Lluniau: Y Sioe Frenhinol 2022
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Frenhinol yn ôl wedi absenoldeb o ddwy flynedd yn sgil pandemig Covid-19. Ac i groesawu'r torfeydd yn ôl mae'r haul a gwres poeth ymhell dros 30C.
Dyma rhai o'r golygfeydd o ddiwrnod cynta'r sioe.

Harm, hogyn 8 oed o'r Iseldiroedd sy'n ymweld efo'i deulu yn gwneud y mwya o'r cyfle i osgoi'r gwres

Dydi gwres tanbaid eleni heb atal y cystadlu brwd.

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ymweld â'r sioe.

Hedd, 2, o Sir Benfro yn cael seibiant yng nghysgod y sied ddefaid.

Fflur Jones o Fachnylleth yn cymryd rhan yn un o'r cystadleuthau wrapio gwlan.

'Hulk', hwrdd 14 mis oes Valais Blacknose (brîd o'r Swistr) yn cael ei dywys gan Steve Dace sy'n ffermio ger Caer.

Mewn tywydd poeth mae'n help cael peirianwaith i stopio'r gwartheg rhag gorboethi.

Ceffylau gosgeiddig yn y Prif Gylch ar fore Llun.

Pobl o bob oed yn dysgu sut i ganŵio ac sut i ddefndyddio 'stand-up paddle board'.

Tair chwaer a'u cyfnither; Nancy, Martha, Polly a Nina o Sir Benfro

Un o'r siediau defaid ble mae'r cystadleuwyr yn paratoi cyn cwrdd â'r beirniaid.

Bet o Lanelwy a Nora o Ruddlan yn cuddio o'r gwres a mwynhau hufen iâ yn y babell fwyd.

Patrick Fitzpatrick ac Osian Williams yn brwydro ei gilydd, ar gwres, yn un o ornestau'r bwyellwyr.

Aelodau o'r Awyrlu yn rhoi sioe arbennig i'r dorf uwchben y Brif Gylch.

Cysgodi o'r haul o dan y coed ger y llyn ar y maes.

Hefyd o ddiddordeb: