Oriel Gerallt Pennant o'r blodau sy'n croesawu'r gwanwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwanwyn, a'i holl liw, wedi cyrraedd.
Un sydd wrth ei fodd yn mynd allan i grwydro â'i gamera i dynnu lluniau blodau'r gwanwyn ydi cyflwynydd Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru, Gerallt Pennant.
Ar ôl cyfnod hir o orfod aros yn agos at adref, mae'n gobeithio y bydd yn cael y cyfle i weld rhai o'r blodau hyn unwaith eto eleni.
Grym y gwanwyn yng ngardd Plas Brondanw, Llanfrothen - blodyn magnolia yn dal yn ei blisgyn o wisg flewog... a'r un blodyn ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Llwyn sy'n gweiddi "mae hi'n wanwyn!" ydy'r camellia - un o sêr disglair pentref Portmeirion.
Er bod y goedwig wedi ildio ei lle i ledu'r lôn rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog, mae blodau'r gwynt yn dal eu tir ger tro Cae Fali - lle da i'w gweld a chyfri loris Mansel Davies!
Atgof ydy'r eirlysiau erbyn hyn - blodyn sy'n agos at galon y Cymry - sawl enw cyffredin fedrwch chi gofio?
Lili wen fach, eirdlws, cloch maban - dyna dri, ac un o'm hoff fannau i'w gweld ydy Coed Trefan ger Llanystumdwy.
Cymanfa o lwyn a gorchest o flodau - rhododendron macabeanum yn bwrw ei gysgod dros un o gerfluniau gardd Portmeirion.
Y blodyn sy'n gwneud blwyddyn yn gyflawn - lili'r Wyddfa. Bu'n rhaid hepgor ei weld y llynedd - byw mewn gobaith y daw haul ar fryn eleni.
"Dyfod pan ddêl y gwcw …" Buan iawn daw clychau'r gog yn "llesmeiriol baent". Dyma lecyn hoff ger Betws-y-Coed yn Nyffryn Conwy.
Tormaen porffor ar Glogwyn y Garnedd, sef wyneb yr Wyddfa sy'n codi uwchlaw Nant Gwynant a Chwm Llan. Llun a dynnwyd ar y 24ain o Fawrth eleni - mae'r rhyddid i grwydro'r mynydd yn falm.
Hefyd o ddiddordeb: