Lluniau archif: 30 mlynedd o Sesiwn Fawr

  • Cyhoeddwyd
z216Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr

Yn 1992 fe wnaeth criw o bobl ddod at ei gilydd i drefnu gŵyl yn ardal Dolgellau a ddatblygodd i fod yn un o brif ddigwyddiadau'r calendr cerddorol yng Nghymru a thu hwnt.

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae'r Sesiwn Fawr wedi denu nifer fawr o artistiaid adnabyddus ac wedi addasu o fod yn ŵyl am ddim ar strydoedd ac yn nhafarndai'r dref, i ŵyl gyda thocynnau ar Y Marian, yna sesiynau bychan mewn lleoliadau yn y dref ac ers dwy flynedd gŵyl ddigidol yn sgil Covid.

Wrth i Ddolgellau baratoi i groesawu cerddorion a thorf i'r dref unwaith eto eleni rhwng 15-17 Gorffennaf, dyma flas o'r mwynhau dros y tri degawd diwethaf.

Linebreak
Meic Stevens yn agor y Sesiwn gyntaf yn 1992Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Y perfformiad cyntaf erioed yn y Sesiwn Fawr - Meic Stevens yn agor yr ŵyl yn 1992

Gwerinos yn y Sesiwn Fawr gyntaf 1992Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau'r band Gwerinos, sy'n dod o'r ardal, wnaeth sefydlu'r ŵyl. Dyma nhw yn y Sesiwn gyntaf yn 1992...

Gwerinos 2016Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

... a 24 mlynedd yn ddiweddarach yn 2016

Paul Young efo Los Pacaminos yn 2002Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr/Andrew Roberts Evans
Disgrifiad o’r llun,

Paul Young efo Los Pacaminos fu'n perfformio yn 2002

Twm Morus yn cyrraedd Sesiwn Fawr 2001Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr/Andrew Roberts Evans
Disgrifiad o’r llun,

Twm Morys yn cyrraedd Sesiwn Fawr 2001. Mae ei fand Bob Delyn a'r Ebillion wedi perfformio yn y Sesiwn nifer o weithiau

Cormac Byrne (Seth Lakeman) 2006, Hayseed Dixie; Elin Fflur 2005Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Y chwaraewr bodhran Cormac Byrne, oedd yn perfformio gyda Seth Lakeman yn 2006; Hayseed Dixie o'r Unol Daleithiau yn 2006; ac Elin Fflur yn 2005

Burning SpearFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Burning Spear, yr artist roots reggae o Jamaica, yn 2002

Dyn Gwyrdd y Gwernan, Edrych lawr at y Ship 1997, Glaw 2007Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr/Martyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dyn Gwyrdd y Gwernan mewn prosesiwn; yr olygfa ger tafarn y Ship 1997; sesiwn er gwaetha'r glaw yn 2007

Y dyrfa'n mwynhau perfformaid Calan 2019Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Y dyrfa'n mwynhau perfformaid Calan yn 2019

Peatbog Faeries 2014Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Y band gwerin o'r Alban Peatbog Faeries yn 2014

Gruff RhysFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gruff Rhys a'r Super Furry Animals yn un o'r prif fandiau yn 2005

Iard gefn Gwesty'r Llong yng nghanol y DrefFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Iard gefn Gwesty'r Llong yng nghanol y Dref yn 2019

Rylan Teifi 2012; Yat Kha 2002Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Ryland Teifi 2012; Yat Kha 2002

Cefn y Ship pnawn Sul 2019Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig wyddai rhain mai dyma'r Sesiwn olaf am dair blynedd yn sgil Cofid - cefn y Ship pnawn Sul 2019

BwncathFfynhonnell y llun, Dafydd Huws/Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Parhau wnaeth y gerddoriaeth er gwaetha'r pandemig gyda digwyddiadau digidol yn cael eu cynnal. Fe wnaeth Bwncath berfformio yn y Sesiwn Dolig yn 2020, a bydd y band yn perfformio'n fyw o flaen torf eleni

Huw Dylan Owen DigiDol 2021Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Huw Dylan Owen, yn DigiDol 2021, pan gafodd perfformiadau eu ffilmio mewn gwahanol leoliadau yn y dref ar gyfer gŵyl rhithiol

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig