Huw Brassington: 'Wnes i dyfu fyny yn ofn llyfrau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r anturiaethwr Huw Brassington o Gaernarfon yn berson penderfynol, yn rhedeg rasys eithafol a phellter hir ar hyd mynyddoedd ledled y byd.
Pan oedd yn blentyn, cafodd brawf dyslecsia, ac mae hynny wedi ei ffurfio fel y person mentrus ydyw heddiw, meddai wrth Aled Hughes ar Radio Cymru.
Mae'n teimlo'n gryf na ddylai dyslecsia ddiffinio rhywun, a'i fod yn 'rhodd' yn hytrach na 'rhwystr'. Y mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr, Herio i'r Eithaf, fel rhan o'r gyfres Stori Sydyn, a gyrhaeddodd frig siart gwerthiant y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar.
Dwi'n cofio pan o'n i'n 15 oed, a'r cywilydd o gael Mam yn gorfod darllen Cysgod y Cryman i mi.
"Yn 11 oed ges i brawf dyslecsia, a chael gwybod bod gen i oed darllen plentyn chwech oed. Ddarllenais i ddim un llyfr cyfan tan o'n i'n 15," meddai wrth gofio'r ofn o ddarllen yn uchel yn y gwersi ysgol.
"Wnes i dyfu fyny yn ofn llyfrau. Oedd 'na ambell i blentyn yn gorfod darllen allan yn uchel yn y gwersi Cymraeg, o'n i ofn bob tro, o'n i'n rhoi mhen i lawr ac mae hynny yn wir trwy'r ysgol i gyd.
"Pen lawr - mae'n disgrifio mwy na'r dosbarth Cymraeg yna, yn gyffredinol dyna'r effaith mae'n gael arna' chdi, mae'r ysgol wedi ei gosod fyny i bobl sydd ddim yn dyslecsic."
'Cywilydd'
Erbyn heddiw, mae Huw Brassington yn cydnabod fod pethau wedi gwella mewn ysgolion a bod athrawon yn gallu ymateb a darparu'n well, ond i'w fam, oedd hefyd yn athrawes, y mae'n diolch am ei helpu i fedru darllen.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n 15 oed, a'r cywilydd o gael Mam yn gorfod darllen Cysgod y Cryman i mi.
"Dwi'n cofio astudio TGAU Cymraeg ac oedd gynnon ni Cysgod y Cryman i ddarllen, ac oedd hwn yn frawychus. Llyfr swmpus, am rhywbeth oedd gen i ddim diddordeb ynddo hefyd.
"Roedd Mam yn eistedd fi lawr, yn 15 oed, ac yn darllen i fi ar fwrdd y gegin. Ac oedd ganddi hi bethau eraill i 'neud. Oedd ganddi bedwar o blant ac yn dysgu, marcio tan yr oriau mân, a hynna oedd y sbarc wnaeth gael fi.
"O'n i mor lwcus i gael rhywun oedd yn rhoid gymaint o ymdrech mewn i fi."
Dwi di trio sgwennu yn lot symlach i beidio dychryn neb i ffwrdd
Mae'n dweud mai'r teimlad o fethu deall, wnaeth ei yrru i fod y person y mae heddiw, ac wrth gyfeirio at y llyfr Herio i'r Eithaf, mae'n dweud ei fod wedi ei anelu at bobl ifanc sydd yn yr un sefyllfa ag oedd e'n 16 oed.
"O'n i'n trio sgwennu llyfr, rhywbeth y byswn i wedi pigo fyny ac yn medru'i ddarllen, felly dwi 'di trio'i sgwennu yn syml.
'Peidio bod ofn methu'
"Mae yr un fath â peirianneg, mae pobl yn rhoi y geiriau mawr cymhleth yma i mewn lle does dim angen. Dwi di trio sgwennu yn lot symlach i beidio dychryn neb i ffwrdd, ac i gael y neges yna drosodd.
"I gymryd pob cyfle a pheidio bod ofn methu."
A dyna, meddai Huw Brassington sydd wedi ei wneud yn benderfynol o herio ei hunan i'r eithaf, wrth ymgymryd â sialensau fel rhedeg 100 cilomedr dros 47 copa yng ngogledd Eryri.
"Y peth mwya [mae cael dyslecsia] wedi 'neud, yw fy ngwneud i beidio bod ofn methu, achos dwi di arfer efo fo bron. Dyna lle ti'n dechrau. Ti'n fodlon trio bob dim a mae hwnna'n fendith.
"Byswn i byth yn gallu neud y petha 'ma heb y feddylfryd o beidio bod ofn methu.
"Pan ti mewn sefyllfa, gofynna - a ga i y cyfle i wneud hyn eto?"
Er bod y ffordd y mae dyslecsia yn cael ei drafod wedi gwella, mae Huw yn dal i gredu bod y diffiniad o'r cyflwr yn 'hollol anghywir': "Dychmyga os ydi plentyn bach yn ffeindio allan bod o neu hi yn dyslecsic am y tro cynta, a beth mae'n dweud yn y geiriadur ydy 'anhawster dysgu sy'n effeithio ar sillafu, darllen a sgwennu'.
"Ond mae hynna yn anghywir, achos beth ydy o, ydy anhawster dysgu trwy ffurf traddodiadol fel mae'r rhan fwyaf o bobl yn dysgu."
Wrth restru nifer o bobl llwyddiannus a nodedig oedd â'r cyflwr, o Stephen Hawking ac Einstein, i Bill Gates, John Lennon a Picasso, mae Huw yn credu fod dyslecsia yn gorfodi rhywun i fod yn greadigol.
"Mae honno yn neges gryf iawn, mae ysbrydoliaeth yma."
Cyngor Huw i blant sydd â dyslecsia:
Darllenwch cymaint â phosib, bob dydd. Dim ots beth chi'n ei ddarllen, mae angen cael sŵn y geiriau yn llifo trwy'r ymennydd
Peidiwch cuddio. Mae angen defnyddio a gwerthfawrogi dyslecsia, dydy o ddim yn rhwystr ond mae'n rhodd.
Mae angen dysgu sut i'w ddefnyddio. Ffeindio llwybr i mewn i'r ymennydd ac wedyn adeiladu gyrfa rownd y gallu creadigol sydd yn dod law yn llaw efo dyslecsia.
Hefyd o ddiddordeb: