Oriel fy milltir sgwâr: Treharris, Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfle i ffotograffwyr werthfawrogi hyfrydwch eu hardaloedd lleol.
Dyma gasgliad o luniau'r cyfnod gan Lee Dare sy'n rhannu rhai o'r golygfeydd o amgylch Treharris a Mynwent y Crynwyr, ger Merthyr.

Yr olygfa uwchben pentre' Mynwent y Crynwyr

Machlud Hydrefol ar Gastell Cyfarthfa

Yr olygfa wrth edrych lawr ar bentref Edwardsville

Haul yn machlud ym Mynwent y Crynwyr

Y Graig ym Mynwent y Crynwyr

Yr haul yn tywynu ar Glwb Rygbi Treharris

Golygfa o stryd yn Edwardsville

Coeden pom-pom yn Nhreharris yn ystod y cyfnod clo

Yr haul yn gwawrio - golygfa o ardal o Dreharris sy'n cael ei adnabod fel 'Y Gap'

Coedwig uwchben Treharris

Enfys dros Gastell Cyfarthfa

Yr olygfa ym Mhentwyn, Mynwent y Crynwyr, gyda Harley'r ci

Yr oerfel yn dod i fryniau'r ardal

Y gaeaf yn dod i Dreharris

Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020