Chwalu'r chwedlau am frechlyn Covid-19
- Cyhoeddwyd
'Wedi datblygu'n rhy gyflym'...'sgil-effeithiau gwael'...'ddim yn ddigon effeithiol'
Mae nifer o gamsyniadau mewn cylchrediad am y brechlyn COVID-19 - ond beth yw'r gwir? Gofynnodd Cymru Fyw i Dr Glyn Morris, darlithydd Gwyddoniaeth Biolegol, i ddadansoddi rhai o'r straeon mwyaf cyffredin i ddod o hyd i'r ffeithiau.
Nid yw'r syniad o newyddion ffug yn gysyniad newydd. Cyn belled â'n bod wedi cael newyddion rydym wedi cael barn, diffyg ymddiriedaeth a chamwybodaeth.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn golygu ein bod bellach yn wynebu her newydd o allfa 'newyddion'. Mae'r cyfryngau cymdeithasol ond yn dechrau datblygu'r offer i frwydro yn erbyn gwybodaeth anghywir ac felly mae'r cyfrifoldeb ar y darllenydd ar hyn o bryd i werthuso'r wybodaeth yn oddrychol ac yn feirniadol. Dydy hyn ddim yn dasg hawdd!
Dyma rai o'r camsyniadau mwya' cyffredin am y brechlyn COVID-19... a'r ffeithiau.
Nid yw'r brechlynnau'n ddiogel oherwydd fe'u datblygwyd rhy gyflym
Am y tro cyntaf mewn hanes gwyddonol rydym wedi cael cydweithrediad byd-eang i oresgyn gelyn cyffredin sef coronafeirws.
Gyda'r math hwn o ymdrech ac adnodd, roedd disgwyl canlyniadau cyflym. Os rhywbeth, mae'n tystio i'r hyn y gallwn ei gyflawni os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd.
Hefyd cawsom gychwyn cynnar. Cafodd coronafeirysau eu henwi'n 'Corona' ddiwedd yr 1960au oherwydd ymddangosiad tebyg i goron y proteinau pigyn wyneb. Mae blynyddoedd o ymchwil wedi digwydd ers hynny ac yn dilyn yr achosion o SARS yn 2002 a 2004 roedd llawer o waith datblygu brechlyn eisoes wedi'i wneud.
Cafodd y gymeradwyaeth ei symleiddio. Cafodd brechlyn COVID gymeradwyaeth gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddygaeth a Chynhyrchion Gofal Iechyd y Deyrnas Unedig (MHRA); fel arfer byddai'r DU yn aros i Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop gymeradwyo brechlyn, ond gan fod hwn yn argyfwng, defnyddiodd gwledydd yr UE eu rheolyddion eu hunain.
Er mwyn cael eu cymeradwyo, roedd y brechlynnau'n dal i fynd trwy'r un profion trylwyr â brechlynnau eraill, gan gynnwys profion labordy, treialon clinigol cam 1, 2 a 3.
Fe wnaeth y cyfnodau hyn gyfuno profi'r brechlynnau am eu diogelwch a'u heffeithiolrwydd ar ddegau o filoedd o bobl. Profodd treialon cam 3 brechlyn Rhydychen AstraZeneca ar tua 20,000 o bobl o'r Deyrnas Unedig, Brasil a De Affrica.
Rydym hefyd yn anghofio'r holl fethiannau. O'r brechlynnau sy'n cael eu cymeradwyo, roedd llawer wedi methu a byth yn mynd heibio'r profion trylwyr. Dyna pa mor bwysg yw'r broses hon!
Mae sgil-effeithiau yn fwy difrifol na brechlynnau eraill
Mae adweithiau alergaidd difrifol yn anghyffredin iawn mewn pobl sy'n cael y brechlynnau COVID. Mae gwefan y GIG yn rhestru sgil-effeithiau posib y brechlyn COVID-19 fel rhai ysgafn sy' ddim yn para mwy nag wythnos.
Mae sgil-effeithiau yn cynnwys: braich boenus lle aeth y nodwydd i mewn, teimlo'n flinedig, cur pen, teimlo'n boenus, teimlo neu fod yn sâl.
Mae disgrifiadau tebyg i'w gweld os edrychwch am sgil-effeithiau'r brechlyn ffliw neu'r brechlyn MMR. Mae hyn oherwydd bod y sgil-effeithiau hyn yn aml yn arwyddion bod system imiwnedd eich corff yn gweithio.
Mae llwyddiant brechlyn yn dibynnu ar gryfder a iechyd system imiwnedd yr unigolyn. Mae brechlyn yn ysgogi system imiwnedd yr unigolyn i greu celloedd imiwnedd a fydd yn amddiffyn yr unigolyn pe bai'n dod i gysylltiad â'r feirws.
Ar ôl ei actifadu, mae angen llawer o egni ar y system imiwnedd i greu'r celloedd newydd hyn, a dyna pam y gallem deimlo ychydig yn boenus neu'n swrth ar ôl brechlyn. Mae'r taliad bach hwn yn golygu, os ydym yn dal y feirws go iawn, bydd y system imiwnedd yn barod i'n hamddiffyn yn gynnar.
Mae'r ymateb cynharach o'r system imiwnedd allanol yn ein hamddiffyn rhag y symptomau mwy difrifol sy'n gysylltiedig â COVID.
Nid yw brechlyn sy' ddim ond 70 y cant yn effeithiol yn werth chweil
Pan fyddwch chi'n rholio dis chwech o weithiau, mae'r siawns o gael yr un nifer bob tro yn fain, oherwydd yn y byd go iawn, yn enwedig mewn gwyddoniaeth, nid oes y fath beth â pherffeithrwydd. Felly peidiwch â gadael anelu at berffeithrwydd eich rhwystro chi rhag wneud rhywbeth da.
Gallem ddadlau am ddyddiau ynghylch pa frechlyn sy'n well, yr un AstraZeneca Rhydychen, Pfizer neu Moderna.
Ond y gwir yw nad oes modd cymharu'r astudiaethau hyn eto. Yn unigol mae pob brechlyn wedi'u cymeradwyo gan olygu eu bod yn ddiogel ac yn dangos effaith sylweddol wrth amddiffyn pobl rhag COVID.
Ar ôl i chi gael eich brechu, gallwch fynd yn ôl i fywyd cyn-bandemig
Nid yw hyn yn wir, yn anffodus. Ni allaf bwysleisio pa mor anhygoel yw brechlynnau, hebddynt byddem yn dal i farw o'r frech wen (smallpox), afiechyd sy' wedi ein plagio ers oes yr Eifftiaid.
Nid oes amheuaeth bod brechlynnau sy'n cael cymeradwyaeth yn arbed bywydau. Ond nid ydym yn gwybod eto pa mor dda yw'r brechlyn o ran lleihau heintiau asymptomatig.
Mae'n bosibl y gall pobl sydd wedi'u brechu gael eu heintio o hyd, ond nad ydynt yn ymwybodol gan eu bod yn cael eu hamddiffyn gan y brechlyn. Mae hyn yn golygu bod 'na risg y gallant barhau i ledaenu'r coronafeirws, er eu bod yn cael eu gwarchod gan y brechlyn ei hunan.
Mae'r data cynnar yn dangos bod y brechlyn yn lleihau achosion heintiau asymptomatig. Rydym yn dal i fod dan glo genedlaethol, felly ni fydd y darlun go iawn o drosglwyddo yn glir nes i ni ddechrau gweld pobl yn cymysgu eto.
Dyma pam mae'r llwybr allan o gloi yn dal i fod yn un gofalus ac yn araf, er mwyn caniatáu amser i wyddonwyr fonitro'r sefyllfa a sicrhau nad yw'r trosglwyddiad yn troelli allan o reolaeth eto.
Y ffordd orau i amddiffyn eraill yw gwisgo mwgwd, cadw'ch pellter a chael eich brechu cyn gynted ag y bydd y rhaglen yn caniatáu.