Digwyddiadur 2022: mae'r tymor gwyliau yn ôl
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha' gwyliau ar-lein difyr ac arloesol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tydi digwyddiadau digidol ddim yn yr un cae a mynd i ŵyl go iawn.
A gyda chyfyngiadau Covid wedi llacio a'r gaeaf wedi'n gadael, mae'r calendr yn dechrau llenwi wrth i wyliau gael eu cadarnhau ledled Cymru.
Felly, dyma restr o rai o hoff wyliau Cymru fydd yn digwydd eleni - nifer am y tro cyntaf ers 2019.
Gŵyl Gomedi Machynlleth
Gyda phopeth sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd mae wir angen dos o chwerthin, a bydd digon o hynny dros benwythnos gŵyl Fai ym Mhowys.
Tudur Owen, Elis James, Rosie Jones, James Acaster, Kiri Pritchard-McLean, Angela Barnes - dim ond rhai o'r 200 o gomediwyr fydd yn perfformio ym Machynlleth rhwng 29 Ebrill a 1 Mai.
FOCUS Wales
Dyma 11feg blwyddyn yr ŵyl sy'n rhoi llwyfan i rai o dalentau newydd y byd cerddoriaeth yng Nghymru ac artistiaid rhyngwladol.
Rhwng 5-7 Mai bydd 20 lleoliad yn Wrecsam yn rhoi llwyfan i 250 o artistiaid yn cynnwys Bandicoot, Echo and the Bunnymen, Self Esteem a Public Service Broadcasting.
Gŵyl Fel 'Na Mai
Gŵyl newydd oedd am gael ei chynnal yn 2020, gafodd ei gohirio oherwydd Covid ond sy'n gallu estyn croeso o'r diwedd ar 7 Mai eleni.
Gŵyl gerddoriaeth wedi ei threfnu gan y gymuned yn ardal Crymych ydi hon, a bydd artistiaid fel Dafydd Iwan, Bwncath, Los Blancos a Mei Gwynedd a'r band yn diddanu'r dorf yn Sied Fawr Trafnidiaeth y Frenni, Parc Gwynfryn, Crymych.
Gŵyl Fwyd Caernarfon
Mewn cyfnod byr, mae gŵyl fwyd Caernarfon wedi ennill ei phlwy fel un o brif ddigwyddiadau'r gogledd orllewin.
Dydy'r ŵyl, sy'n dod a stondinau, arddangosiadau coginio, gweithgareddau i'r teulu a cherddoriaeth i'r dref hynafol, heb ei chynnal ers 2019 ond bydd yn ei hôl eleni ar 14 Mai.
Gŵyl y Gelli
Mae un o brif wyliau llenyddol a chelfyddydol Prydain yn ôl yn 'nhref y llyfr' y Gelli Gandryll, Powys, ar ôl bod ar-lein ers 2019.
Ymysg y 500 o westeion rhwng 26 Mai a 5 Mehefin, fydd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, y newyddiadurwr Lyse Doucet a'r actor Benedict Cumberbatch.
Eisteddfod yr Urdd
Ydi, am y tro cyntaf ers tair blynedd mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ei hôl... a gwell byth mae mynediad am ddim drwy'r wythnos.
Bydd rhai newidiadau eleni yn Ninbych, a bydd 'Gŵyl Triban' yn cael ei chynnal i ddathlu canmlwyddiant y mudiad.
Felly ewch draw i Ddinbych rhwng 30 Mai a dydd Sadwrn 4 Mehefin.
Tafwyl
Fe wnaeth gŵyl gelfyddydol Gymraeg Caerdydd ddenu 40,000 nôl yn 2019, ac mae hen edrych ymlaen eleni ar ôl gŵyl ddigidol 2020 a gŵyl gyfyngedig 2021.
Bydd Sŵnami, Yws Gwynedd, Adwaith a Breichiau Hir ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yng Nghastell Caerdydd ar 18-19 Mehefin.
Am wythnos cyn y brif ŵyl bydd nifer o ddigwyddiadau ffrinj yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y ddinas, ac mae'r ŵyl unwaith eto eleni yn rhad ac am ddim.
Gŵyl Arall
Sgyrsiau, cerddoriaeth, teithiau, celf - mae pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal o fewn hen furiau tref Caernarfon yng Ngŵyl Arall.
Bydd gŵyl gelfyddydol eleni yn cael ei chynnal rhwng 8-10 Gorffennaf.
Sesiwn Fawr Dolgellau
Er gwaethaf llwyddiant eu gŵyl ar-lein, mae'n anodd cystadlu gyda'r profiad o weld cerddoriaeth byw yn Nolgellau ac ambell i sesiwn jamio anffurfiol dros beint yn rhai o dafarndai'r dref.
Felly pa well anrheg pen-blwydd 30 i'r ŵyl na'r Sesiwn Fawr yn ôl yn Nolgellau?
Yws Gwynedd, Yr Eira, Cledra, Bandicoot, Bwncath ydi rhai o'r artistiaid fydd yn perfformio rhwng 15-17 Gorffennaf.
Y Sioe Fawr
Ar ôl methu cynnal Y Sioe dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r anifeiliaid, crefftau ac adloniant yn ôl ar faes y Sioe eleni.
Felly mae disgwyl miloedd ddychwelyd i Lanweledd rhwng 18-21 Gorffennaf ar gyfer un o brif ddigwyddiadau'r calendr amaethyddol.
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Tregaron 2020 oedd hi fod, wedyn Tregaron 2021 - a rŵan Tregaron 2022.
Mae tocynnau Maes B wedi bod ar werth ers cyn y Nadolig, nifer fawr o ymholiadau am le ar y maes carafanau a'r trefnwyr yn edrych ymlaen at groesawu eisteddfodwyr i'r Maes unwaith eto.
Mae'n bosib fydd rhai pethau yn wahanol i flynyddoedd arferol wrth i'r trefnwyr addasu i ganllawiau, ond mae Sadwrn 30 Gorffennaf i Sadwrn 6 Awst yn llawn yn nyddiadur nifer fawr o Gymry yn barod.