Oriel: Cerdded 870 milltir o gwmpas Cymru
- Cyhoeddwyd
Tra bod gwyliau lleol a gwneud y mwyaf o'r awyr agored wedi dod yn ffasiynol iawn yr haf yma, mae un Gymraes wedi mynd gam ymhellach - a threulio 10 wythnos yn cerdded arfordir Cymru.
Fe roddodd Catrin Davies babell ar ei chefn fis Mehefin a cherdded bron bob dydd am y 79 diwrnod canlynol.
Ac nid yn unig ei bod wedi cwblhau'r 870 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ond mae 'r ffisiotherapydd hefyd wedi casglu miloedd o bunnoedd i elusen ym Mecsico, dolen allanol.
"Diwrnod 1, Caer - a'r diwrnod cyntaf o fy sialens 'Catrin yn crwydro Cymru'.
"Cerddais 12.5 milltir, neu 31,000 o gamau, ar y diwrnod yma... a chael un blister.
"Penderfynais gerdded 870 milltir o amgylch llwybr arfordir Cymru i godi arian at elusen Therapies Unite. Rwy'n gwirfoddoli i'r elusen fel ffisiotherapydd sy'n gweithio gyda phobl a phlant gydag anableddau gwahanol mewn llefydd anghysbell yn Mecsico."
"Diwrnod dau - a chyrraedd y cerflun o droed ger gorsaf drên Fflint."
"Taith hir a syml ar hyd llwybr beics oedd y rhan fwyaf o'r daith am y dyddiau cyntaf, ar hyd arfordir gogledd Cymru. Golygfeydd o garafanau am y rhan gyntaf, yna gweld Castell Gwrych a chyrraedd Bae Colwyn, cyn mynd ymlaen i Landudno."
"Ynys Môn oedd fy hoff ran o'r llwybr - clogwyni serth a milltiroedd o draethau hyfryd, diarffordd. Dyma fi yn cael seibiant wrth nofio yn y môr."
"Roeddwn i'n cerdded gyda bag 15kg ar fy nghefn - yn cynnwys pabell, sach gysgu, stôf a bwyd. Roedd angen bod yn gwbl gynaliadwy.
"Roedd yn rhaid i mi wersylla yn wyllt ger clogwyn Porth Llechog ar Ynys Môn - doedd dim lle i aros mewn maes pebyll yn yr ardal!"
"Roedd gen i gwmni ffrindie a theulu am rannau o'r daith.
"Wnaeth Mam ac Anti Margaret gerdded gyda mi am 30 diwrnod, a Bryn, fy nghi, am y rhan fwyaf o'r llwybr. Dyma fe'n mwynhau Ynys Llanddwyn!"
"Diwrnod 24... glaw a diwrnod anodd wrth gael glychfa tra'n cerdded wrth ymyl Nant Gwrtheyrn. Diolch byth roedd fy ffrind Catrin gyda mi!"
"Roedd y diwrnod wedyn yn braf, ond yn anffodus roedd tafarn y Tŷ Coch, Porthdinllaen, Pen Llŷn, yn rhy brysur i cael hoe a diod!"
"Saib uwchben Aberdyfi. Roedd y rhan yma o'r daith drwy Sir Feirionnydd yn cynnwys traethau hir yn ardal Harlech a Tywyn a bryniau Aberdyfi a Rhoslefain.
"Er nad oedd y llwybr yn glynu at yr arfordir o hyd, roedd yn braf cael newid tirwedd a gweld coedwigoedd, gwyrddni ac afonydd y Ddyfi a'r Fawddach."
"'Cicio'r bar' yn Aberystwyth gyda fy ffrind Lisa."
"Roedd digon o gerdded i fyny ac i lawr yng Ngheredigion gyda'r llwybr yn glynu wrth y clogwyni - oedd yn anodd, ond roedd yn braf cael stop mewn caffis ym mhentrefi Llangrannog, Mwnt ac Aberporth.
"Fel un o Gaerfyrddin, wy'n gyfarwydd â'r ardal yma a wnes i wir fwynhau cwmni ffrindiau a theulu - a hyd yn oed gweld dolffiniaid yn harbwr Cei Newydd."
"Blodau'r haul yn Sir Benfro."
"Gorsaf bŵer ger Aberdaugleddau.
"Roedd nifer o olygfeydd diwydiannol ar y rhan yma o'r daith, oedd yn ddifyr ar ôl wythnosau o weld arfordir a chlogwyni."
"'Bedd Dobby', o nofelau Harry Potter, yn Freshwater West."
"Sue y ci yn mwynhau'r olygfa ar Benrhyn Gŵyr."
"Croesi'r cerrig camu tuag at y castell yn Aberogwr."
"Profiad od oedd cerdded - yn fy sgidiau cerdded yn lle fy sodlau uchel - drwy fywyd dinesig Caerdydd. Ar ôl deufis o gerdded ar hyd arfordir tawel a thrwy bentrefi gwledig roedd yn braf gweld pobl... a siopau coffi da!"
"Diwrnod 79 - y diwrnod olaf a chyrraedd Cas Gwent, 870 milltir yn ddiweddarach.
"Cwtch mawr ar y llinell derfyn gan fy mam a fy chwaer Sara, y ddwy wedi cyd-gerdded gyda mi ar hyd rhannau o'r daith.
"Roedd fy nghoesau yn drwm, fy nghorff wedi blino'n lân, a fy nhraed yn brifo - ond ro'n i mor gyffrous ac yn ddiolchgar i bawb wnaeth fy nghefnogi ar hyd y ffordd."
Hefyd o ddiddordeb: