Y gwyddoniaeth tu ôl i COVID-19

  • Cyhoeddwyd
coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae coronafeirws yn llenwi'r penawdau ar hyn o bryd. Ond faint ydych chi'n ei ddeall am y salwch, beth sy'n ei achosi a sut i'w drechu?

Beth yw feirws?

Mae feirysau yn ddarnau bach o gôd genetig wedi'u lapio mewn cot protein a braster. Maent yn llawer llai na bacteria a maent yn atgenhedlu trwy herwgipio celloedd y corff dynol, gan droi'r celloedd hyn yn ffatrïoedd firaol.

Dyma beth sy'n gwneud firws mor anodd ei drin; nid yn unig maen nhw'n cuddio yn ein celloedd ond i'w lladd rhaid hefyd lladd y gell maen nhw'n cuddio ynddi.

Beth yw coronafeirws?

COVID-19 yw enw'r afiechyd (Corona Virus Disease 2019). Teulu o feirysau yw coronafeirws, a SARS-CoV-2 yw'r straen o'r feirws sydd yn achosi'r pandemig cyfredol.

Coronafeirws oedd hefyd yn gyfrifol am gychwyn SARS yn 2003 a MERS yn 2018, felly, nid yw coronafeirws yn beth newydd. Ond beth sydd yn wahanol am y straen yma yw ei fod yn fath newydd - felly does gan neb imiwnedd yn ei erbyn - a pha mor gyflym mae'n gallu cael ei drosglwyddo.

Sut mae coronafeirws yn heintio celloedd?

Ar got y feirws mae yna bigau sy'n glynu i broteinau ar wyneb celloedd y corff. Mae'r feirws wedyn yn docio ar gell, ac yn dadlwytho'r gwybodaeth sydd ei angen i'r cell atgynhyrchu mwy o feirysau.

Mae'r feirysau newydd yn cael eu rhyddhau o'r celloedd ac yn gallu heintio celloedd newydd yn eu tro a lledaenu'r feirws i'r gwddf, ceg a'r ysgyfaint.

Pa mor angheuol yw coronafeirws?

Mae'r ffigyrau sydd ar gael o ran risg marwolaeth o ganlyniad i COVID-19 yn amrywio o wlad i wlad. Mae'n uchel yn yr Eidal (8%) ond yn isel iawn yn yr Almaen (0.2%). Mae'n debyg fod yr anghysonderau hyn o ganlyniad i'r ffaith fod yr Almaen yn profi pobl â symptomau ysgafn ac yn cynnwys rhain yn y ffigurau, tra nad yw lleoedd fel yr Eidal a'r DU yn cynnal y profion eang hyn, ar hyn o bryd.

Bydd mwyafrif y bobl yn gwella o fewn ychydig dyddiau. Ond mae rhai yn datblygu niwmonia ac efallai y bydd angen peiriant arnyn nhw i'w helpu i anadlu. Mae'r fath o niwmonia sy'n cael ei achosi gan COVID-19 yn unigryw ac felly mae'r Gwasanaeth Iechyd yn paratoi i ddelio â nifer cynyddol o achosion, sy'n gofyn am fwy o beiriannau anadlu.

Pam ei fod yn lledaenu mor gyflym?

Nid yw pawb sydd wedi eu heintio yn dangos symptomau, felly gall berson ei drosglwyddo heb wybod.

Yr amser deori rhwng haint a symptomau yw pump diwrnod ar gyfartaledd, ond gall fod o ddau i 14 diwrnod. Felly, mae yna amser lle gall pobl gael eu heintio heb sylweddoli.

Straen newydd yw SARS-CoV-2, felly nid oes gan unrhyw un imiwnedd.

Gall bob person sydd â COVID-19 achosi tri achos newydd. Mae hyn dal yn isel o'i gymharu â'r frech goch sy'n achosi 12 i 18 o achosion newydd, a polio, sy'n achosi chwech.

Mae'n lledaenu trwy ddiferion bach sy'n cael eu rhyddhau wrth disian, peswch neu hyd yn oed wrth siarad. Dyna pam mae pellter cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i arafu'r lledaeniad.

Sut mae lleihau'r ymlediad?

Mae'r llywodraeth yn ceisio arafu ymlediad y feirws. Rhaid sicrhau bod llai o bobl yn cael eu heintio er mwyn i'r Gwasanaeth Iechyd fedru ymdopi.

Natur gwyddoniaeth yw dadlau am y ffordd orau i arafu'r ymlediad. Mae damcaniaethau'n cael eu herio'n gyson, wrth i ddata newydd ddod i'r amlwg. Oherwydd fod y feirws yma yn un newydd, mae'r gwyddonwyr yn deall mwy a mwy pob dydd.