Ail-fyw Tafwyl a gwyliau eraill ar BBC Sounds
- Cyhoeddwyd

Eädyth Crawford yn perfformio yn Tafwyl
Os wnaethoch chi fethu Tafwyl - neu os oeddech chi yno ac eisiau ail-fyw'r profiad - ewch draw i BBC Sounds i wrando ar berfformiadau byw nifer o'r bandiau.
Mae setiau Yws Gwynedd, Eädyth, Adwaith a Gwilym ar gael nawr fel rhan o Haf o Gerddoriaeth BBC Radio Cymru.
Bydd nifer o berfformiadau o wyliau cerddoriaeth eleni ar gael i'w clywed ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi, ac mae o leiaf un o'r artistiaid yn falch iawn, dolen allanol am hynny...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyma weddill y gwyliau sydd, neu fydd, ar gael:
Gŵyl Triban, yr Urdd
Mae setiau Bwncath, Hana Lili, Ciwb a Mali Hâf o Ŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd, Dinbych, eisioes ar gael fel rhan o Haf o Gerddoriaeth.

Y dorf yn mwynhau Bwncath yng ngŵyl Triban
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni, a pherfformiadau o Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, hefyd ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


Hefyd o ddiddordeb: