Tu ôl i'r llen yn ffatri brechlyn Covid yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae ffatri Wockhardt wedi bod yn Wrecsam ers dros 20 mlynedd. Nawr, mae gan y gweithle rôl hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu'r brechlyn Covid-19, gyda bron pob un o gyflenwadau'r DU o'r brechlyn AstraZeneca yn dod trwy'r waliau hyn i'w llenwi mewn ffiolau a'u dosbarthu.
Mae'r ffatri'n cyflogi tua 400 o bobl ac fel arfer yn cynhyrchu meddyginiaethau i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys morffin ac inswlin.
Ond beth sy'n digwydd yn y ffatri nawr ei fod yn ganolbwynt i'r ymdrech i frechu yn erbyn Covid-19?
Mae'r deunyddiau crai ar gyfer y brechlyn yn cael eu creu a'u puro mewn labordai yn Rhydychen a Keele, mewn proses sy'n para tua 60 diwrnod.
Yna maen nhw'n cyrraedd ffatri Wockhardt yn Wrecsam ar gyfer y cam olaf sef 'llenwi a gorffen'. Mae technegwyr yno yn ychwanegu dŵr, siwgrau a mwynau i gynhyrchu'r cynnyrch terfynol yn barod i'w lenwi mewn ffiolau; pob un yn cynnwys tua phum dos.
Rhaid i'r ffiolau fod yn hollol ddi-haint felly maent yn cael eu golchi a'u sterileiddio yn gyntaf. Mae lefel uchel o reoli heintiau yn digwydd yn yr ardal hon.
Rhan o'r broses o gadw'r ardal yn ddi-haint yw cadw'r pwysedd aer ar lefel benodol. Mae gweithwyr yn gwirio'n gyson am unrhyw halogion yn yr aer. Mae hyn yn golygu na all staff wneud unrhyw symudiadau sydyn ac mae'n rhaid iddynt wirio am facteria mor aml â phob dwy awr.
Mae gan y ffatri y gallu i gynhyrchu hyd at 120,000 dos yr awr.
Ar ôl llenwi'r ffiolau, mae peiriant yn gwirio hyd at 40 ffiol bob eiliad am ddiffygion bach.
Mae gweithwyr yn gwirio unrhyw rai sy'n cael eu gwrthod i sicrhau nad oes unrhyw wastraff.
Ar ôl iddynt gael eu gwirio, maen nhw'n cael eu hanfon i'r llinell bacio i'w labelu.
Mae pob ffiol yn cael ei labelu ac yna'n cael ei gwirio gan weithiwr i sicrhau bod y labelu'n glir ac yn hawdd ei ddarllen.
Yna maent yn cael eu gwahanu yn grwpiau o bump a'u rhoi mewn plastig amddiffynnol cyn cael eu bocsio.
Mae'r ffiolau yn cael eu pacio mewn i focsys dosbarthu brown i'w diogelu nhw wrth eu hanfon yn ôl i AstraZeneca. Rhaid eu cadw rhwng 2 ac 8 gradd celcius. Mae AstraZeneca yn cymeradwyo ac yn dosbarthu'r brechlynnau.
Hefyd o ddiddordeb