedd efo'i gilydd ar ôl i Cynog, Ieuan, Dafydd ac Elfyn gael eu hethol. Dim ond tri oedd wedi bod cyn hynny. Es i lawr efo nhw ar y trên o Fangor, efo llwyth o gefnogwyr.

Roedd hwn o flaen y porth sy'n mynd mewn i Dŷ'r Cyffredin - ond cyn hyn roeddan nhw i gyd tua 500 llath i ffwrdd yn tynnu lluniau. Am bod y Welsh Nationalists i mewn roedd cyfryngau Llundain efo diddordeb doedd.

Roedd Dafydd Wigley yn chwilio amdana i - ro'n i'n nabod Dafydd ers y cyfnod cynnar - a dyma fi'n gweiddi ac mi welodd Dafydd fi a thynnu'r lleill efo fo a mynd o flaen y giât yma. Y peth nesa' dyma tua 20 ffotograffydd yn rhedeg lawr a fi'n cael fy ngwasgu yn erbyn y ffens a dwi'n cofio un yn deud "how have you got four MPs to move down there for you?"

Cymry yda ni 'de.

Arweinwyr gwlad

Margaret Thatcher a phlentyn yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi tynnu llun bob un Prif Weinidog o Callaghan i Gordon Brown.

Dyna'r unig dro i mi gyfarfod Margaret Thatcher - roedd hi'n agor Ysbyty Gwynedd yn 1987. Doedd yna ddim croeso iddi nes mlaen wedyn nagoedd.

Dw i'n cofio hi'n dod i mewn a sefyll wrth y gwely a symud ei phen yn araf deg fel bod pawb yn cael y llun.

Damwain RAF 1993

Hofrennydd yn cael ei godi o Llyn PadarnFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tri o bobl ifanc wedi i'r hofrennydd fynd i drafferthion a phlymio i Lyn Padarn

Ym Mhwllheli o'n i, yn '93, dyma fi'n cael galwad ffôn - 'ei di fyny i Lanberis, Ben Llyn? Mae 'na ddamwain'.

Off a fi a meddwl bod damwain car neu lori - tan gyrhaeddais i a dyma be oedd 'di digwydd.

Ro'n i yna am dri diwrnod. Roedd yn ofnadwy o drist. Yr un peth sy'n sefyll yn y co' ydi pan ddaethon nhw â'r sgerbwd hofrennydd allan o'r llyn, fasa ti wedi clywed pin yn disgyn - doedd neb yn deud dim byd a phobl ddim yn gwybod be' i ddweud.

Streic Fawr y Blaenau

Criw o streicwyr o flaen bannerFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Streic Llechwedd - roedd y chwareli i gyd ar streic nôl yn '86. Un o'r streics mwya' ar ôl Chwarel Penrhyn.

Dw i'n cofio'r chwareli i gyd wedi cau a dim byd yn mynd mewn nac allan. Roedd hi'n gyfnod hir iawn a'r unig beth dw i'n cofio ydi pobl yn dod o ardal glowyr y de ac yn dod â pharseli bwyd i fyny i'r siopa yn Blaenau.

Asiffeta!

Ffilmio C'mon Midffild - Wali Tomos ar Arthur PictonFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi tynnu lot o luniau o'r rhain dros y blynyddoedd. Hwn ydi'r ffilm Dolig wnaethon nhw ar Stryd Llyn, Caernarfon.

Dim ots lle roedda ti'n mynd adeg hynny roedd George, Mr Picton neu Sandra yn rhywle - mewn carnifal neu rywbeth.

Be' dw i'n licio am y llun ydi'r hogyn bach yn sbecian drwy'r goeden i sbïo arnyn nhw, mae o'n briliant. Mae pethau tu cefn i'r llun yn aml yn fwy difyr.

Hollywood yn dod i Borthmadog

Yr actores Julia OrmondFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Dw i wedi cynnwys hwn achos mae 'na gymaint o ffilmiau cenedlaethol wedi eu gwneud o gwmpas yr ardal.

Hwn oedd premier y ffilm First Knight - a'r carped coch yn Colosseum Porthmadog. Roedd o wedi ei ffilmio yn Llanberis, Trawsfynydd a bob man, a hwn yn dod â glamour i Borthmadog.

Friction Dynamics

Criw o ddynion o flaen coelcerthFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts

Ro'n i yno o'r diwrnod cynta', yn cerdded efo nhw pan gafon nhw eu cau yn y giât.

Nesh i lwyth o waith yn y cyfnod efo nhw yno, ac yn yr achos llys yn Lerpwl. Wna i fyth byth anghofio'r rali gatho nhw yng Nghaernarfon - welish i ddim byd mo'i thebyg yn y dre. Daeth pawb i Gaernarfon i'w cefnogi nhw. Nesh i ac Ian Edwards a Trystan Pritchard gyhoeddi llyfr am yr hanes wedyn.

Byd arall

Ceir mewn maes parcio ac wedi eu gadael ar hyd y fforddFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts/Daily Post

Dyma un o'r llunia' diwethaf i fi dynnu i'r Daily Post. Dechrau'r flwyddyn yma oedd hi a'r ciw a'r holl draffig ar ochr y Wyddfa tra roedd bob man arall wedi cau oherwydd Covid.

Gafodd y llun yma ei rannu ar hyd gwefannau cymdeithasol ar draws y byd achos roedd pobl yn dangos hwn efo lluniau eraill o Milan, Barcelona a Paris yn wag - ac Eryri yn llawn.

Mae pethau wedi newid. Ar y dechrau, roedda ti'n tynnu llun a sychu negs efo sychwr gwallt ac roedd hi'n bump diwrnod nes i bobl weld y llun [mewn papur wythnosol fel yr Herald].

Ond roedd miliynau o bobl wedi gweld y llun yma o fewn oriau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig