Cofnodi'r diwrnod poethaf erioed yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dydd Llun ydy'r diwrnod poethaf ar gofnod yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'r tymheredd wedi cyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, gan fynd heibio'r record flaenorol - oedd wedi sefyll ers dros 30 mlynedd - am yr ail waith mewn diwrnod.
Cafodd y record ei dorri'n gynt ddydd Llun wrth gyrraedd 35.3C yn ardal Gogerddan, Ceredigion.
Mae hefyd wedi mynd tu hwnt i'r tymheredd uchaf wnaeth y Swyddfa Dywydd rybuddio yng Nghymru.
Gyda rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a ddydd Mawrth, fe rybuddiodd y gallai'r tymheredd gyrraedd 36C.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng cenedlaethol yn sgil y tywydd llethol.
Mae gofyn i bobl beidio â theithio os nad yw'n hanfodol ac mae rhai ysgolion sy'n parhau ar agor yn cynghori disgyblion i wisgo dillad ysgafn a llac.
Mae rhai gwasanaethau trên wedi cael eu canslo, wrth i Network Rail rybuddio y gallai'r gwres achosi difrod i'r cledrau mewn achosion difrifol.
Am y tro cyntaf erioed mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch ar gyfer rhannau helaeth o Loegr ddydd Llun a ddydd Mawrth ac mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 40C mewn rhai ardaloedd.
Mae penaethiaid iechyd a'r llywodraeth wedi rhybuddio'r cyhoedd am beryglon y gwres llethol, gan ofyn i bobl "gymryd y rhybudd ambr o ddifri" am ei fod yn golygu y gallai'r gwres arwain at salwch a marwolaeth, hyd yn oed ymhlith pobl iach a heini.
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod galw uchel am eu gwasanaethau yn y dyddiau diwethaf.
"Rhai o'r prif resymau dros alw 999 oedd problemau anadlu a phoenau yn y frest, ac o achos hyn, mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd gofal heno, yfory a'r dyddiau sydd i ddod", meddai.
"Mae'r galw am ein gwasanaeth wedi bod yn uchel iawn heddiw, ac mae rhai ysbytai wedi wynebu heriau yn yr adrannau brys, ond rydym yn parhau i flaenoriaethu'r rhai sy'n ddifrifol wael ac wedi'u hanafu."
Mae'n bosib y bydd angen i bobl newid rhai o'u cynlluniau dros y dyddiau nesaf, meddai dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, Chris Jones, wrth y BBC.
Y cyngor i ysgolion yw sicrhau bod yna ddigon o gysgod a bod ystafelloedd wedi eu hawyru.
Mae yna anogaeth i ddisgyblion wisgo dillad llac a hetiau gan osgoi gormod o ymarfer corff ac mae angen yfed digon o ddŵr.
Mae arbenigwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd defnyddio eli haul sydd wedi ei brynu yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae yna gyngor i bobl fod yn ofalus os ydyn nhw'n mynd i'r dŵr.
Dywedodd Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Abertawe eu bod yn barod wedi gweld cynnydd yn y nifer o blant sy'n gorfod cael eu trin am losgiadau difrifol.
"Mae llosgi dy groen yn cynyddu'r posibilrwydd o ddatblygu canser y croen," medd y nyrs Louise Scannell.
"Os wyt ti wedi llosgi'n ddifrifol cyn i ti fod yn 18 oed, does dim modd dad-wneud y niwed yna... felly mae'n bwysig iawn i wisgo eli haul."
Y tymheredd uchaf oedd wedi ei gofnodi yng Nghymru yn flaenorol oedd 35.2C, a hynny ar Bont Penarlâg yn Sir Y Fflint ar 2 Awst 1990.
Caerdydd oedd wedi profi diwrnod poethaf 2022 cyn dydd Llun, wrth i'r tymheredd gyrraedd 28.7C ddydd Llun diwethaf.
Gwres llethol ar faes y Sioe Fawr
Mae disgwyl i dros 50,000 o bobl y dydd ymweld â'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon, ac mae'r trefnwyr a'r rhai sy'n arddangos yn dweud eu bod wedi paratoi ar gyfer y gwres llethol.
Mae prif filfeddyg y sioe wedi dweud bod "pryderon penodol" am ddefaid yn y gwres a bod anifeiliaid yn dioddef "fel pobl - os nad yn waeth - mewn gwres mawr".
Ar ddiwrnod cyntaf y sioe mae system awyru newydd i ddefaid yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
"Ry' ni wedi buddsoddi £50,000 mewn ffaniau mawr yn y sied ddefaid i 'neud siŵr fod popeth yn ddiogel," meddai Mared Jones, pennaeth gweithrediadau'r Sioe Fawr.
"Hefyd mae canllawiau am ddigon o ddŵr, a bydd cyflenwad gan Dŵr Cymru."
Dywedodd Margaret Hughes, Is-gadeirydd Cymdeithas Balwen, ei bod yn edrych ymlaen at y cystadlu a'i bod yn hapus gyda'r ddarpariaeth ar gyfer cadw'r defaid yn ddiogel yn y tywydd poeth.
"Dwi'n hapus efo'r trefniadau. Maen nhw wedi gwneud yn dda o dan yr amgylchiadau," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Llun.
Roedd hi hefyd yn falch o fod yn ôl ar ôl yr absenoldeb o ganlyniad i'r pandemig.
"Mae'r profiad o gael cystadlu yn y Sioe yn Llanelwedd yn rhywbeth 'da chi byth yn anghofio fo.
"Mae'n rhyfedd eleni ar ôl tair blynedd o beidio cystadlu ac mae pawb efo buzz i gael cychwyn yn ôl."
Fe fydd rhai perchnogion yn defnyddio eli haul i ddiogelu eu moch rhag yr haul, ac fe fydd Ela Mair yn gosod tywelion gwlyb arnynt.
"Dyw moch ddim yn rhyddhau gwres o'u cyrff cystal ag anifeiliaid eraill, felly mae'n anodd i gadw eu tymheredd i lawr," meddai.
"Fe fyddwn ni'n eu cadw nhw yn y cysgod a chadw'r ffaniau ymlaen gymaint ag y gallwn ni."
Lleihau cyflymdra trenau
Mae gofyn i bobl deithio dim ond os yw'n gwbl hanfodol dros y ddeuddydd nesaf.
Mae cwmnïau trên wedi rhybuddio y bydd cyfyngiadau cyflymdra ar y rheilffyrdd drwy'r DU, sydd yn golygu y bydd teithiau'n cymryd mwy o amser.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi canslo trenau sydd yn teithio drwy ardaloedd rhybudd coch y Swyddfa Dywydd.
Bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu canslo: Amwythig-Birmingham, Caer-Lerpwl, Caer-Manceinion, Caer-Crewe a Crewe-Manceinion, yn ogystal â Llinell Dyffryn Conwy.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi rhybuddio y bydd gwasanaethau i'r Sioe Fawr, i'r arfordir ac i'r de yn sgil seremonïau graddio yn "brysur iawn".
Dywedodd Network Rail fod cledrau dur yn amsugno gwres yn hawdd, a phan maen nhw'n cyrraedd tymheredd uchel mae'n bosib y gallan nhw dorri.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022