Covid-19: Canslo'r Sioe Fawr eto eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Sioe Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 250,000 o ymwelwyr yn mynychu'r Sioe Fawr ym mis Gorffennaf bob blwyddyn

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi bod y Sioe Frenhinol wedi'i gohirio tan 2022.

Daw'r cyhoeddiad wedi i'r gymdeithas gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe fydd y gymdeithas yn ystyried cynnal nifer o ddigwyddiadau llai sy'n cydymffurfio gyda rheoliadau Covid dros yr haf.

Maen nhw hefyd yn anelu at gynnal y Ffair Aeaf yn 2021 "cyn dychwelyd at normalrwydd newydd yn 2022".

'Archwilio posibiliadau digwyddiadau llai'

Dywedodd prif weithredwr y gymdeithas, Steve Hughson: "Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu map ffordd ar gyfer ailagor digwyddiadau yn ddiogel.

"Mae ein digwyddiadau yn ganolog i'r economi wledig ac i'r ffordd o fyw wledig ac yn golygu cymaint i aelodau, arddangoswyr, masnachwyr ac ymwelwyr ac rydym yn deall yn llwyr y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn darparu ein digwyddiadau cyn gynted ag y mae'n ddiogel gwneud hynny.

"Er gwaethaf yr heriau hyn mae'r Gymdeithas wedi camu ymlaen i gefnogi ein cymuned leol trwy ddarparu cyfleusterau yn rhad ac am ddim ar gyfer Canolfan Profi Covid a chanolfan brechu torfol."

Disgrifiad o’r llun,

John Davies o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Ychwanegodd John T Davies, Cadeirydd y Bwrdd: "Gyda gofid y mae'r penderfyniad wedi'i wneud i ganslo Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ac i ohirio Sioe Frenhinol Cymru.

"Byddwn yn archwilio posibiliadau digwyddiadau llai, amgen yr haf hwn a gyda Bwrdd y Cyfarwyddwyr byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu ein Cymdeithas ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein haelodau a rhanddeiliaid eraill yn fawr. Ni fu cefnogaeth barhaus pawb sy'n gysylltiedig â'r gymdeithas erioed yn bwysicach."