Pwy yw cantorion fideos Welsh of the West End?

  • Cyhoeddwyd
Welsh of the West EndFfynhonnell y llun, Welsh of the West End

Ar gychwyn cyfnod y pandemig fe ddaeth criw o gantorion o Gymru at ei gilydd yn rhithiol i berfformio rhai o glasuron byd y sioeau cerdd.

Erbyn hyn mae eu fideos wedi eu gwylio dros naw miliwn o weithiau ar-lein! Ond pwy yw'r unigolion talentog?

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Steffan Rhys Hughes, arweinydd y grŵp, i ddysgu mwy.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan steffan_hughes

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan steffan_hughes

Ymateb i golli gwaith

"Roedd y cyfnod yn go anodd ar y dechrau, fe gafodd popeth ei ganslo am y flwyddyn i ddod. Dwi wedi trio cadw'n brysur ac yn bositif.

"Trwy gyflwyno fy rhaglen ar Radio Cymru fe ddes i weithio efo cantorion byd y sioeau cerdd yng Nghymru. Mae Cymry wastad wedi gwneud yn wych yn y byd yma, ond roeddwn yn teimlo bod ton ifanc o wynebau yn llwyddo.

"Rwy'n gallu enwi pobl o Gymru a oedd yn rhai o big hitters y West End - o 'Les Misérables' i 'The Book of Mormon'.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl bod sioeau cerdd yn wych. Ti'n gallu chwerthin, crio a rhoi 'switch-off' am dair awr..." Steffan Hughes

"Doeddwn i erioed wedi cynhyrchu unrhyw beth fel yma o'r blaen! Fe wnes i gasglu perfformiadau pawb yna phenderfynu beth oedd yn mynd i ble.

"Y bwriad oedd rhoi adloniant i bobl a'u hatgoffa am y dalent Cymreig yma. Fe wnes i roi'r fideo fyny ac fe aeth popeth ychydig yn nyts. Roedd yn cael ei rannu ar draws y byd ar Facebook, ac roedd yr ymateb yn lyfli. Mae wedi bod yn arbennig o braf clywed gan bobl gyda chysylltiad Cymreig o amgylch y byd.

"Yr hyn dwi'n ei weld yn rhyfeddol yw bod lot o'r grŵp yma erioed wedi cyfarfod ei gilydd! Dwi'n gobeithio cawn ni gyfle - unai drwy gyngerdd neu bryd o fwyd - i ddod at ein gilydd a chyflwyno ein hunain!"

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Henderson a Mared Williams

Siwan Henderson

Merch o Bontyclun ydi Siwan, ac mae hi wedi bod yn aelod o ensemble The Pirate Queen ac It Happened in Key West.

Mared Williams

Mae Mared, o Lannefydd, yn wyneb cyfarwydd iawn yng Nghymru. Mae hi wedi rhyddhau cerddoriaeth ar y label I KA Ching, ac fe enillodd wobrau Seren y Sîn ac Artist Unigol yng Ngwobrau'r Selar 2021. Mae hi'n aelod o ensemble Les Misérables.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Harri, Luke McCall ac Alyn Hawke

Steffan Harri

O Bontrobert ym Meifod y daw Steffan Harri. Mae wedi chwarae'r brif ran yn Shrek The Musical, ynghyd â pherfformio yn sioeau Les Misérables, Girl from the North Country a Spamalot.

Luke McCall

Yn wreiddiol o'r Bala, Luke yw'r actor ieuengaf erioed i bortreadu Jean Valjean yn Les Misérables a'r Phantom yn The Phantom of the Opera.

Alyn Hawke

Mae Alyn, o Benybont, wedi perfformio yn Evita, Top Hat, An American in Paris, 42nd Street, Follies ac Oklahoma.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Rhidian Marc a Glain Rhys

Rhidian Marc

Yn wreiddiol o Gaerdydd, ymunodd Rhidian â thaith ryngwladol Les Misérables yn syth ar ôl graddio. Ers hynny, mae hefyd wedi ymddangos yn Phantom of the Opera, Pippin ac wedi chwarae rhan Doctor Dillamond yn Wicked.

Glain Rhys

Roedd Glain, sydd o'r Bala, newydd ddechrau perfformio ar daith arbennig o Phantom of the Opera yn Groeg pan fu'n rhaid iddi ddychwelyd adref oherwydd COVID-19. Mae hi'n ddiweddar wedi rhyddhau ei hail albwm ar label I KA Ching.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Samuel Wyn-Morris ac Aaron Pryce-Lewis

Samuel Wyn-Morris

Daw Samuel o Lanelli, ac mae wedi chwarae'r cymeriad Feuilly yn Les Misérables.

Aaron Pryce-Lewis

O Hwlffordd y daw Aaron, ac mae wedi teithio gyda sioe Les Misérables a chymryd rhan yn y fersiwn gyngerdd ddiwedd 2020.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Tom Hier a Samantha Thomas

Tom Hier

Yn gyn-aelod o Only Boyd Aloud ac Only Men Aloud, mae Tom, o Ferthyr Tudful, wedi perfformio mewn sioeau fel Miss Saigon, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat a Footloose.

Samantha Thomas

Mae'r actores o Lanelli wedi perfformio Glinda yn Wicked a Cosette yn Les Misérables, ynghyd â chanu yn yr ensemble.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Evans a Jade Davies

Sophie Evans

Daeth Sophie, o Donypandy, i lygad y cyhoedd pan oedd hi'n un o'r cystadleuwyr y gyfres deledu Over the Rainbow, a oedd yn ceisio dod o hyd i Dorothy ar gyfer sioe gerdd The Wizard of Oz. Ers hynny mae hi wedi serennu fel Dorothy, a Glinda yn Wicked.

Jade Davies

O Ddinbych y daw Jade. Mae hi wedi cymryd rhan mewn sioeau fel Les Misérables, Sister Act, Chitty Chitty Bang Bang a Phantom of the Opera ac yn fwy diweddar yn West Side Story allan yn Estonia.

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig