Oriel: Cymru yn y gwres
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi profi deuddydd o wres mawr - y poethaf ar record ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Dyma rai o'r golygfeydd drwy'r wlad dros y cyfnod byr o boethder cyn i'r rhagolygon ddarogan ychydig o law mewn rhai ardaloedd ar ôl dydd Mawrth.

Roedd pontŵn Llanberis dan ei sang o bobl ifanc yn ceisio cadw'n oer yn y gwres mawr ddydd Llun

Llwyddodd ambell un i ddod o hyd i dawelwch ar y dŵr yn Llyn Padarn drwy fentro ymhellach i ganol y llyn

Yn y Sioe Frenhinol roedd Harm, 8 oed, o'r Iseldiroedd wedi dod o hyd i dap dŵr i geisio cadw'r gwres i lawr

Yn y sied wartheg hefyd roedd angen helpu'r anifeiliaid rhag gorboethi

Greg, Andy a Josh, ymwelwyr o Gilgwri (y Wirral) yn mwynhau peint yn yr haul ar ôl bod yn y môr ym Miwmares, Ynys Môn

Stryd boeth ym Mhenarlag, Sir y Fflint, y lle poethaf yng Nghymru ddydd Llun, erioed, yn ôl cofnodion, gyda thymheredd o 37.1C

Roedd llawer wedi gwrando ar y cyngor i aros mewn yn ystod y tywydd poethaf ond roedd ambell un wedi dod i fwynhau traeth Llandudno

Dŵr oer Llyn Tegid yn gwahodd wrth i blant yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, gysgodi dan goeden

A diolch byth am y coed yn gysgod nôl yn y Sioe Fawr ddydd Mawrth hefyd

Roedd llai o ymwelwyr nag arfer yng Nghonwy - mwy o gyfle i'r rhai oedd wedi mentro i gael tynnu eu llun wrth y Tŷ Lleiaf yng Nghymru felly

A dipyn o fynd ar y stondin gwerthu hufen iâ

Anfonodd Tudur Davies luniau o'r ddaear yn sych grimp yn Nyffryn Clwyd

Ac Afon Elwy yn isel

Roedd gwasanaethau achub yn rhoi cyngor am nofio yn ddiogel ym Mhorthcawl ddydd Mawrth

Gyda'r traeth ym Mhorthcawl yn weddol llawn daeth y cymylau ag ychydig o law hefyd - arwydd bod y sbel o dywydd eithriadol boeth ar drai

Bydd y caeau melyn ger Diserth yn Nyffryn Clwyd yn falch o unrhyw ddiferion a ddaw