Pam fod ysgol yn dosbarthu llechi 'Stiniog ar draws y byd?

  • Cyhoeddwyd

Mewn ychydig wythnosau, bydd darn bach o Flaenau Ffestiniog ym mhob rhan o'r byd, ac mae'r diolch i ddisgyblion Ysgol y Moelwyn.

Mae'r disgyblion yn anfon darn o lechen o'r dref at arweinydd 196 gwlad y byd, fel rhan o ymgyrch i roi statws safle treftadaeth UNESCO i ardaloedd llechi gogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Lechi Bro
Disgrifiad o’r llun,

Y llechi, sydd ar y ffordd i bedwar ban byd

Ar bob llechen, mae logo Gŵyl Lechi Bro Ffestiniog, sydd wedi ei baentio gan y plant, ac maen nhw'n gofyn am lun o'r arweinydd gyda hi.

Maen nhw'n barod wedi derbyn llun gan Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog Lwcsembwrg, Xavier Bettel, gyda'u darn o'r garreg las.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Lechi Bro
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Lwcsembwrg, Xavier Bettel, gyda'i lechen o 'Stiniog

Fel soniodd athro Daearyddiaeth yr ysgol, Gareth Davies, ar Raglen Aled Hughes fore Iau 28 Mehefin, mae'n brosiect ddynamig iawn, sy'n helpu'r plant â nifer o wahanol bynciau - daearyddiaeth, iaith, mathemateg, hanes a gwleidyddiaeth.

Ond mae'n cyfadde' nad yw hi'n brosiect rhad.

"'Sa hi'n rhatach anfon cerdyn post! Costiodd hi jest o dan £5 i'w hanfon i Luxembourg. I rywle fel Fiji, mae hi tua £8. Mae o am gostio rhyw £1500 i'w hanfon i'r holl wledydd."

Ond yn anffodus, ni fydd arweinwyr Somalia, Yemen a Libya yn derbyn eu darn bach nhw o Ogledd Cymru, gan fod Swyddfa'r Post wedi gwrthod anfon y rhodd yno.

Disgrifiad,

Rhaglen Aled Hughes: Gareth Davies yn trafod prosiect llechi Ysgol y Moelwyn

Mae'r criw nhw hyd yn oed wedi ceisio anfon un i'r gofod ar falŵn. Mae'n debyg fod hwnnw wedi glanio yn y Cotswolds o flaen dynes ar gefn ceffyl... Fel ddywedodd Aled, efallai fod angen ail-feddwl hynny!

Mae mwy o lechi i'w hanfon, ac mae'r disgyblion yn aros yn eiddgar am fwy o ymatebion gan arweinwyr y byd yn datgan eu gwerthfawrogiad.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Lechi Bro
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map yn brysur lenwi...

Mae Gareth yn siŵr y bydd y lluniau a'r llythyron yn heidio i mewn:

"Os ti'n cael llechen gan Blaenau, ti am gofio 'dwyt! Dio'm fel cael spaghetti o'r Eidal. Mae o bach o big deal!"