'Pan ddechreuon nhw saethu roedd hynny'n ddigon i fi'
- Cyhoeddwyd
Ugain mlynedd yn ôl roedd rhannau o'r wlad dan glo wrth i'r awdurdodau geisio atal feirws arall rhag lledu.
Er mai anifeiliaid fferm oedd mewn perygl gyda clwy'r traed a'r genau, roedd y feirws heintus yn creu panig yn y byd amaethyddol a'i sgil-effaith i'w weld ar bob rhan o gymdeithas.
Yng nghanol y storm roedd Sir Fôn. Dyma stori bersonol unigolion yng nghefn gwlad gafodd eu heffeithio. Gall rhannau o'r erthygl beri pryder.
'Roedd o'n rhywbeth go fawr i chdi weld dy rieni yn mynd i boeni'
Tra bod disgyblion ar draws Cymru yn cael eu haddysgu gartref ar hyn o bryd, mae Gerallt Hughes yn cofio nôl i gyfnod tebyg pan oedd rhaid iddo gael caniatâd yr heddlu cyn derbyn gwaith ysgol.
Nôl yn 2001, roedd o'n blentyn fferm ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Esceifiog Y Gaerwen, Ynys Môn a'i fyd wedi newid gan fesurau llym clwy'r traed a'r genau.
Fel sy'n digwydd rŵan oherwydd Covid-19, roedd yn rhaid iddo hunan-ynysu ar y fferm am wythnosau, a chafodd o ddim mynd i'r ysgol am dri mis.
"Roedda ni'n sownd am tua chwe wythnos heb allu mynd i nunlle," meddai.
"Pan oedd rhywun yn dod â neges roedda ni'n gorfod ffonio'r heddlu fel bod heddwas yn dŵad i dop lôn i 'neud siŵr bod ni ddim yn interactio efo'r bobl oedd yn dod â'r neges.
"Roedda ni'n gorfod ffonio i adael iddyn nhw wybod bod y neges yn cyrraedd, d'eud am hanner dydd pnawn Iau, wedyn roedd yr heddlu yn cyrraedd am chwarter i, y neges yn cyrraedd am hanner dydd a dim ond ar ôl i bwy bynnag oedd wedi danfon adael roedda ni'n gallu nôl y bwyd.
"Yn yr un ffordd roedda ni'n cael delivery o waith ysgol i wneud adra. Mewn ffordd roedd o fatha maen nhw'n neud home schooling rŵan ond heb y compiwtars - roedda ni pre-Google.
"Os fasa pobl y wlad heddiw o dan yr un rheolau rŵan ag oedda ni efo'r anifeiliaid, fasa'r Covid ddim wedi lledaenu. Roedda ni o dan reolau reit llym."
Yn 2001, dim ond ffermwyr hŷn fyddai'n cofio'r achos difrifol diwethaf o glwy'r traed a'r genau.
Ardal gwastatir Caer wnaeth ddioddef fwyaf yn 1967-68, ond roedd y byd amaeth i gyd wedi teimlo o dan warchae.
Felly pan gafodd achos ei amau mewn anifail yn ne Lloegr ar 19 Chwefror, 2001, y gobaith oedd dal yr haint cyn iddo ymledu gormod - fel llwyddwyd degawdau ynghynt. Ond roedd mwy na ffasiwn wedi newid ers yr 1960au.
Yn rhannol oherwydd yr holl deithio ar draws Prydain a symud anifeiliaid rhwng ffermydd, marchnadoedd a lladd-dai, roedd yn barod yn rhy hwyr.
Yn ddiarwybod i'r awdurdodau ar y pryd, erbyn i'r achos gyntaf gael ei gadarnhau ar 20 Chwefror roedd o leiaf 57 fferm wedi eu heintio.
Ar ôl achosion yng ngogledd Lloegr a Dyfnaint, daeth y newyddion i ysgwyd y byd amaeth yng Nghymru ar 27 Chwefror gydag oen heintus mewn lladd-dy yng Ngaerwen. Y diwrnod canlynol roedd achos ym Mhowys.
"Dwi'n cofio'r cyfnod," meddai Gerallt, oedd ddim ond yn 11 ar y pryd.
"Roedd o'n rhywbeth go fawr i chdi weld dy rieni yn mynd i boeni am rhywbeth - a ti'n mynd i'w gofio.
"Mi roedd hi'n ddiwrnod cyn pen-blwydd fy mrawd pan ddaeth y case cynta' yn yr UK. O'r case cynta' wedyn roedda ni'n gwatchad y newyddion ac yn ymwybodol o bethau - ac mi ddaeth i'r lladd-dy yng Ngaerwen."
Tuag wythnos wedyn, daeth hyd yn oed yn agosach i gartref pan welwyd briwiau ar dafod un o'r lloi ar y fferm deuluol, un o symptomau'r clwy.
Gyda rheolau caeth wedi eu cyflwyno ar draws Prydain, roedd yn rhaid i'r fferm fynd i gwarantin tra roedd profion gwaed yn cael eu gwneud i gadarnhau'r clwy.
"Aetho ni fewn i locdown ar y ffarm," meddai Gerallt. "Ond 'da ni'n ffarmio ar ddau safle ar yr ynys felly mi roedd fy nhad wedi gorfod cael caniatâd i fynd i'r ffarm arall.
"Os oedd rhywun ddim yn gadael y diwrnod yna i fynd i'r fferm arall fasa welfare issue wedi bod achos fyddai neb i warchod y stoc yna. Roedd yn rhaid gwneud y dewis i adael y diwrnod yna a mynd.
"Aeth Dad ar y tractor achos roedd o isho porthi'n gwartheg yno, a gen i gof o orfod cario seilej efo llaw i drelar motobeic a'i gario fo i ddefaid oedd yn y cwt."
Daeth y prawf yn ôl yn negyddol, ond gan fod y clwy wedi ymledu i sawl fferm gyfagos roedd rhai cyfyngiadau yn parhau.
Aeth Gerallt na'i frawd bach ddim yn ôl i'r ysgol tan ddiwedd Mai.
"Ar y pryd roedd yn rhaid gwneud exams yn blwyddyn chwech - SATS dwi'n meddwl, a roedd yr ysgolion uwchradd yn dibynnu ar rheiny i roi chdi mewn setiau.
"Achos mod i heb fod yn yr ysgol i wneud y gwaith fel pawb arall predicted grades ges i - mae 'na lot o betha sy'n debyg i rŵan.
"Ond dwi ddim yn cofio os gafodd o effaith arall arna i.
"Roedda ni'n ymwybodol bod o'n rhywbeth ofnadwy ar y pryd, ond fatha plant mae'n siŵr bod o fel rhyw big adventure i ni."
'Unwaith wnaeth nhw ddechrau saethu roedd hynny'n ddigon i fi'
I rai ffermwyr, nid y delweddau erchyll yn unig sy'n serio'r cof ond y gwacter.
Mae Dafydd Pritchard yn gweithio ar y fferm deuluol yn Nyffryn Peris, lle cafodd ei fagu, a sŵn yr anifeiliaid wedi bod yn gefndir i'w holl fywyd.
Yn 2001, ac yntau'n 33 oed, rhan o'i ddyletswyddau gwaith oedd mynd draw i Ynys Môn i ofalu am stoc oedd yn cael eu cadw yno dros y gaeaf.
Roedden nhw'n rhentu tir ar fferm Tŷ'n Pwll, Llangristiolus, ac wrth i'r clwy ledu ar draws yr ynys roedd pryder bod un o'u hanifeiliaid yno wedi dal yr haint.
Anfonwyd sampl i ffwrdd i'w brofi, ond cyn cael cadarnhad roedd yn rhaid difa'r holl stoc.
Dyna'r polisi ar draws Prydain i geisio atal lledaeniad y clwy.
Yn ogystal â'r anifeiliaid ar ffermydd oedden nhw'n amau oedd wedi eu heintio, roedd gwartheg, anifeiliaid a rhai moch ar ffermydd cyfagos hefyd yn cael eu lladd rhag ofn eu bod nhw wedi dal y clwy.
Ar Ynys Môn, oherwydd pryder am nifer yr achosion yn ne orllewin y sir erbyn diwedd Mawrth, penderfynwyd difa holl ddefaid a gwartheg yn y gornel honno o'r ynys heb eu profi - 47,000 o anifeiliaid mewn ardal o 50 milltir sgwâr.
Ar draws Cymru rhwng diwedd Chwefror ac Awst lladdwyd dros filiwn o wartheg, defaid a moch i geisio atal yr haint, neu oherwydd rhesymau lles anifeiliaid yn sgil effaith y cyfyngiadau llym ar waith amaethwyr.
Yn Llangristiolus fis Mawrth, roedd yn rhaid i Dafydd Pritchard hel y defaid yr oedd wedi bod yn eu magu a'u corlannu ar gyfer y dyn lladd oedd yn aros amdanyn nhw.
"Unwaith wnaeth nhw ddechrau saethu roedd hynny'n ddigon i fi," meddai. "Roedda nhw jest yn saethu un, ac wedyn yn mynd ymlaen i'r nesa.
"Ro'n i'n meddwl mod i'n tough, ond doeddwn i ddim digon tough i weld hynny.
"Ar ôl bob dim fod drosodd roedd rhywun yn gweld y gwacter - caeau gwag, siediau gwag.
"Roedd rhywun wedi arfer efo twrw defaid a gwartheg yn brefu, dyna oedd rhywun wedi arfer ei glywed drwy'r amser ar y ffarm, ac wedyn roedd bob dim wedi mynd a dim byd yna, a bob man yn dawel."
Roedd mwy i ddod. Gan fod Dafydd wedi bod draw yn gofalu am stoc mewn rhannau eraill o'r ynys roedd yn rhaid eu lladd nhw hefyd, yn cynnwys 60 o 'feheryn cadw' ar ochr arall yr ynys ger Amlwch.
"Wnaetho ni golli 60 o'n rhai gorau ni. Yndi mae rhywun yn cael tâl am yr anifeiliaid, ond mae rhywun yn colli cymaint mwy, mae rhywun yn colli'r gwaed.
"Mae angen teip arbennig o ddafad mynydd ac roedd Dad wedi trio bridio rhai da ers hanner can mlynedd, oedd yn cryfhau'r ddiadell. Roedd hwnnw yn step nôl a 'da ni wedi bod yn trio adeiladu nôl rŵan ers 20 mlynedd."
Lladdwyd y meheryn, degau o wartheg, a 1,500 o ddefaid.
Wrth gofio'n ôl heddiw o'i gartref yn Nant Peris, mae'n dweud bod y cyfan wedi cael mwy o effaith arno nag oedd yn sylweddoli ar y pryd.
"Neshi hyd yn oed helpu nhw gario'r defaid a'u rhoi ar y tân. Dylwn i ddim wedi bod yno dweud gwir. Tasa nhw'n ddefaid rhywun arall ella fyddwn i wedi bod yn ok, ond ro'n i'n trio bod yn galed.
"Roedd eu gweld nhw yn y tân yn ofnadwy a rhai o'r golygfeydd yn erchyll. Roedd rhai yn cael eu codi ac roedda nhw wedi bod yn sefyll ers amser hir erbyn hyn, a defaid yn cael eu codi a'r ŵyn yn disgyn o'u boliau nhw, a roedda nhw wedi chwyddo yn uffernol.
"Wnaeth o dd'eud arna i. Rhyw ddau neu dri mis wedyn ro'n i'n cael poenau. Straen a sioc weld bob dim yn cael ei ladd oedd hynny, fel aftershock."
Ac ar ôl yr holl ladd, fe ddaeth canlyniadau'r profion drwy'r post. Negyddol.
Er ei fod yn gwybod bod anifeiliaid iach wedi eu lladd, tydi Dafydd ddim yn feirniadol o'r penderfyniad.
"Roedd hynny'n galed - cael llythyr nes 'mlaen yn dweud bod nhw'n negyddol. Roedd hwnnw'n hitio chdi eto. Ac eto os oedda nhw heb wneud be' wnaeth nhw i ni, ac efo'r cull, ella fydda'r clwy wedi mynd drwy'r ynys i gyd a fydda ni wedi colli bob dim. Mae'n anodd deud be' fydda wedi digwydd."
Ond does dim ansicrwydd ym marn perchennog y fferm ar y pryd.
Roedd John Owen Jones wedi ymddeol o amaethyddiaeth erbyn 2001, ond yn dal i fyw yn Tŷ'n Pwll. Fe allai 20 mlynedd arall fynd heibio a fyddai o dal methu deall un peth: pam yr holl ladd?
"Roedd y defaid yn y sied, ac roedden nhw'n gafael ynddyn nhw a gwn yn eu talcen. Yn yr iard oeddwn i, ac yn clywed sŵn gwn yn tanio, ac roedd y wraig yn crio. Roedd o'n ddiawledig.
"Roedd yna ddefaid marw yn y sied am ddau neu dri diwrnod ac wedi dechrau arogli. Roedd ffermwr oedd yn byw dwy neu dair milltir i ffwrdd yn gallu arogli nhw, ac yn cyfogi wrth fynd i odro yn y bore medda fo.
"Wnaeth nhw greu pyre a dechrau llosgi nhw ac wedyn claddu'r llwch mewn twll ar y tir. Ddaeth pobl y fyddin draw wedyn i farcio lle oedd o wedi ei gladdu, efo satellite i wybod yr union le fel bod o'n mynd i ryw vault yn Llundain.
"Ac ar ddiwedd hyn i gyd doedd yna ddim foot and mouth acw yn y diwedd, ar ôl yr holl ladd a llosgi. Ofn gwneud camgymeriad oedda nhw felly wnaeth nhw saethu nhw i gyd.
"Doedd 'na ddim sens yn be' wnaetho nhw. Wna i byth ddeall y peth."
'Roedd y cyfnod wedi fy mlino i gymaint, wedi tynnu fy nerth'
Os oes un person ar Ynys Môn sy'n ymgorfforiad o gyfnod clwy'r traed a'r genau, efallai mai Bob Parry ydy hwnnw.
Gyda fferm 10 milltir o'r achos gyntaf, roedd y cynghorydd sir hefyd yn llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac felly yn llygad y storm am sawl rheswm.
Mae'n cofio'n iawn clywed y newyddion am yr achos gyntaf yng Nghymru. Roedd newydd gyrraedd Brwsel i gynrychioli aelodau o'i undeb mewn trafodaethau gyda gweinidogion amaeth Ewrop yn sgil cadarnhad o'r achos gyntaf yn Lloegr.
"Ro'n i newydd landio ac yn dod lawr o'r plên, rhoi'r ffôn ymlaen - ac roedd y Western Mail yn cysylltu yn gofyn os o' ni'n gwybod lle oedd yr achos yn Sir Fôn.
"Hwnna oedd y teimlad gwaetha. Ro'n i ym Mrwsel a'r ffarm yn Sir Fôn - ac yn naturiol y peth cynta' oedd yn dod i'n meddwl oedd tybed os mai ar ein ffarm ni oedd o.
"Ro'n i'n falch iawn pan neshi ffonio adra a'r hogia' yn dweud na toedd yna ddim byd ar y ffarm."
Wrth i'r sefyllfa waethygu dros y dyddiau nesaf roedd yn rhaid trosglwyddo'r dyletswyddau amaethu i'w fab gan fod cymaint o waith gwleidyddol i frwydro dros ddiwydiant mewn argyfwng.
Yn 2001, dechrau ffeindio'i thraed oedd y Cynulliad Cenedlaethol a dim ond rhai agweddau o amaeth yn unig wedi eu datganoli.
"Gaetho ni amryw o gyfarfodydd efo Tony Blair - a thrio cael pres gan Gordon Brown.
"Dan amgylchiadau eraill fasa wedi bod yn ddifyr, ond roedd rhywun mor bryderus yn mynd i mewn. Dwi'n cofio mynd yno un bore a gweld bod Number 10 fel unrhyw gartref arall.
"Roedd tua chwech ohona ni yn disgwyl am y cyfarfod a dyma hogia' Tony Blair trwydda ni ar y ffordd i'r ysgol. Fel mae plant de, yn mynd i'r ysgol fel unrhyw ddiwrnod arall."
Wrth i'r argyfwng waethygu roedd cynrychiolwyr yr undebau mewn cyfarfodydd di-ri'.
"Roedd yr NFU efo'u pencadlys yn Lloegr - ond roedda ni yng Nghymru a finna'n byw yn Sir Fôn ac roedd ganddyn nhw habit o ffonio chi tua saith gyda'r nos yn deud bod nhw isho'ch gweld chi erbyn wyth bore wedyn, oedd yn creu problemau. Ro'n i'n dreifio lawr i Gaerdydd noson honno a dal trên cynnar bore wedyn i fod yno mewn pryd.
"Roeddwn i ac eraill ar y lôn lot yn de ac roedd rhywun wedi ymladd erbyn diwedd.
"Gollish i fy limp efo un ffarmwr o Geredigion oedd wedi cwyno nad o'n i'n golchi 'nghar ddigon aml. Wel doedd y car ddim yn cael amser i oeri heb sôn am gael ei olchi.
"Ond dyna oedd teimladau ffermwyr ar y pryd, oedd mor boenus. Mi ymddiheurodd tua chwe mis wedyn.
"Jest ar ôl y clwy nes i stepio lawr - roedd y cyfnod wedi fy mlino i gymaint, wedi tynnu fy nerth."
Wrth edrych yn ôl mae'n meddwl bod yr awdurdodau wedi bod yn rhy araf yn gwneud penderfyniadau, a chau i lawr yn syth fyddai wedi bod orau i'r anifeiliaid a'r economi.
Mae nifer o reolau gafodd eu creu yn ystod y cyfnod, fel rheolau ar symud anifeiliaid, yn dal i sefyll hyd heddiw.
Pryder Bob Parry ydy bod mewnforio cig o wledydd heb reolau mor gaeth, fel De Affrica a De America, yn agor y drws i fewnforio'r clwy yn ei ôl hefyd.
Mae un ddelwedd o'r cyfnod yn aros yn ei gof o hyd, ac mae'n ddelwedd dydy o ddim eisiau ei weld byth eto.
"Peth trawodd fi waetha yn y cyfnod oedd pan ro'n i'n dod adra o Gaerdydd trwy Hereford.
"Fel yda chi'n dod i dop Hereford 'da chi'n sbïo lawr a 'da chi'n gweld darn mawr o'r wlad o'ch blaen ac roedda chi'n gweld y mwg yn codi yma ag acw o'r tannau.
"Roedd hynny'n yn rhoi'r neges adra ynde ac yn eich sobri chi'n ofnadwy."
Hefyd o ddiddordeb: