Oriel: Gig Eisteddfod Gudd
- Cyhoeddwyd

Ar ôl prin ddim gigs mewn 18 mis, fe ddechreuodd yr Eisteddfod AmGen mewn ffordd anghyfarwydd o gyfarwydd - cerddoriaeth fyw o flaen cynulleidfa.
Dros y penwythnos yn Aberystwyth cafodd nifer o gerddorion y cyfle i berfformio, o fewn canllawiau Covid, yn yr Eisteddfod Gudd.


Owain Williams yn amlwg yn mwynhau rôl Band Pres Llareggub yn agor yr Eisteddfod AmGen

Sybs - enillwyr Brwydr y Bandiau 2018

Dion Jones ac Alffa - band wnaeth hefyd ennill Brwydr y Bandiau nôl yn 2017

Edrych fel Eisteddfod arferol...

Iwan Fôn, o KIM HON, yn perfformio efo Alffa

Y band o Gaerfyrddin, Los Blancos

Osian Williams a Candelas ar y llwyfan nos Sadwrn

Ar ôl perfformiad cofiadwy yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017, roedd Eden yn ôl ar y llwyfan yn cloi nos Sadwrn yr Eisteddfod Gudd

Cyfle i ddal fyny... fel pob un Steddfod arall

Roedd yr Eisteddfod Gudd yn fwy hamddenol ar y dydd Sul. Dyma Ballet Cymru yn perfformio gyda'r cerddor Siân James

Siân James

Y delynores a'r gantores Georgia Ruth

Y cerddor o Senegal Seckou Keita, fu'n perfformio'r gyda'r delynores o Gymru, Catrin Finch

Ar ôl annog y Cymry i gyd-ganu yn ystod y cyfnod clo, tro Catrin Angharad Jones oedd hi ddydd Sul i'w morio hi gyda Côr-ona

Glain Rhys a Tom Hier o Welsh of the West End yn cloi'r Eisteddfod Gudd

Hefyd o ddiddordeb: