Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2022
- Cyhoeddwyd
Wedi bwlch o ddwy flynedd fe heidiodd y tyrfaoedd i Ŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn gyda'r trefnwyr yn credu bod dros 30,000 wedi bod yn mwynhau yn yr haul.
Wedi anialwch o ran cyfleodd i gymdeithasu a mwynhau dros y pandemig, roedd pobl yr ardal yn amlwg wedi cofleidio'r cyfle i ddod at ei gilydd a phrofi gwledd o gynnyrch Cymreig ar strydoedd y dref ac ar lan y Fenai.

Diod i ddathlu ar stondin un o siopau lliwgar Stryd y Plas

Maes Caernarfon dan ei sang

Lleisiau Côr Meibion Caernarfon yn rhoi dechrau da i'r diwrnod ar y Maes

Cofgolofn y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, yn lle delfrydol i stopio i fwynhau hufen iâ

Hen furiau Castell Caernarfon yn cynnig llecyn braf am hoe a diod

Prysurdeb ar y stondin pizza

Iechyd da o lannau'r Fenai!

Cyfle i brofi bwydydd o bob man

Un o drefnwyr yr ŵyl, Nici Beech, yn edrych yn hapus iawn gyda'r niferoedd a'r tywydd - gyda Myrddin ap Dafydd a Bleddyn Prys Jones o Cwrw Llŷn

Be well na bwyd môr, ar lan y môr?

Lle awn ni nesa?

Band Batala Bangor yn atseinio i lawr Stryd y Llyn

Nid pobl yn unig sy'n falch o gael gweld ei gilydd eto

Roedd pob math o anifeiliaid fferm i'w gweld yn y Lloc Anifeiliaid wedi ei drefnu gan Goleg Glynllifon

Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am drefnu'r ŵyl felly mae'r ymdrech i godi arian yn parhau

Dim lle i symud bron rhwng y llwyfan a'r stondinau ar lan y Fenai yn yr ardal sydd â'r enw lleol 'South of France'

Mae na wastad un yn ei gorwneud hi ac angen gair gan yr heddlu...