Lluniau o'r archif: Y Sioe Fawr dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd

Y Sioe yn Gelli Aur, Sir Gâr yn 1961
Eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Sioe Frenhinol Cymru yn edrych yn wahanol iawn i arfer.
Ond peidiwch â phoeni, mae Shân Cothi yn ei hôl eto eleni gyda Sioe Fawr Shân ar BBC Radio Cymru am 11am-1pm bob dydd wythnos yma.
Gan nad ydyn ni'n gallu mynd i'r Sioe yn gorfforol, beth am gymryd golwg drwy ein horiel o hen luniau o'r Sioe Frenhinol - digwyddiad arbennig sydd wedi cael ei chynnal bron bob blwyddyn ers 1904.
Roedd y Sioe yn teithio ledled Cymru am y degawdau cyntaf, tan i safle barhaol gael ei phrynu yn Llanelwedd yn 1963.

Un o fuddugwyr y Sioe yn 1990

Dau gyfaill yn gwneud pedolau yn Sioe 1955 yn Hwlffordd

Yr hen a'r newydd...

Maes y Sioe Fawr yn Abergele yn 1950

Arddangos ceffylau yn 1995

Yr adran goedwigaeth yn Sioe 1926 ym Mangor

Mae'r Sioe wedi cael ei chynnal ym mhentref Llanelwedd ers 1963 - mae tref dipyn mwy Llanfair-ym-Muallt i'w gweld yng nghanol-dde y llun

Y gystadleuaeth tynnu rhaff yn 1963, pan gafodd y Sioe ei chynnal ar ei safle presennol yn Llanelwedd am y tro cyntaf

Yn barod am eu tro o amgylch y prif gylch...

Cae mwdlyd iawn ym Mangor yn 1958

Un o'r sêr y Sioeau cynnar

Beiciwr dewr yn hedfan drwy'r fflamau yn 1978

Pwy oedd yn cael y mwyaf o sylw yn Sioe 1963 - y mochyn neu gyflwynwyr y rhaglen Heddiw?

Mae'r cystadlaethau cneifio wastad wedi bod yn boblogaidd

Flares oedd y ffasiwn yn Sioe 1977

Achosodd llifogydd drafferthion mawr yn ystod Sioe Aberystwyth yn 1957

Pawb wedi gwisgo eu dillad gorau i ddod i'r Sioe

Mae angen bod yn ddewr i gymryd rhan yn rhai o gystadlaethau'r Sioe

Gobeithio y gwelwn ni'r sied ddefaid mor brysur â hyn unwaith eto y flwyddyn nesa'...
Lluniau gyda diolch trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, dolen allanol (CAFC), archif y BBC a Chomisiwn Henebion Brenhinol Cymru, dolen allanol (RCAHMW - Hawlfraint y Goron)
Hefyd o ddiddordeb: