Oriel fy milltir sgwâr: Y dyn tywydd, Robin Owain Jones

  • Cyhoeddwyd
Ceffyl Traeth Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Robin Owain Jones

Dros gyfnodau clo 2020/21 mae diddordeb Robin Owain Jones mewn ffotograffiaeth wedi tyfu'n sydyn - o gofnodi ei deithiau cerdded ar ei ffôn i ddenu miloedd o sylwadau o dros y byd ar ei gyfrif Instagram, dolen allanol.

Fel aelod o dîm traffig a thywydd BBC Radio Cymru mae gan Robin y fantais o wybod pryd fydd yr amodau tywydd gorau ar gyfer tynnu lluniau, heb sôn am fedru enwi'r ffurfiau cymylau trawiadol mae'n eu dal yn ei luniau.

Daeth i adnabod llwybrau lleol hen a newydd yn ystod y cyfnodau clo a phan laciwyd y rheolau doedd dim rhaid iddo fynd yn rhy bell o'i gartref yng Nghaernarfon i gael lluniau trawiadol o fynyddoedd a llynnoedd Eryri a thraethau Ynys Môn.

Bydd rhai'n synnu i glywed mai ar ei ffôn mae'n dal i dynnu ei luniau i gyd.

Toriad gwawr dros Foel Siabod

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Moel Siabod ydy hwn wedi ei dynnu o gopa Moel Eilio ar doriad gwawr. Mae llethrau'r Wyddfa yn edrych fel sillhouette du ond mae llwybr Llanberis a lein y trên yno yn rhywle.

"Mae'r llun yn dangos cloud inversion - lle mae'r cymylau yn is na lle mae rhywun yn sefyll.

'Dihangfa'

"Dwi wedi licio tynnu lluniau erioed ond ddim wir wedi ystyried cyfansoddiad a golau tan yn fwy diweddar," meddai Robin sy'n cofio cael ei gyflwyno i ffotograffiaeth gynta' wrth weld ei daid yn datblygu ei luniau ei hun o ffilm 35mm.

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones
Disgrifiad o’r llun,

Robin ar Foel Berfedd efo Llyn Cwmffynnon yn y cefndir

"Yn ystod y cyfnod pan oedden ni'n methu mynd allan, cerdded oedd fy nihangfa i, oni'n dechrau iwsio'r amser yna wedyn yn sbïo ar waith pobl eraill a thrio tynnu lluniau wrth fynd am dro yn lleol.

"Mae'r dudalen Instagram jyst wedi ffrwydro - dwi'n teimlo bach o bwysau rŵan; mae gen i ddilynwyr, mae 'na safon dwi'n teimlo dwi fod i'w gynnal!"

'Coeden unig' Llyn Padarn

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Y goeden unig ar Lyn Padarn, jyst cyn toriad gwawr ddechrau Rhagfyr 2020 - bore hollol lonydd, ychydig bach o darth ar wyneb y llyn, yr adlewyrchiad a chopa'r Wyddfa dan gwmwl i'r dde o'r goeden.

"Yr awr las maen nhw'n galw'r cyfnod cyn i'r wawr dorri dros y gorwel: mae gen ti'r golden hour ar ôl toriad gwawr a cyn y machlud a'r blue hour cyn toriad gwawr ac ar ôl i'r haul fachlud lle ti'n cael y lliwiau glas yn hytrach na'r lliwiau melyn, euraidd.

"Mae'r tywydd a'r cymylau a'r golau yn gallu gwneud gwahaniaeth rhwng llun neis a llun ffantastig - pethau sydd allan o dy reolaeth di. Felly yn hynny o beth efallai bod yr ochr tywydd o ngwaith i yn bwysig - dwi'n sbïo eitha' lot ar y mapiau tywydd a meddwl pryd mae'n debygol o fod yn ffafriol i gael llun."

Buwch a Chrib Nantlle

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"O'r goeden unig i'r fuwch unig - ar Gomin Uwchgwyrfai gyda Mynydd Mawr ar y chwith a chopaon Crib Nantlle ar y dde.

"Dydi diwrnod da i dynnu llun ddim bob amser yn golygu awyr las fel oni'n meddwl ar y dechrau - mae awyr las, er bod o'n neis, mae'n boring; mae llun efo cymylau dramatig lot mwy trawiadol nag awyr las boring!"

Tryfan a Llyn Ogwen - yr un lle, amodau gwahanol

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Tryfan a Llyn Ogwen wedi ei dynnu ar y ffordd i fyny Pen yr Ole Wen tuag at Ffynnon Lloer - nes i dynnu hwn ar y ffordd lawr pan oedd y cymylau wedi torri rhywfaint gan greu'r lliwiau brown yn yr awyr. Nes i dynnu union yr un llun ar y ffordd fyny pan oedd o jyst yn flanced o gymylau ac ar y ffordd lawr wnes i feddwl fod y llun yma lot mwy trawiadol - union yr un lleoliad, yr un diwrnod, dim ond ryw awr o wahaniaeth.

"Dwi'n meddwl bod lot o ffotograffwyr yn eistedd rhywle am oriau yn disgwyl am y foment pan mae pethau'n edrych yn dda.

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Mae'r llun yma yn yr union un lle ond mewn amodau hollol wahanol.

"Roedd na gawodydd trwm o eira lle o'n i methu gweld dim byd, doedd Tryfan na'r llyn i'w weld o gwbl, ond wnaeth y cymylau dorri, Eto, mae jyst yn dangos bod y tywydd, yr amgylchiadau a'r tymhorau yn gallu gwneud gymaint o wahaniaeth i sut mae'r llun yn edrych.

"Mae gymaint am y llun yn aros yn union 'run peth ond mae pethau'n newid yn yr atmosffer sy'n gwneud i'r llun edrych yn hollol wahanol."

Castell Caernarfon

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Castell Caernarfon dan leuad llawn olaf 2020, sef y lleuad oer (cold moon).

"Yn ystod y cyfnod clo llymach ro'n i'n styc i'n walks i lawr at y castell ac i Bontnewydd ac yn ôl, felly 'nes i dynnu eitha' lot o luniau o'r cei.

"Roedd hon ar noson lonydd, yr adlewyrchiad ar afon Seiont a'r Anglesey Arms."

Adlewyrchiad

Dysgodd Robin am dip gan un ffotograffydd i chwilio bob amser am adlewyrchiad mewn llun neu greu adlewyrchiad 'artiffisial' fel rhoi ychydig o ddŵr ar do car neu greu pwll ar y llawr.

"Mae o jyst yn newid y llun yn llwyr. Mae'r rhain yn bethau ti'n pigo fyny a meddwl 'Waw'."

Llanddwyn

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

Mae golygfeydd cerdyn post o Ynys Llanddwyn yn gyffredin iawn ond sylwodd Robin ar y cyfansoddiad gwahanol yma ar hap.

"Mae sawl un wedi commentio bod nhw erioed wedi gweld y cyfansoddiad yma o ffenest allor hen eglwys Dwynwen yn fframio goleudy Tŵr Mawr a'r groes ar y dde.

"Es i nôl yna i gael yr haul yn machlud yn lled ddiweddar ac oni'n trio ffeindio'r pwynt lle oni 'di tynnu'r llun yna a methu'n glir a ffeindio'r union le. Felly mater o fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn oedd hynna a digwydd sbïo dros fy ysgwydd a gweld y llun."

Cymylau Llyn Padarn

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Golygfa o Lyn Padarn tuag at Ben y Pass ond heb y goeden - bore llonydd efo adlewyrchiad cymylau streipiog yn yr awyr o'r enw 'strydoedd cymylau' (cloud streets).

"Mae'r amodau yn gorfod bod yn eitha' sbesiffig i'r cymylau yma felly digwydd bod allan ar y bore hwnnw oeddwn i a chael yr amodau ffafriol - pan ti'n cael rhywbeth fel'na o dy flaen mae'n eitha' hawdd ei ddal mewn llun - mae'r gwaith paentio wedi ei wneud i ti, mae'r cynfas yna'n barod."

Traeth Dinas Dinlle

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Ceffyl ar lanw isel ar draeth Dinas Dinlle, ddiwedd p'nawn. Ro'n i wedi bod yn tynnu llun ynghynt o'r dŵr a'r cerrig lawr at y môr a'r haul a'r cymylau, a welais i ddau geffyl yn dod tuag ata i a rhedeg nôl i lawr y traeth i gael un o'r ceffylau ar y pwynt yna - reit ynghanol y llun.

"Mae gen ti syniad yn dy ben o be' fyset ti'n licio ei gael yn y llun a wedyn mater o drio dal hwnna ydio."

Tarth ar Lyn Nantlle Uchaf

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Cychod ar Lyn Nantlle Uchaf, lle arall sy'n boblogaidd efo ffotograffwyr ond mae ar dir preifat felly mae'n rhaid cael caniatâd gan y tirfeddiannwr i fynd yno.

"Yr Wyddfa sydd i'w weld drwy'r bwlch a'r haul yn codi tu ôl iddo - y blue hour eto - a'r tarth ar wyneb y dŵr wrth i'r haul godi a'r awyr gynhesu."

Goleudy Penmon

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Dwi'n dueddol o fynd am y glannau a'r llynnoedd a chael y persbectif, ti ddim jyst yn tynnu llun yn sefyll i fyny, ti'n mynd lawr yn nes at y llawr ac mae be' sydd gen ti yn y foreground hefyd yn aml iawn yn gwneud gwahaniaeth.

"Goleudy Trwyn Du, Penmon ac Ynys Seiriol tu ôl iddo ydi hwn, sydd wedi ei dynnu ganwaith gan ffotograffwyr.

"Dwi'n sbio ar luniau ffotograffwyr proffesiynol ac yn sylwi ar y grefft sy'n mynd mewn i beth maen nhw'n neud a dwi nunlla'n agos i hynna. Ond mae 'na sawl un wedi bod yn gofyn trwy Instagram os oes gen i brints i'w gwerthu so mae hynny'n rywbeth dwi'n ystyried - ond dwi'n meddwl mai hobi ydi o - hobi i'w gymryd o ddifri!"

Mae Robin yn trïo peidio golygu gormod ar ei luniau ac mae hynny efallai yn rhan o'r apêl i ddilynwyr sydd eisiau gweld lluniau mwy naturiol o olygfeydd trawiadol.

Goleudy Ynys Lawd

Ffynhonnell y llun, Robin Owain Jones

"Machlud haul yn Ynys Lawd, Môn: llun sydd wedi cael ei dynnu filoedd o weithiau mwy na thebyg - mae'n rhywle poblogaidd a hynny am reswm da mae'n siwr - mae'n landform trawiadol nodweddiadol ac yn eitha' neis trio ei ddal pan mae'r haul yn machlud efo'r lliwiau pinc, oren a choch.

"Dwi'n meddwl bod y cyfnod clo wedi dangos bod lot ohonon ni wedi dod i werthfawrogi'n well pa mor ffodus ydan ni i fyw lle rydan ni, efallai ein bod ni'n cymryd pethau ychydig bach yn ganiataol cynt, ro'n i'n sicr yn.

"Pan oedden ni ddim yn gallu teithio i'r mynyddoedd - fel y llun yna o'r castell - pan ti'n cael dy orfodi i fynd o gwmpas dy filltir sgwâr yn llythrennol ti'n sylweddoli, argol dan ni'n lwcus!"

Hefyd o ddiddordeb: