Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Graffeg rhestr fer Albym Cymraeg y Flwyddyn 2021Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021.

Dywed trefnwyr bod safon yr albymau'n amlygu cymysgedd "amrywiol o gynnyrch ac artistiaid", a bod eu safon "yn arbennig o uchel" mewn blwyddyn "anodd iawn i'r diwydiannau creadigol".

Nod y gystadleuaeth, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd â BBC Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd".

Roedd yn agored i albymau a gafodd eu rhyddhau rhwng 31 Mai 2020 a diwedd Mai eleni.

Y 10 albym ar restr fer 2021

  • Carw - Maske

  • Carwyn Ellis & Rio 18 - Mas

  • Cwtsh - Gyda'n Gilydd

  • Datblygu - Cwm Gwagle

  • Elfed Saunders Jones - Gadewaist

  • Jac Da Trippa - Kim Hong Chon

  • Mared - Y Drefn

  • Mr - Feiral

  • Mr Phormula - Tiwns

  • Tomos Williams - Cwmwl Tystion

Cafodd y rhestr ei llunio gan banel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth. Y cam cyntaf oedd dewis eu hoff gynnyrch yn ystod y 12 mis cyn pleidleisio dros eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y beirniaid eleni yw Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen 2021, sy'n cael ei chynnal ar-lein rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst yn lle'r brifwyl arferol sy'n cael ei gohirio tan 2022 oherwydd y pandemig.