Darganfod Llwybrau Cymru: Tudweiliog
- Cyhoeddwyd
Ble yw eich hoff le chi i fynd am dro?
Mae Cymru Fyw ar grwydr i ddarganfod rhai o lwybrau mwyaf diddorol y wlad. Mae ein taith yn cychwyn gydag awgrym Eryl Crump ar arfordir Pen-Llŷn.
Dyma lwybr pedair milltir sy'n llawn hanes a golygfeydd arfordirol yn ardal Tudweiliog. Ar y ffordd cewch ddarganfod bywyd gwyllt trawiadol a dysgu am hanes annisgwyl smyglwyr Gogledd Cymru...
Y daith
Mae'r llwybr yma yn addas i'r mwyafrif o gerddwyr. Er mwyn gweld mwy o fanylion am y tirwedd ewch i wefan Llwybr Arfordirol Cymru, dolen allanol.
Dechreuwch ym Mhorth Colmon gan gerdded ar hyd traeth tywodlyd Penllech. Yna mae ddau draeth arall ar y ffordd; Porth Gwylan a Phorth Ychain.
Gadewch ddigon o amser i allu stopio ac edmygu'r golygfeydd.
Ar ôl croesi ucheldir Porth Llydan a Porth Ysgaden mae'r llwybr yn amlwg yr holl ffordd i Borth Tywyn.
Os nad ydych chi eisiau cerdded yn ôl mae modd hwyluso'r daith gan ddefnyddio gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn, dolen allanol. Yn wahanol i fysiau arferol, sy'n dilyn amserlen, y cwsmer sy'n dewis yr amser.
Mae Porth Ysgaden yn enwedig yn lle hudolus, ac yn boblogaidd heddiw gyda physgotwyr a deifwyr. Ond yn yr hen ddyddiau roedd yr un mor boblogaidd gyda smyglwyr.
Yr hanes
Yn 1789, cafodd pedwar dyn eu dal ar draeth Porth Ychain am smyglo halen. Carcharwyd y pedwar yng Nghaernarfon.
Ymhen dwy flynedd roedd un ohonynt, William Williams, wedi colli gymaint o bwysau, roedd o'n gallu dianc rhwng bariau'r gell.
Llwyddodd i gyrraedd ei gartref lle bu'n cuddio. Pan distawodd y perygl, hwyliodd i Lerpwl gan wisgo dillad merch, ac ymfudodd i ddiogelwch America.
Ym mis Chwefror 1900 dinistriodd storm long oedd yn teithio o Ddulyn i Gaernarfon a chwythu'r tri morwr oedd yn hwylio'r cwch i draeth Porth Ysgaden. Ni chyrhaeddodd y morwyr dir sych am saith awr.
Yn y diwedd fe'u cludwyd yn ddiogel ar draws y creigiau gan Evan Williams o Borth Gwylan, ac fe gafodd ganmoliaeth am ei ddewrder a'i ymdrech.
Y bywyd gwyllt
Ar y ffordd mae modd gweld pob math o fywyd natur trawiadol.
Ond wrth gerdded llwybrau arfordirol Llŷn, cadwch lygaid am bodiau o ddolffiniaid yn arbennig. Os ydych yn lwcus, yr adeg yma o'r flwyddyn mae grwpiau o ddolffiniaid yn dod at ei gilydd mewn niferoedd mawr. Dros y blynyddoedd mae pobl wedi gweld podiau o ddwy fil o ddolffiniaid ar lannau Cymru.
Mae dros 5,000 o forloi yn byw ar ein glannau, a rhan helaeth ohonyn nhw wedi'u lleoli ym Mhen-Llŷn. Mae traethau fel Porth Ychain yn berffaith iddyn nhw dorheulo a chael seibiant o nofio.
Felly, y tro nesaf rydych chi'n ymweld â Phen-Llŷn beth am stopio ym Mhorth Colmon a cherdded draw i Borth Tywyn?
Hoffech chi awgrymu taith gerdded i ddarllenwyr Cymru Fyw? Rhowch wybod i ni drwy gysylltu ar e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk