Ble mae Safleoedd Treftadaeth UNESCO Cymru?
- Cyhoeddwyd

Daeth y newyddion ar 26 Gorffennaf bod ardaloedd llechi Gwynedd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO.
Yr ardaloedd llechi yw'r pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru - mae tua 900 o safleoedd gyda'r statws ledled y byd.
Y pedwar Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru yw:
Cestyll a muriau trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd (ennill statws UNESCO yn 1986)
Tirlun Diwydiannol Blaenafon (2000)
Traphont ddŵr Pontcysyllte (2009)
Diwydiant llechi gogledd orllewin Cymru (2021)

Mae'r ardoledd llechi'n ymuno â rhestr arbennig sy'n cynnwys y Colosseum yn Rhufain, Wal Fawr China a Machu Picchu.
Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd
Mae dros 600 o gestyll yng Nghymru, ac mae cydnabyddiaeth arbennig yn cael ei roi i bedwar o gestyll Edward I, brenin Lloegr; Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech a'r trefi caerog yng Nghonwy a Chaernarfon. Cafodd y cestyll yma eu dylunio gan James o St George, pensaer milwrol Brenin Edward I.
Cafodd y cestyll yma statws UNESCO yn 1986.

Cafodd Castell Biwmares ei adeiladu rhwng 1295 ac 1298

Cafodd Castell Conwy ei gipio gan Owain Glyndŵr yn 1401

Castell Caernarfon, ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai

Castell Harlech. Yn ôl y Mabinogi Castell Harlech oedd castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr
Tirlun Diwydiannol Blaenafon
Gwaith Haearn Blaenafon, sydd bellach yn amgueddfa, oedd prif ganolfan cynhyrchu haearn de Cymru. Mae'r Amgueddfa Lofaol Cymru ("Pwll Mawr") yn fan twristiaeth ac addysg boblogaidd.
Fe'i rhoddwyd statws hwn gan UNESCO yn 2000 mewn cydnabyddaieth o'i le allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol.

Mae'r safle ym Mlaenafon yn cynnwys 82 adeilad rhestredig
Traphont ddŵr Pontcysyllte
Thomas Telford a William Jessop adeiladodd y draphont yma yn 1805. Hon yw'r draphont ddŵr hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac fe enillodd statws Treftadaeth gan bwyllgor UNESCO ym Madrid yn 2009.

Mae Pontcysyllte 1,007 troedfedd o un pen i'r llall
Diwydiant llechi gogledd orllewin Cymru
Yr ardaloedd penodol yn ardal llechi Gwynedd yw Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant ac Abergynolwyn.

Chwarel Dinorwig, a gaeodd yn 1969

Llun o tua 1890 o weithwyr chwarel yn Llanberis
Hefyd o ddiddordeb: